PARRY, EDWARD (1723 - 1786), prydydd, 'cynghorwr' Methodistaidd, ac emynydd

Enw: Edward Parry
Dyddiad geni: 1723
Dyddiad marw: 1786
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prydydd, 'cynghorwr' Methodistaidd, ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Edward Davies

Ganwyd yn 1723 yn Llys Bychan, Llansannan. Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn gyfoed â 'Twm o'r Nant,' ac yn un o'i chwaraewyr mwyaf dawnus. Priododd ddwywaith, a bu'n byw yng Nghefn Byr a Than y Fron. Yn 1747 cefnodd ar yr anterliwt, gan groesawu'r diwygwyr i'w dŷ. Yn 1749 dechreuodd 'gynghori' ond daeth yr ymraniad rhwng Howel Harris a Daniel Rowland ac oerodd ei sêl, ac aeth yn ôl i gorlan yr Eglwys. Yn 1761 symudodd i fyw o Dan y Fron i Fryn Bugad a dychwelyd at y Methodistiaid. Ailymwelodd cynghorwyr y De a'r Gogledd, a daeth Edward Parry, oherwydd ei sêl a'i ddawn, yn gynghorwr pennaf y broydd, a gwahoddwyd ef i efengylu yn Llundain. Yn 1773 cododd gapel ar ei dir yn Nhan y Fron. Yn 1764 cyhoeddodd, gyda 'Twm o'r Nant' a David James, Llansannan, Y Perl Gwerthfawr . Yn 1767 cyhoeddodd Agoriad i Athrawiaeth y Ddau Gyfamod (ail arg. yn 1781). Yn 1774 argraffwyd yn Nhrefeca ddeuddeg tudalen 'dros Edward Parry ' yn cynnwys galarnad ac ychydig Hymnau. Yn 1789 cyhoeddwyd Ychydig Hymnau, yn yr hwn yr ymddangosodd y ddau emyn ' Caned nef a daear lawr ' a ' Plant afradlon at eich Tad.' Bu farw 16 Medi 1786, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llansannan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.