Erthygl a archifwyd

DAVIS, ELIZABETH (BETSI CADWALADR) (1789 - 1860), nyrs a theithwraig

Enw: Elizabeth Davis
Dyddiad geni: 1789
Dyddiad marw: 1860
Partner: H____
Partner: James B___
Partner: Thomas Harris
Rhiant: Judith Cadwaladr (née Humphreys)
Rhiant: Dafydd Cadwaladr
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: nyrs a theithwraig
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Teithio
Awdur: Gwyneth Tyson Roberts

Ganwyd Betsi Cadwaladr ar fferm ei thad, Penrhiw ger y Bala, Sir Feirionnydd, ar 24 Mai 1789, y trydydd plentyn ar ddeg o un ar bymtheg (fe ymddengys), i Dafydd Cadwaladr (1752-1834) a'i wraig Judith (née Humphreys neu 'Erasmus', bu farw 1800). Fe'i bedyddiwyd yn Llanycil ar 26 Mai 1789. Yn ôl ei Autobiography, newidiodd Betsi ei chyfenw o 'Cadwaladr' i 'Davis' pan oedd yn byw ymhlith y di-Gymraeg nad oedd yn medru ynganu 'Cadwaladr'. Fel ei brodyr a'i chwiorydd hŷn, mabwysiadodd 'Davis' ar sail enw bedydd ei thad, gan ddefnyddio'r hen system batronymaidd Gymreig.

Yr oedd ei thad, Dafydd Cadwaladr, yn bregethwr adnabyddus gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn aelod o Gyfundeb y Dduges Selina, Huntingdon ac yn gyfaill agos i Thomas Charles o'r Bala. Roedd ei chwaer iau Bridget (1795?-1878) yn forwyn i'r Arglwyddes Augusta Hall yn Llundain a Llanofer, sydd yn esbonio'r gefnogaeth a dderbyniodd hunangofiant Betsi o du'r Arglwyddes Llanofer.

Y mae'n rhaid pwysleisio bod pob gwybodaeth fanwl am fywyd Betsi Cadwaladr, ar wahan i'w dyddiadau geni a marw, a dechrau a diwedd ei gwasanaeth fel un o nyrsys Florence Nightingale, yn deillio o The Autobiography of Elizabeth Davis a Balaclava Nurse Daughter of Dafydd Cadwaladyr Edited by Jane Williams (Ysgafell), a gyhoeddwyd ym 1857. Dygwyd allan argraffiadau o'r gyfrol gan Wasg Honno ym 1987 a 2015. Yn yr olaf, adferwyd testun gwreiddiol 1857 yn llawn am y tro cyntaf. Gollyngasid rhagair Jane Williams o'r argraffiadau cynharach, gan gwtogi a newid hanes bywyd Betsi yn ogystal.

Yn ôl ei hunangofiant, treuliodd Betsi Cadwaladr ei blynyddoedd cynnar ar fferm ei thad. Triniwyd hi'n wael gan ei chwaer hŷn, a oedd yn cadw'r tŷ yn dilyn marwolaeth eu mam ym 1795-6, ac o ganlyniad ffôdd Betsi i gartref tirfeistr eu tad, Simon Lloyd, Plas-yn-dre, y Bala. Treuliodd y pum mlynedd nesaf yno, gan dderbyn addysg dda a hyfforddiant fel morwyn tŷ. Wedi addo aros gyda'r teulu am flwyddyn yn ychwanegol, penderfynodd, serch hynny, ei bod hi angen gweld mwy o'r byd, gan adael am Lerpwl yn ddisymwth. Treuliodd sawl blwyddyn yno yng ngwasanaeth nifer o deuluoedd. Ym 1815-16, teithiodd o gwmpas gwledydd Ewrop gyda theulu un o'i chyflogwyr. Ymddengys iddi ddatblygu hoffter o fynychu'r theatr ac o actio yn ystod y cyfnod hwn.

Yng nghymuned Cymry Lerpwl y cyfarfu Betsi ei darpar ŵr cyntaf, Thomas Harris, capten llong fasnachol o Solfach yn Sir Benfro. Boddodd Harris ddau ddiwrnod cyn eu priodas pan ddrylliwyd ei long y tu allan i borthladd Lerpwl. Diweddïodd Betsi sawl tro ar ôl hynny, yn gyntaf gyda James B___, peintiwr tai o Gaer, ond ffôdd i Lundain ddau ddiwrnod cyn y briodas, gan aros yn nhŷ John Jones (Jac Glan-y-gors), perthynas bell iddi. Yn ystod y cyfnod dilynol yn Llundain, lle bu'n gweithio fel morwyn tŷ, diweddïodd am amser byr â chlustogwr y cyfeiria'r hunangofiant ato fel H___ yn unig.

Ym mis Tachwedd 1820, dechreuodd weithio fel morwyn i wraig capten llong fasnachol ar daith i India'r Gorllewin. Wedi'r daith gyntaf hon, ac yn gyflogedig gan gyfres o wragedd capteiniaid llongau, ymwelodd â De Affrica, De America, Awstralia, Seland Newydd, Singapwr ac ynysoedd y Môr Tawel, yn ogystal â Gwlad Groeg, Twrci a'r Aifft. Yn ystod y cyfnod hwn daeth yn brofiadol ym maes nyrsio, yn fynych o dan amodau anodd, pan fyddai teithwyr neu aelodau'r criw yn sâl, a gweithredodd fel bydwraig mewn sawl achos yn ogystal.

Wrth iddi heneiddio, treuliodd Betsi fwy o'i hamser yn ôl ym Mhrydain, gan wasanaethu fel morwyn yng ngogledd Cymru ym 1844-5 ac yn y de ym 1849. Gweithiodd am ryw flwyddyn fel nyrs yn Ysbyty Guy yn Llundain wedyn, cyn dilyn yr un swydd fel nyrs breifat yng nghartrefi cleifion. Yn hydref 1854 darllenodd adroddiad papur newydd ar Frwydr Afon Alma, brwydr fawr gyntaf Rhyfel y Crimea, a phenderfynodd yn syth i deithio yno 'to see what was going on, and to take care of the wounded', yn ôl yr Autobiography. Gwirfoddolodd fel nyrs, ond bu'n rhy hwyr iddi ymuno â charfan nyrsys Florence Nightingale.

Gorchmynnodd Nightingale na ddylai rhagor o nyrsys adael Prydain nes iddi geisio amdanynt, ond yr oedd ail garfan dan arweiniad Mary Stanley eisoes wedi gadael Llundain ar 2 Rhagfyr 1854, a Betsi Cadwaladr yn eu plith. Ni chafodd Nightingale wybod amdanynt tan wythnos cyn i'w llong lanio yn Istanbwl, pan fu'n rhy hwyr i'w troi yn ôl. O ganlyniad, canfyddent nad oedd eu heisiau yno, a'u bod heb lety addas na thasgiau i lenwi eu hamser. Yn ei blinder a'i rhwystredigaeth rhoddwyd y bai ar Nightingale gan Betsi, a gymerodd yn erbyn y nyrs enwog y tro cyntaf y clywodd ei henw.

Amcan Betsi oedd mynd i'r Crimea, ac wedi treulio deng niwrnod yn ysbyty'r fyddin Brydeinig yn Scutari ar gyrion Istanbwl, llwyddodd i wneud hynny. O ganlyniad i wrthdaro chwerw â Florence Nightingale (a oedd yn gallu bod yn ffroenuchel gyda'r sawl a welodd yn israddol iddi yn gymdeithasol), trosglwyddodd Betsi i ysbyty'r fyddin yn Balaclava. Yn ôl ei hadroddiad ei hun, roedd ganddi'r egni, y nerth a'r stumog cryf i weithio'n effeithlon yn y ward yno. Serch hynny, symudwyd hi ar ôl rhyw chwe wythnos i fod yn gyfrifol am y gegin a fyddai'n paratoi bwyd i'r dynion a oedd yn rhy wan neu dost i stumogi dogn y Fyddin Brydeinig. Gweithiodd yno ar ei phen ei hun am y rhan fwyaf o'r amser, o bump y bore tan hanner nos, saith diwrnod yr wythnos, am fwy na saith mis. Ar ddiwedd y cyfnod hwn yr oedd yr oriau hir, y gwaith caled a'r amgylchiadau anodd yn effeithio ar ei hiechyd. Dioddefodd o ddolur rhydd a disentri, ac anfonwyd hi adre i Brydain ym mis Tachwedd 1855. Daeth penllaw ei dicter tuag at Nightingale yn y ddadl ddilynol am gyflog dyledus iddi am ei gwaith yn y Crimea.

Dychwelodd i Brydain, 'in broken health … and unprovided for', yng ngeiriau'r apêl am roddion a geir yn ei Autobiography. Nid oes cofnod faint o arian a godwyd drwy werthiant y llyfr. Bu farw yng nghartref ei chwaer Bridget yn nwyrain Llundain ar 17 Gorffennaf 1860 ac fe'i claddwyd mewn bedd tlotyn ym Mynwent Abney Park. Yn 2012 canfuwyd lleoliad ei bedd a chodwyd maen coffa iddi gan Goleg Brenhinol y Nyrsys. Ceir arno yr arysgrifiad dwyieithog, 'Y ffyddlonaf o Nyrsys Ei Mawrhydi' a 'The faithful[l]est of Her Majesty's Nurses'. Deillia'r fersiwn Saesneg o eirda Margaret Wear, y bu Betsi yn gweithio odani yn Balaclava, ac a gafwyd o'r Autobiography.

Hanes bywiog ac egnïol am fywyd a phrofiadau Betsi a geir yn yr Autobiography, ac mae'r adroddiadau am ei theithiau yn enwedig yn llawn o anturiaethau peryglus a chyffrous. Arddengys drwy lawer ohonynt ei gwroldeb, ei dewrder corfforol, ei dyfeisgarwch, a'i hunanfeddiant. Y mae hefyd yn nodi iddi dderbyn dros ugain cais i'w phriodi. Dilynwyd Betsi gan fasnachwr Portiwgeaidd o'r enw Barbosa hanner ffordd o gwmpas y byd, hyd yn oed, gan geisio ei herwgipio i orfodi priodas. Ymddengys nad oedd yr un ohonynt yn cymharu'n ffafriol â'i chariad cyntaf, y Capten Harris. Ei phrif nodweddiadau, yn ôl testun yr Autobiography, oedd ei hysbryd annibynol a'i Chymreictod balch, a bwysleisir o dudalen cyntaf yr hanes tan yr olaf. Ymddengys iddi wrthwynebu awdurdod bydol pryd bynnag y daeth ar ei draws, ond arhosodd yn Gristion ymroddedig drwy gydol ei bywyd, gan drysori'r Beibl a roddwyd iddi yn blentyn gan Thomas Charles.

Y mae hi'n bwysig cofio bod hanes ei bywyd yn annibynadwy ar adegau, fel y dengys esiampl ei hoedran. Yng nghofrestr nyrsys Florence Nightingale rhoddodd ei hoedran fel 55 pan ymrestrodd yn hydref 1854. Pe bai wedi gosod ei gwir oedran o 65, byddai wedi cael ei gwrthod yn syth, ac yr oedd yn benderfynol o fynd i'r Crimea. Yn yr Autobiography ceir oedran sydd rhwng y ddau, o bosib am y byddai'r gwir oedran wedi datgelu ei chelwydd i gyfeillion Nightingale. Eto i gyd, pe bai wedi defnyddio'r oedran a geir yn y gofrestr, byddai ei chyfeillion bore oes wedi sylwi ar y twyll. O ganlyniad, y mae ei hoedran yn yr Autobiography yn amlwg yn anghywir mewn perthynas i sawl digwyddiad pwysig. Er enghraifft, honnir ei bod yn bum mlwydd oed pan fu farw ei mam, ond cofnodwyd claddedigaeth y fam yng Nghofrestr Plwyf Llanycil ar gyfer 10 Chwefror 1800, pan oedd Betsi yn ddeng mlwydd oed.

Dengys 'Preface' yr Autobiography gan Jane Williams (Ysgafell), un o haneswyr benywaidd cyntaf Cymru, faint ei chyfraniad hithau i gynnwys y gyfrol. Ymddengys i Williams geisio llenwi'r bylchau yng nghof Betsi ynghyd â manylion digwyddiadau, amseroedd, daearyddiaeth, ac enwau pobl a lleoedd. Ychwanegodd hefyd at arddull y testun. Mae rhai brawddegau yng ngeiriau Betsi ei hun, tra bod eraill yn efelychiad gan Williams o iaith lafar Betsi. Y mae rhai o'r troednodiadau yn cwestiynu neu'n gwrth-ddweud datganiadau yn y testun mewn ffordd sydd yn dangos mai Betsi a benderfynodd pa wybodaeth a fyddai yn y prif destun, ond mai Williams a reolai'r troednodiadau. O ganlyniad, yn hytrach nag ystyried yr Autobiography yn 'chronicle of true facts', dylid ei drin fel cynnyrch cydweithrediad cymhleth rhwng Betsi Cadwaladr a Jane Williams.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2019-05-21

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

DAVIES, ELIZABETH (BETSI CADWALADR, 1789 - 1860), gweinyddes yn y Crimea

Enw: Elizabeth Davies
Dyddiad geni: 1789
Dyddiad marw: 1860
Partner: H____
Partner: James B___
Partner: Thomas Harris
Rhiant: Judith Cadwaladr (née Humphreys)
Rhiant: Dafydd Cadwaladr
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gweinyddes yn y Crimea
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Milwrol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Merch i Ddafydd Cadwaladr. ganwyd 24 Mai 1789, bedyddiwyd yn Llanycil 26 Mai. Daw'r cwbl a wyddom am ei gyrfa o'r Autobiography of Elizabeth Davis (dwy gyfrol, 1857), sef nodiadau o sgyrsiau gyda hi gan Jane Williams, Ysgafell. Wedi marw ei mam (tua 1795-6), a than ofal chwaer hyn nas hoffai, ystyfnigodd Elizabeth yn fore. Derbyniwyd hi ar aelwyd Simon Lloyd o Blas-yn-dre, perchen tyddyn ei thad, a thriniwyd hi'n garedig yno (dysgodd ddawnsio a chanu'r delyn), ond ffoes i Lerpwl yn 14 oed (dylid dweud mai amhendant iawn yw ei dyddiadau) ac aeth i wasnaethu; eto glynodd yn dynn wrth yr achos Methodistaidd yn y ddinas. Ar deithiau gyda theulu ei meistr, cafodd weld Mrs. Siddons yn Edinburgh, ac ymweld ag amryw o wledydd y Cyfandir. Dychwelodd i'r Bala, ond ffoes drachefn, i Gaer, ac oddi yno (er mwyn osgoi priodi) i Lundain, lle y bu'n aros dan nenbren John Jones, Glan-y-gors, yr honnai hi ei bod yn 'perthyn o bell' iddo. Yn forwyn yn nhy teiliwr ffasiynol, gallodd gyfuno ffyddlondeb cyson i'r capel a diddordeb yn y chwaraedy. Yn 1820, ar ô ymweliad â'r Bala (lle 'diflas,' meddai hi), aeth yn forwyn yn nheulu capten llong, a bu'n crwydro'r byd am flynyddoedd, gan gyfarfod pob math o bobl (megis William Carey a'r esgob Heber), actio Shakespeare ar fwrdd y llong a mynd drwy anturiaethau cynhyrfus (meddai hi, gyda gradd o ymffrost efallai); ond ymddygnodd yn erbyn priodi - merch wrywaidd braidd, gellir tybio. Wedi dychwelyd i Loegr, collodd ei henillion rywsut, ac aeth drachefn i wasnaethu - edrydd i Charles Kemble ei chlywed yn actio ' Hamlet ' yng nghegin ei meistr a chynnig iddi le yn ei gwmni ef, a thâl o £50 yr wythnos. Bu yng Ngogledd Cymru yn 1844-5, ac yn y Deheudir yn 1849, gan fynychu sasiynau. Gadawodd ei meistr 'ffortiwn' iddi, ond collodd honno drwy driciau cyfreithiol; aeth wedyn yn weinyddes yn Guy's Hospital, ac arweiniodd hynny hi i gynnig mynd i weini i'r Crimea yn 1854. Fel y gallesid disgwyl, aeth pethau'n ddrwg rhyngddi a Florence Nightingale. Anfonwyd hi adre'n wael; llym i'r eithaf yw ei barn am gyflwr pethau yn y Crimea. Treuliodd ei blynyddoedd olaf mewn tlodi, a bu farw 17 Gorffennaf 1860, yn nhy ei chwaer Bridget yn Llundain. Hyd y diwedd, glynodd wrth grefydd, a'r Beibl bychan a roddwyd iddi'n eneth gan Thomas Charles oedd ei 'chydymaith cyson,' chwedl hithau. Ond llawn cyn gryfed oedd tynfa'r chwaraedy arni, a'i hawydd am weld y byd a chyfranogi o'i gyffro - yn hyn, ond odid, fe welir adwaith i gyfeiriad bywyd cyn-Fethodistaidd henfro ei thad.

Awdur

  • Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969)

    Ffynonellau

  • Mr. R. Owen a ddarganfu'r dyddiadau geni a marw
  • C. Woodham Smith, Florence Nightingale. 1820-1910 ( Llundain 1950 ), yn bennaf 193, 215, 219

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.