Ganwyd yn yr Ystrad, Llangwm, ond symudodd y teulu i'r Fedw Arian, y Bala. Yr oedd ef felly'n rhydd-ddeiliad, a phrynodd wedyn dyddyn y Maesgwyn yn Llanfihangel-glyn-myfyr. Gwystlodd fferm Maesgwyn amryw droeon; am y tro olaf, i'w fab Morris am £500, yn 1797. Yr oedd ganddo bedwar mab a thair merch. Claddwyd ei briod, Gwen, yn Llanycil, 1 Chwefror 1772. Dechreuodd gynghori tua 1765; yr oedd yn bregethw r nodedig, a chyda hynny'n un o ddynion pwysicaf Methodistiaeth y Bala yn ei ddydd. Cyhoeddodd farwnad am Mrs. Jane Foulkes, mam Mrs. Thomas Charles (Gwasg Trefeca, 1786); ac yn 1789 argraffwyd llyfr bychan o emynau o'i waith ef ac Edward Parry o Lansannan, 'dros ddyn tlawd a elwir William Ellis '. Yn ôl Robert Jones, Rhoslan, bu 'amser cyn ei farwolaeth' dan y parlys. Yn 1805 aeth i Devonport, i ymweld â dau o'i feibion, Evan a David. Trawyd ef yn glaf yno, a bu farw yn nhy David, 110 Pembroke-street, Plymouth Dock, ar 2 Ebrill 1805; claddwyd ym mynwent eglwys Stoke Damenel ar 5 Ebrill, 'yn 70 oed'.
Bu ei fab hynaf, EVAN (1760 - 1815) am ychydig yn feddyg yn y Llynges, ac yn gweini ar garcharorion Ffrengig yn Devonport; a chychwynnodd res nodedig o feddygon. Yr oedd WILLIAM (1795 - 1867), mab Evan, yn feddyg yn Devonport, a bu gan hwnnw bedwar o feibion o feddygon; bu farw tri ohonynt ar y môr, yng ngwasanaeth y Llynges, a bu'r llall, EVAN (1821 - 1887), yntau am beth amser yn feddyg yn y Llynges, ond wedyn ymsefydlodd yn Llundain. Dilynwyd yntau gan ddau fab o feddyg, sef WILLMOT HENDERSON EVANS (1859 - 1938), M.D., F.R.C.S., awdurdod ar afiechydon y croen, darlithydd mewn amryw ysbytai ac yn y R.C.S., a ROBERT EVANS (1871 - 1941), a oedd hefyd yn awdur. Ar y llaw arall, daearegwr o fri oedd eu brawd JOHN WILLIAM EVANS (27 Gorffennaf 1857 - 16 Tachwedd 1930). O University College School, Llundain, aeth ef i University College; graddiodd yn LL.B. yn 1882, ac yr oedd eisoes (1878) yn fargyfreithiwr o Lincoln's Inn; ond troes at ddaeareg, ac yn 1891 enillodd radd D.Sc. (Llundain). Fel daearegwr, teithiodd lawer yn America Ddeheuol, yn yr India, ac yn Ne Affrica; cyhoeddodd dros 150 o bapurau ar ei bwnc; bu'n Llywydd y Gymdeithas Ddaearegol yn 1924-6, ac etholwyd ef yn F.R.S. yn 1919. O bell y gellir ei ystyried yn Gymro, ond yr oedd ganddo ddiddordeb yn ei hynafiaid, ac ymwelodd â'r Bala i gasglu gwybodaeth amdanynt - o'i nodiadau ef y daw rhai o'r manylion uchod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.