LLOYD, SIMON (1756 - 1836), clerigwr Methodistaidd

Enw: Simon Lloyd
Dyddiad geni: 1756
Dyddiad marw: 1836
Priod: Bridget Lloyd (née Price)
Rhiant: Sarah Lloyd (née Bowen)
Rhiant: Simon Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Clerigwr Methodistaidd o Blas-yn-dre yn y Bala, y tŷ mwyaf yn y dref yn 1700 meddai Parochialia Edward Lhuyd - mewn ystordy yng nghefn y tŷ yr addolai Annibynwyr y Bala nes codi eu capel. Cangen oedd Llwydiaid Plas-yn-dre o Lwydiaid Rhiwedog (- a gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 234, 383), ac yr oedd ' Simon ' yn enw teuluol ynddi. Priododd SIMON LLOYD o'r Rhiwedog (bu farw 1711 - efe a brynodd Blas-yndre a Moelygarnedd Anne Wynne o Langynhafal; ail fab iddynt oedd Rowland Lloyd (bu farw 1744), a briododd Winifred Pugh o Benrhyn Creuddyn; a mab iddynt hwythau oedd SIMON LLOYD, a fedyddiwyd 2 Mai 1730 ac a gladdwyd 5 Rhagfyr 1764. Daeth y Simon Lloyd hwn dan ddylanwad Methodistiaeth, ac aeth ar ymweliad i Drefeca, lle y cwympodd mewn cariad â Sarah Bowen (ganwyd 1727, bu farw 29 Ebrill 1807), ' matron ' gyntaf teulu Trefeca. Cafwyd cryn drafferth i gael caniatâd Howel Harris i'r briodas - yn hytrach, efallai, i gael eiddo Sarah yn ôl allan o drysorfa Trefeca; ond o'r diwedd, trwy gyfryngiad John Evans o'r Bala, fe'u priodwyd - y mae'r cytundeb priodas i'w weld yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, x, 30-3. Perthynai Sarah Bowen i deulu'r Tyddyn, gerllaw Llanidloes, sy'n enwog yn hanes Methodistiaeth Maldwyn - gweler ysgrif Richard Bennett arno, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, viii, 57-62, a'i gyfeiriadau mynych yn Meth. Trefaldwyn Uchaf, a chwilier y fynegai yn argraffiad Curnock o'r Journals of John Wesley. Dilynwyd Sarah Bowen (Lloyd) fel ' matron ' yn Nhrefeca gan ei chwaer Hannah Bowen (1729 - 1805), a fu yno hyd farw Mrs. Harris - aeth wedyn (1771) i goleg yr iarlles Huntingdon yn Nhrefeca yn ' matron,' ond yn ddiweddarach priododd William Powell o Wrecsam; bu farw ym Mhwllheli.

Ganed i Simon a Sarah Lloyd chwech o blant. Y pedwerydd o'r rhain oedd LYDIA LLOYD, a ddaeth yn wraig i Thomas Foulkes. Yr hynaf oedd y Simon Lloyd y mae a wnelo'r ysgrif hon ag ef; ganwyd ef yn 1756. Dywedir iddo fynd i ysgol yn Bath, a dengys llythyr gan Thomas Charles (D. E. Jenkins, Thomas Charles, i, 153) iddo fod yn ysgol ramadeg y frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn Ebrill 1775, a graddiodd yn 1779 (Foster, Alumni Oxonienses). Urddwyd ef, a bu'n gurad yn Olveston o 1779 hyd 1783, ond yna cafodd guradiaethau yn Llandegla a Bryneglwys. Collodd Fryneglwys yn Hydref 1783 am gyfathrachu â'r Methodistiaid, ond daliodd at Landegla hyd 1788. Dywedir yn fynych iddo fod yn gurad Llangwm a Cherrig-y-drudion, ond cais yn unig a wnaeth am y swydd hon, a hynny cyn gadael Olveston. Ond y mae'n sicr iddo fod yn gurad Llanycil am dymor na wyddys mo'i ddechrau (yr oedd yno yn 1796) ond a barhaodd hyd 1800 ar waethaf anghydfod rhyngddo a'i reithor gwrth-Fethodistaidd (D. E. Jenkins, op. cit., ii, 402, etc.). Ym mis Mai 1800 gwahoddwyd ef gan blwyfolion Llanuwchllyn i fod yn gurad y plwyf, cydsyniodd y noddwr (Syr Watkin Williams-Wynn) ar ôl cryn betruster; ond gwrthododd yr esgob yn bendant (Tachwedd) ei sefydlu. O hynny allan ni bu Simon Lloyd o gwbl mewn swydd eglwysig - byddai'n gweinyddu ar dro, mor ddiweddar â 1811 beth bynnag. Wrth gwrs, nid oedd raid iddo wrth dâl. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i Thomas Charles; y mae llawer o'u llythyrau yn llyfr D. E. Jenkins, a Lloyd a sgrifennodd yr ysgrif goffa ar Charles yn yr Evangelical Magazine, 1815. Daeth yn ŵr dylanwadol iawn ym Methodistiaeth y Gogledd - erbyn 1811 yr oedd yn un o'r unig dri chlerigwr Methodistaidd yno. Nid oedd yn bregethwr gwlithog, ac yn wir ni hoffai hwyl na gorfoledd. Cymeradwyai ordeiniad 1811, serch (fel y digwyddai) na chymerth ran yn y gwasanaeth ordeinio. Cyhoeddodd yn 1817 Amseryddiaeth Ysgrythyrol, ac yn 1828 esboniad ar y Datguddiad; ac yn y blynyddoedd 1819-27 (T. M. Jones, Llenyddiaeth fy Ngwlad, 76) dug allan y drydedd gyfres o'r Drysorfa . Ymbriododd (1789) â Bridget Price o Ryd-colomennod (Llangrannog), a chawsant wyth o blant. Bu farw 6 Tachwedd 1836, a chladdwyd ym meddrod ei deulu yn Llanycil. Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr yn y dulliau newydd o drin y tir. Bu ei feddiannau yn y Bala ac o'i chwmpas ym meddiant ei ddisgynyddion hyd yn ddiweddar iawn - y mae rhestr ohonynt yn Seren y Bala, 26 Mai 1951.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.