ROBERTS, MORRIS ('Morris ap Robert '; bu farw, meddir, yn 1723), bardd gwlad a saer

Enw: Morris Roberts
Ffugenw: Morris ap Robert
Dyddiad marw: 1723
Plentyn: Margaret Evans (née Roberts)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd gwlad a saer
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

o Dynllidiart, Llanuwchllyn, a fu wedyn yn byw yn y Bala. Annibynnwr oedd ef, a merch iddo oedd gwraig y cynghorwr Methodistaidd John Evans o'r Bala. Cofnodwyd nifer o hanesion amdano, ac yn enwedig am ei dduwioldeb, yn Y Brython (Tremadog), Y Gwyliedydd, Llyfryddiaeth y Cymry, a Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru. Cadwyd enghreifftiau o'i farddoniaeth, yn ganu caeth a rhydd, mewn llawysgrifau; yn eu plith ceir cywydd ar Ddydd y Farn, cywydd i Lyn Tegid, englynion crefyddol, ac englynion ymddiddan rhyngddo a Richard John Jenkin. Cadwyd hefyd nifer o'i ganeuon rhydd, y mwyafrif ar destunau crefyddol a moesol; ceir chwech ohonynt yn Blodeugerdd Cymry. Argraffwyd peth o'i waith gan O. M. Edwards yn Beirdd y Berwyn a Beirdd y Bala (Cyfres y Fil). Argraffwyd yn Nhrefeca yn 1793, flynyddoedd lawer wedi ei farw, gan William Thomas, gweinidog yr Annibynwyr yn y Bala, draethawd crefyddol o'i waith, Cyngor i'r Cymry mewn Deuddeg o Bennodau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.