Ganwyd yn y Bala yn 1795 (bedyddiwyd 11 Mehefin), yn fab i David Rowland 'y trumpeter ' a'i wraig Jane Roberts, Cwmtylo, Llanuwchllyn; chwaer iddo oedd mam 'Ioan Pedr' (John Peter). Wedi marw ei fam ac yntau'n blentyn, magwyd ef yng Nghwmtylo gan ei nain. Bu am ysbeidiau mewn ysgolion, gan gynnwys ysgol yr Hen Gapel yn Llanuwchllyn, ond ar y fferm y bwriodd y rhan fwyaf o'i amser. Dygwyd ef at grefydd gan bregeth o eiddo Dafydd Cadwaladr, ac ymserchodd y ddau yn ei gilydd. Pregethai i'r gwartheg a'r defaid a oedd dan ei ofal, a dechreuodd bregethu 'n gyhoeddus tua diwedd 1815. Yr oedd ar hyd ei fywyd yn gymeriad gwreiddiol iawn, hynod am aflerwch ei ddiwyg a'i arferion ac odrwydd ei ddywediadau - testun un o'i bregethau enwocaf oedd ' milgi cryf yn ei feingefn ' (Diarhebion xxx, 31). Wedi dechrau teithio i bregethu, aeth am dymor i ysgol John Hughes yn Wrecsam, ond ni newidiodd honno fawr arno. Priododd yn 1822 â Jane Jones, Nantfudr, Trawsfynydd, ac wedi byw yno ac yn y Faen Filltir yn yr un plwyf, cymerth dyddyn y Pentre yn Waun y Bala yn 1825, a bwriodd weddill ei fywyd yno. Ordeiniwyd ef yn 1831. Y wraig a'r gwas a ofalai am y tyddyn yn ystod ei deithiau meithion oddi cartref - pregethai ar hyd ac ar led Cymru (bu am rai misoedd yn 1853 yn Llundain), ac yr oedd 'mynd' mawr arno; y mae efelychiad (mewn nodau cerddorol) o'i 'hwyl' ar tt. 106-8 o'i gofiant. Bu farw ei briod yn 1857, ac ailbriododd yntau ddiwedd 1858. Bu farw 24 Chwefror 1862, a chladdwyd ym mynwent capel y Llidiardau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.