Ganwyd yn y Bala, 10 Ebrill 1833, yn fab i Peter Jones, saer melinau, a'i wraig Ellen. Bu yn ysgol rad y Bala ('Ysgol Tytandomen'), ond yn 1847 dechreuodd weithio fel saer melinau. Yn ei drampiau ar draws gwlad, cafodd gyfle i'w ddiddordeb mewn daeareg ac mewn hynafiaethau. Ymddiddorai hefyd mewn barddoniaeth, ac yn 1849 sefydlodd ef a'i gyfeillion (megis Thomas Charles Edwards) ' Gymdeithas Lenyddol Penllyn '; ymroes hefyd i'w ddiwyllio ei hunan gan astudio ieithoedd ac ymweld ddwywaith (1856, 1857) â'r Cyfandir. Dechreuodd bregethu; ym Medi 1855 aeth i Goleg yr Annibynwyr yn y Bala; ac yn 1859 codwyd ef yn athro ynddo. O 1859 hyd 1870 bu'n weinidog cynulleidfaoedd y Bala a Thy'n-y-bont. Priododd yn 1861 ag Elisabeth Noall, merch o gryn allu y gwelir peth o'i gwaith yn Y Traethodydd, 1864 a 1869. Bu farw 17 Ionawr 1877. Yr oedd yn llenor cyffredinol diwyd; sgrifennai i'r Beirniad, Y Diwygiwr, Y Dysgedydd, a'r Traethodydd, nid yn anaml ar wyddoniaeth - yr oedd yn ddaearegwr da. Ond ar y Gymraeg a'i llenyddiaeth y gwnaeth ei waith pwysicaf. Copïai lawysgrifau 'n ddyfal, ac yr oedd yn llyfryddwr gwych. Eithr hynodid ef yn bennaf gan ei astudiaeth wyddonol o'r iaith; disgybl oedd ef i Edward Lhuyd, a chyfaill i wyr fel Thomas Stephens a Daniel Silvan Evans a John Rhys yn y wlad hon, a Gaidoz a Schuchardt ar y Cyfandir - ymwelodd y ddau ag ef yn y Bala. Pan gychwynnwyd Y Cymmrodor, yr oedd 'Ioan Pedr' yn un o'i olygyddion, ac ymddangosodd peth o'i waith ynddo ac yn y Revue Celtique. Y mae ei lawysgrifau bellach mewn rhan yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mewn rhan yn Llyfrgell Coleg y Gogledd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.