DAVIES, JOHN (1772 - 1855), cenhadwr ac athro ysgol

Enw: John Davies
Dyddiad geni: 1772
Dyddiad marw: 1855
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr ac athro ysgol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Evan Lewis Evans

Bu'n genhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain yn Ynysoedd Môr y Deau am 54 mlynedd, ac athro ysgol o dan Thomas Charles o'r Bala yn Llanwyddelan yn 1800; ganwyd 11 Gorffennaf 1772 yn fferm fechan Pendugwm, ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn. Mab i wehydd ydoedd, ac wedi bod am ychydig addysg yn ysgolion Madam Bevan, bu'n cadw ysgol ei hun yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Ymaelododd gyda'r Methodistiaid a addolai mewn tŷ annedd o'r enw Penllys. Pan ofynnwyd am athrawon i ynys Tahiti, barnwyd ei fod yn gymwys i'r gwaith, a hwyliodd ef a'i briod tuag yno, 5 Mai 1800. Bu Elizabeth Davis yn ymweld ag ef yno.

Yr oedd o'r un ardal ag Ann Griffiths, cynhwyswyd ychydig dudalennau o'i waith yn y gyfrol Gwaith Ann Griffiths yng ' Nghyfres y Fil ', ac ysgrifennai'n fynych at John ei brawd, ac y mae llu o'i lythyrau at y Parch. John Hughes, Pont Robert, ar glawr.

Paratoes ramadeg a geiriadur o iaith Tahiti, trosodd Taith Pererin, cyfieithodd rannau helaeth o'r Testament Newydd a'r Salmau, catecism Brown, catecism Westminster ac amryw o lyfrau llai. Cyhoeddwyd ei History of the Tahitian Mission, 1799-1830, gol. C. W. Newbury (Caergrawnt, 1962).

Llafuriodd mewn dellni am y 10 mlynedd olaf o'i oes, a bu farw 19 Awst 1855 ar ôl tymor difwlch o 55 mlynedd dros y don.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.