RICHARDS, DAVID ('Dafydd Ionawr'; 1751 - 1827), athro a bardd

Enw: David Richards
Ffugenw: Dafydd Ionawr
Dyddiad geni: 1751
Dyddiad marw: 1827
Rhiant: Anne Richards
Rhiant: John Richards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro a bardd
Maes gweithgaredd: Addysg; Barddoniaeth
Awdur: David Gwenallt Jones

Ganwyd yn Glanymorfa, treftadaeth fechan yn ymyl Tywyn, Meirionnydd, 22 Ionawr 1751, yn fab i John ac Anne Richards. Pan oedd yn 16 (neu'n 14 yn ôl NLW MS 2735F ) daeth Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') yn gurad i Dywyn, ond ni all hyn fod yn wir, canys rhwng 1772 a 1777 yr oedd ef yn gurad yno. Cafodd 'Dafydd Ionawr' yn 'Ieuan Brydydd Hir' athro barddol. Ar gais 'Ieuan Brydydd Hir,' cydsyniodd ei dad a danfon ei fab i ysgol Ystradmeurig, at Edward Richard, ac yno y rhagorodd mewn mathemateg a'r clasuron. Daeth 'Dafydd Ionawr,' felly, dan ddylanwad dau o feirdd ac ysgolheigion mwyaf y 18fed ganrif. Cafodd swydd athro yn ysgol C. A. Tisdaile yn Wrecsam, ac yn 1774 aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, ond ni fu yno ond am un tymor. Aeth eilwaith yn athro at Tisdaile, a oedd erbyn hyn yn brifathro ysgol ramadeg yng Nghroesoswallt. Yn 1779 cafodd le is-athro yn ysgol ramadeg Caerfyrddin; yn yr un flwyddyn gwrthodwyd urddau iddo gan esgob Llandaf; yn nechrau 1790 cafodd le athro yn 'ysgol rad Tywyn' (efallai hen ysgol rad Llanegryn). Symudodd i Ddolgellau, 1794. Ar farwolaeth ei dad daeth holl eiddo ei rieni iddo (1798), a throsglwyddodd ei hawl ar ei etifeddiaeth i'w gyfaill Thomas Jones, ar yr amod y câi dreulio gweddill ei oes gyda'r teulu. Bu'n athro ysgol ramadeg Dolgellau, 1800-7. Bu farw 12 Mai 1827, a chladdwyd ef yn Nolgellau.

Dyma restr o'i lyfrau: Cywydd y Drindod , 1793; Hanes Bywyd Dafydd Ionawr , 'broadside' ar fesur rhydd yn disgrifio ei daith i gasglu enwau tanysgrifwyr i'w gywydd, a'i fethiant; Y Mil-Blynyddau, 1799; Gwaith Prydyddawl Dafydd Ionawr , 1803; Joseph, Llywodraethwryr Aipht, 1809; Barddoniaeth Gristianogawl, 1815; Cywydd y Diluw, yn dair Rhan, 1821; Cywydd y Drindod, 1834; Gwaith Dafydd Ionawr. Dan Olygiad y Parch. Morris Williams, M.A., Amlwch , 1851.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.