Ail fab Cadwaladr a Chatrin Dafydd o Erw Ddinmael, Llangwm, teulu a fu'n byw ar y tyddyn hwnnw am genedlaethau ac a oedd yn nodweddiadol o'r fro - yn dilyn anterliwtiau a chymhorthau gwau. Rhigymai Dafydd yntau pan yn llanc; ond ni ddysgodd ddarllen ond trwy graffu ar y llythrennau ar gefnau'r defaid a phigo ei ffordd wedyn drwy'r Llyfr Gweddi. Daeth yn ddarllenwr mawr, a chan fod ganddo gof hynod gryf, adroddai'r Bardd Cwsc a Thaith y Pererin yn y cymhorthau. Bu'n hogyn ar amryw ffermydd; tua 1771 aeth i weini at y pregethwr William Evans yn y Fedw Arian (y Bala), a oedd eisoes wedi denu ei fryd at Fethodistiaeth.
Tua 1777 priodwyd ef a Judith Humphreys (neu ' Erasmus '; bu hi farw tua 1795-6), a chymerth dyddyn Penrhiw gan y Parch. Simon Lloyd. O'i naw plentyn bu farw'r pedwar mab o'i flaen; dwy o'i ferched oedd Elizabeth Davis, ' Balaclava ', a Bridget (1795? - 1878), a fu'n gweini gyda'r Arglwyddes Llanofer yn Llundain ac yn Llanofer, ac a gladdwyd yng ' Nghapel Ed ' gerllaw Llanofer (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, Mehefin 1918).
Tua 1780 dechreuodd bregethu. Medrai'r Beibl ar dafod-leferydd; dywed ei ferch mai dan wau ('yn gyflym iawn') y gwnâi ei bregethau; a chan ei fod yn gerddwr diflino (hyd yn oed i Lundain), daeth yn bregethwr a hoffid led-led Cymru. Yr oedd yn gyfaill mawr i Thomas Charles, a chanodd farwnadau i Mr. a Mrs. Charles (Ehediadau y Meddwl, Bala, 1815). Bu farw 9 Gorffennaf 1834, a'i gladdu yn Llanycil.
O'r Ychydig Gofnodau ar … Dafydd Cadwaladr, dienw, a gyhoeddwyd yn y Bala yn 1836, y tardd bron bopeth a sgrifennwyd ar Ddafydd Cadwaladr; ceir hefyd ambell gipolwg arno ef ac ar ei gefndir yn hunangofiant ei ferch Elizabeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.