WILLIAM(S), ROBERT (1744 - 1815), bardd, amaethwr

Enw: Robert William (S)
Dyddiad geni: 1744
Dyddiad marw: 1815
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, amaethwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

y Pandy Isaf, Tre Rhiwedog gerllaw'r Bala; ganwyd (yn ôl carreg ei fedd) yn 1744. Ni wyddys odid ddim o'i hanes. Bu'n ddisgybl barddol i Rolant Huw, ac yn athro yn ei dro i ' Ioan Tegid ' (John Jones, 1792 - 1852), a beirdd eraill. Canodd farwnad i Risiart Morys o Fôn, a 'Chywydd y Farn' a ystyrid gan Rolant Huw'n deilwng i'w gymharu â chywyddau mwy adnabyddus Goronwy Owain a William Wynn o Langynhafal ar yr un testun. Canodd hefyd gywydd i ' Ddafydd Ionawr,' a bu'n cyfnewid englynion â ' Thwm o'r Nant.' Ond marwnadau lleol a charolau a 'cherddi clwb' oedd y rhan fwyaf o'i waith; y mae cyfrol mewn llawysgrif ohonynt yn y Llyfrgell Genedlaethol. Er na sonnir dim amdano yng nghofnodion y capel Methodistiaid Calfinaidd agosaf ato (Llwyneinion), eto yr oedd yn troi o gwmpas crefydd: yn canmol Cymdeithas y Beiblau (y mae un o'i linellau ar ei gwaith hi wedi hen dyfu'n ddihareb), ac yn mawrygu Peter Williams. Ei farwnad iddo ef, yn wir, yw'r unig beth o'i waith, hyd y gwyddys, a gyhoeddodd (Croesoswallt, 1797 - gweler y Traethodydd, 1944, 60-1). Argraffwyd gwaith arall o'i eiddo gan O. M. Edwards (Cymru Fydd, iv, 41-4; Cymru, ii, 210-3; Beirdd y Bala, 40-8, yng ' Nghyfres y Fil') - o ran hynny i Owen Edwards y mae ein hadnabyddiaeth ohono, a'n gwybodaeth amdano, bron i gyd yn ddyledus. Bu farw yn Awst 1815 - claddwyd ef ar 1 Medi, yn Llanfor. Yr oedd William Edwards yr emynydd (1773 - 1853), yn nai fab brawd ac yn ddisgybl barddol iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.