Ganwyd 12 Hydref 1833 yn y Weirglodd Ddu, Llanuwchllyn; ei dad, Thomas Jones, yn aelod gynt yn yr Hen Gapel, ond wedi troi at y Methodistiaid Calfinaidd yn ystod helyntion y 'System Newydd' (gweler Jones, Michael), a'i fam yn chwaer i dad Syr Owen M. Edwards. Symudodd y teulu i'r Fron-gain, yn Waun y Bala, ac yn Llidiardau y dechreuodd Owen Jones bregethu. Eisoes, yn fachgen, yr oedd wedi bwrw rhai misoedd yn athrofa'r Bala, ond yn awr dychwelodd iddi i gychwyn cwrs a'i harweiniodd wedyn i Goleg y Brifysgol yn Llundain, lle y graddiodd (gydag anrhydedd) yn 1861. Ordeiniwyd ef yn 1864, a bu'n weinidog ym Mlaenau Ffestiniog (1864-72) ac yn Chatham Street, Lerpwl (1872-92); yna ymddeolodd i Lansantffraid ym Mechain, lle y bu farw 13 Ionawr 1899. Ei wraig oedd Margaret Jane Jones, siop Tŷ Cornel, Llanfyllin - bu hi farw yn Ionawr 1909.
Er iddo lywyddu sasiwn y Gogledd (1887) a'r gymanfa gyffredinol (1894), llenor a llyfryddwr oedd Owen Jones uwchlaw popeth. Naturiol, ac yntau'n adnabod Llidiardau er yn fore, fu iddo ymuno â Robert Thomas (1796 - 1866) i sgrifennu cofiant Dafydd Rolant (1795 - 1861) yn 1863; ac yn 1869 cyhoeddodd lyfr ar Robert Thomas ei hunan. Gwnaeth ei argraffiad, 1889, o Lyfr y Tri Aderyn lawer i ailgodi Morgan Llwyd i sylw'r werin; a bu ei ddycnwch fel prynwr llyfrau'n symbyliad iddo i gyfrannu ysgrifau pwysig i'r Traethodydd - noder, e.e. ei ddwy ysgrif yno (1887) ar Jeremy Owen. Yr oedd yn awdurdod ar emynyddiaeth. Daeth ei gasgliad o lyfrau Cymraeg yn rhan o'r Llyfrgell Genedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.