Nai (fab brawd) a disgybl i'r bardd Robert Williams (1744 - 1815) o'r Pandy. Ychydig iawn o'i hanes a wyddys ond ei fod yn wehydd, iddo briodi â merch i John Evans (1723 - 1817), a'i fod yn byw dan yr unto â'i dad-yng-nghyfraith pan fu farw hwnnw. Nid oedd yn bregethwr, ond cyn diwedd ei oes codwyd ef yn flaenor yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala; yr oedd yn selog iawn gyda'r ysgol Sul, a chynorthwyodd Thomas Charles i blannu ysgolion Sul yn y cyffiniau.
Ond ei hawl i'w gofio ydyw'r llyfr bychan a gyhoeddodd yn y Bala yn 1818, Ychydig Hymnau ar Destunau Athrawiaethol a Phrofiadol, y codwyd ohono ddau neu dri o'n hemynau enwocaf megis '' Does neb ond ef, fy Iesu hardd.' Ni wyddys ddyddiad ei eni na'i farw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.