JONES, BENJAMIN (1756 - 1823), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Benjamin Jones
Dyddiad geni: 1756
Dyddiad marw: 1823
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd yn Trecyrnfawr, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, 29 Medi 1756. Eglwyswyr cefnog oedd ei deulu â'u bryd ar iddo gymryd urddau eglwysig. Addysgwyd ef i ddechrau gan glerigwr yn ysgol Llanddewi-efelffre, Sir Benfro. Daeth dan ddylanwad Richard Morgan, Henllan, a John Griffith, Glandwr, a wnaeth iddo droi at yr Annibynwyr; ymaelododd yn eglwys Henllan ac yno y dechreuodd bregethu yn 18 oed. Yn 1775 aeth i athrofa y Fenni; urddwyd ef yn 1779 yn weinidog eglwys Pencader. Yn 1784 symudodd i Fôn i ofalu am eglwysi Rhosymeirch a Chapel Mawr; yn 1789 aeth i Benlan, Pwllheli.

Bu ei weinidogaeth ym Môn yn achlysur i gychwyn amryw achosion megis y Talwrn, Amlwch, a Biwmares, ond wedi symud i Bwllheli nid ymddengys iddo ymddiddori cymaint mewn sefydlu achosion yn y wlad oddi amgylch. Cyfrifid ef yn ddiwinydd craff ac yn wr o gyngor gyda'r blaenaf ymhlith gweinidogion y Gogledd. Bu cysylltiad agos rhyngddo ef a'i deulu â 'Helynt Fawr' Llanuwchllyn yn adeg Michael Jones (gweler Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, pen. v). O dan ei weinidogaeth ef, ar Sul y Pasg 1796, yng nghapel Pendref, Llanfyllin, y dwysbigwyd Ann Griffiths, emynyddes Cymru.

Tua 1805, cyhoeddodd Ffynhonnau Iachawdwriaeth i ateb John Wesley yn ei draethawd ar etholedigaeth. Cyhoeddodd hefyd lyfryn galluog ar Athrawiaeth y Drindod mewn Tair Pregeth i wrthwynebu rhai o syniadau Peter Williams ar y Beibl ac yn enwedig ei ddaliadau Sabelaidd yn ei lyfr Dirgelwch Duwioldeb, 1792 (gweler Cofiant J. Jones, Talsarn, 302-3). Bu farw 17 Chwefror 1823 a chladdwyd ef ym mynwent Penlan, Pwllheli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.