Ganwyd ym Mhenyfigin, Llanfihangel yng Ngwynfa, Sir Drefaldwyn, 22 Chwefror 1775. Dysgodd grefft gwehydd, ond ar ôl gwrando ar Thomas Jones, Llanwnnog, yn pregethu, ac ymuno â'r seiat Fethodistiadd ym Mhenllys, fe ddaeth i sylw Thomas Charles, Bala, a chyflogwyd ef yn athro yn yr ysgolion cylchynol. Bu'n cadw ysgol mewn amryw fannau. Bu'n lletya un adeg yn Nolwar Fach, a gwyddys ei fod yn gyfeillgar ag Ann Griffiths yn 1800; gohebodd lawer â hi o hynny hyd 1805. Dechreuodd bregethu yn 1802; ordeiniwyd ef yn sasiwn y Bala, 1814, ac ymsefydlodd yn Nhŷ Capel Pontrobert. Priododd Ruth Evans, morwyn Dolwar, yn 1805; ef a'i briod a ddiogelodd i'r genedl emynau a llythyrau Ann Griffiths. Un aflêr ei olwg ac aflafar ei lais ydoedd; eto yr oedd yn bersonoliaeth hynod ac ni fu amheuaeth erioed am ei dduwioldeb. Ysgrifennodd lawer i gyfnodolion ei oes, a chyhoeddodd gofiannau, casgliadau o emynau, a phregethau. Ei gofiant hynotaf yw'r un i Ann Griffiths (a ymddangosodd yn Y Traethodydd, 1846, ac yn llyfryn yn 1854). Cyhoeddodd hefyd Cofiant Owen Jones o'r Gelli, 1830, Cofiant William Jones, Dol-y-fonddu, ac E. Griffiths, Meifod, 1841, a Cofiant Abraham Jones, Aber-rhaiadr, a John Price, Trefeglwys, 1841. Ceir ei emynau yn Cyfansoddiad Prydyddawl ar Lyfr Caniad Solomon, 1821; Hymnau i'w canu yn yr Ysgolion Sabbothol, 1821; a nifer o ' Hymnau i Ieuenctyd ' yn niwedd Cofiant John Bebb (W. Owen, 1829). Ymddangosodd ei hymnau gorau yn y cyfnodolion cyfoes, ac y mae'r rheini mewn bri o hyd. Cyhoeddodd bedwar casgliad o bregethau yn 1836 a 1838. Un o gyfeillion bore'i oes oedd John Davies y cenhadwr (1772 - 1855, ac o berthynas iddo cyhoeddodd Hanes Mordaith John Davies, 1827, a golygodd Trefn Eglwysig Ynysoedd Mor y Dehau (d.d.) - cyfres o lythyrau ato oddi wrth ei gyfaill. Bu farw 3 Awst 1854, a chladdwyd ef ym Mhontrobert.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.