FOULKES, THOMAS (1731 - 1802), cynghorwr Methodistaidd bore

Enw: Thomas Foulkes
Dyddiad geni: 1731
Dyddiad marw: 1802
Priod: Lydia Foulkes (née Lloyd)
Priod: Jane Foulkes
Priod: Margaret Foulkes (née Jones)
Plentyn: Lydia Jones (née Foulkes)
Plentyn: Sarah Roberts (née Foulkes)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd bore
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym mhlwyf Llandrillo (Edeirnion), ond tua'r 23 oed aeth i weithio fel saer coed yn sir Gaerlleon. Ymunodd â seiat Wesleaidd yn Neston, a theimlodd yn ddwys dan bregeth gan John Wesley yn 1756. Yn fuan wedyn symudodd i'r Bala, lle nad oedd Wesleaeth; ymdaflodd yntau i gynghori gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Eto ni phallodd ei serch at Wesley a Wesleaeth; credir mai ef a dalodd am gyhoeddi cyfieithiadau John Evans o Brif Feddyginiaeth Wesley yn 1759 ac o Reolau … yr Unol Gymdeithasau yn 1761. Priododd deirgwaith, a phob tro fe'i cysylltodd ei hun â theuluoedd pwysig yn hanes Methodistiaeth Cymru. Ei wraig gyntaf (1758) oedd Margaret, ferch Humphrey Jones, dilledydd cefnog yn y Bala, un o ohebwyr Howel Harris, ac efallai prif golofn Methodistiaeth gynnar y dre; bu hi farw 1759. Yn 1761, priodwyd Foulkes â Jane, gweddw David Jones a mam Sarah a ddaeth wedyn yn wraig (1783) i Thomas Charles; bu farw Jane Foulkes yn 1785. Ei drydedd wraig oedd Lydia, merch i Simon Lloyd, chwaer i Simon Lloyd (1756 - 1836), a gweler yr ysgrif ar John Foulkes Jones. Rhag cydymgais fasnachol â'i lysferch Mrs. Charles, symudodd Foulkes i Fachynlleth, lle y llwyddodd yn dda; daliodd yn gynghorwr teithiol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yr oedd yn wr hynod elusengar. Bu farw ym Machynlleth 15 Mai 1802; pregethodd Thomas Charles a John Evans yn ei angladd. Wythnos cyn ei farw daeth Owen Davies a John Hughes i'r dref ar ran y genhadaeth Wesleaidd Gymraeg newydd - odid nad arbedwyd Foulkes felly rhag dewis a fuasai'n anodd iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.