EVANS, JOHN (1723 - 1817) 'o'r Bala,' pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Evans
Dyddiad geni: 1723
Dyddiad marw: 1817
Priod: Margaret Evans (née Roberts)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yng Nglan'rafon, Wrecsam, 30 Hydref 1723, ond yn 1727 symudodd ei rieni i Adwy'r Clawdd (efe, rhwng 1750 a 1753, a roes y tir y codwyd ' Capel yr Adwy,' capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y Gogledd, arno); bu am dymor yn wehydd ac wedyn yng ngwaith plwm y Mwynglawdd, ond yn 1742 aeth i'r Bala, ac ailddechreuodd fel gwehydd; bu wedyn yn rhwymwr llyfrau, ac yn ddiweddarach ar ei fywyd yn ' tallow-chandler ' (yn ôl gweithred Capel yr Adwy yn 1804).

Yn 1744, priododd â Margaret, ferch y bardd Morys ap Rhobert o Lanuwchllyn; merch iddynt oedd gwraig William Edwards (1773 - 1853), yr emynydd. Ymaelododd yn seiat newydd y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala yn 1745, ac yn gynnar iawn dechreuodd deithio i gynghori yn yr ardaloedd oddi amgylch, ond nid cyn 1765 y cydnabyddwyd ef yn bregethwr swyddogol. Enillodd le mawr iddo'i hunan fel un o arweinwyr diogelaf Methodistiaeth yn y Gogledd; yr oedd yn hynod am ei ffraethineb, ond gyda hynny am ei sylwadaeth graff a'i farn ddoeth. Efe a ddyfeisiodd y cynllun i dalu am gapelau trwy gasgliad rheolaidd. Bu'n ddeheulaw i Thomas Charles pan ddaeth hwnnw i fyw yn y Bala. Erbyn diwedd y ganrif, yr oedd wedi tyfu'n ymgorfforiad megis o draddodiadau Methodistaidd y Gogledd, a phriodol ddigon fu i Thomas Charles argraffu yn Y Drysorfa, 1799, 1809-13, atgofion John Evans, dan y teitl ' Ymddyddan rhwng Scrutator a Senex,' (ailargraffwyd hwy ar wahân, Machynlleth, 1885). Priodol hefyd fu i John Evans, 'y gwr hynaf a pharchusaf yn y Corff,' gymryd rhannau arweiniol y gwasanaeth ordeinio cyntaf yn y Gogledd, 19 Mehefin 1811. Bu farw 12 Awst 1817, a chladdwyd yn Llanycil.

John Evans a gyfieithodd yn 1759 waith John Wesley, Y Prif Feddiginiaeth, sef Physygwriaeth yr Oesoedd Gynt, ac yn 1761 ei Reolau a Threfniadau yr Unol Gymdeithasau, ond ymddengys mai ei gyd-drefwr Thomas Foulkes a ddug y draul o'u cyhoeddi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.