EDWARDS, THOMAS CHARLES (1837 - 1900), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, esboniwr a phregethwr, prifathro cyntaf y Coleg Cenedlaethol, Aberystwyth (1872-91), ac ail brifathro Athrofa'r Bala (1891-1900)

Enw: Thomas Charles Edwards
Dyddiad geni: 1837
Dyddiad marw: 1900
Priod: Mary Edwards (née Roberts)
Rhiant: Jane Edwards (née Charles)
Rhiant: Lewis Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, esboniwr a phregethwr, prifathro cyntaf y Coleg Cenedlaethol, Aberystwyth (1872-91), ac ail brifathro Athrofa'r Bala (1891-1900)
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Gwilym Arthur Edwards

Ganwyd 22 Medi 1837, blwyddyn agoriad academi'r Bala gan ei dad Lewis Edwards. Derbyniodd ei addysg elfennol dan ofal y Parchn. John Williams, Llandrillo, ac Evan Peters, ac yng Ngholeg y Bala (1852) (London matriculation 1852, B.A. 1861, M.A. 1862); ysgolor o Goleg Lincoln, Rhydychen (1862-6), B.A. gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn yr arholiad terfynol ('Lit. Hum.') ac M.A. (Oxon.); gradd D.D. honoris causa o brifysgolion Edinburgh (1887) a Chymru (1898). Priododd Mary Roberts, 1867; ganwyd iddynt bedwar o blant. Bu farw 22 Mawrth 1900.

Dechreuodd bregethu yn 1856 a dylanwadodd diwygiad 1859-60 yn gryf arno. Yn ystod ei wyliau yn Rhydychen gwnaeth waith cenhadol ymhlith y sawl a osodai y rheilffordd i lawr ym Mhenfro. Yn 1866-72 yr oedd yn weinidog eglwys Saesneg Windsor Street, Lerpwl, a symud i gapel mwy Catherine Street yn ystod ei weinidogaeth boblogaidd. Yr oedd yn bregethwr neilltuol rymus a gyfunodd sêl danbaid yr efengylydd gyda diwylliant uchaf yr ysgolhaig; bu'n pregethu 'n gyson ar hyd y blynyddoedd mewn cymanfaoedd a sasiynau ar hyd a lled Cymru.

Ysgrifennodd esboniad safonol a helaeth ar 1 Corinthiaid, 1885; ar yr ' Hebreaid ' (yn yr Expositor's Bible), 1888; ac un Cymraeg ar Hebreaid, 1900. Creodd ei ddarlith Davies, 1895, ar y Duw-ddyn beth anesmwythyd ymhlith diwinyddion ei gyfundeb. Yr oedd yn gasglwr llyfrau Cymraeg prin a gwahanol argraffiadau o'r Testament Newydd Groeg, a gwelir hwynt bellach yn llyfrgell Coleg y Bala.

Yn 1872 dewiswyd ef yn brifathro cyntaf y coleg genedlaethol cyntaf (Aberystwyth). Ar y cychwyn 26 oedd rhif yr efrydwyr, a 62 erbyn diwedd y tymor, ond yn 1880 nid oedd y nifer ond 57. Dechreuwyd gyda phedwar o athrawon a'r efrydwyr yn byw i mewn. Siomedig fu cynnydd y coleg yn ystod y blynyddoedd cyntaf, yn ôl tystiolaeth pwyllgor adrannol y Llywodraeth (1880), a chyfrifir amryw achosion am hynny - prinder adnoddau ariannol (hyd 1888), tân dinistriol yn 1885, agor colegau ym Mangor a Chaerdydd, a'r galwadau dibaid ar Dr. Edwards fel pregethwr. Ond wedi pob beirniadaeth hawdd yw cytuno â'r datganiad hwn: 'If it is no exaggeration to say that without Sir Hugh Owen, the University College of Wales would never have been established, it is certainly less to say that it would never have reached its twentieth birthday but for Thomas Charles Edwards. It was his magnetic personality and his eloquent advocacy that, more than anything else, brought the College triumphantly through its trials' (Davies and Jones, The University of Wales, 127).

Yn 1891 ymddiswyddodd - yn bennaf am ddau reswm; bu Aberystwyth yn dreth drom ar ei iechyd, a da fu ganddo, ar gais taer ei gyfundeb, ddilyn ei dad fel prifathro Athrofa'r Bala. Ad-drefnodd y sefydliad hwnnw gan ei droi yn gwbl ddiwinyddol, ac ef oedd llywydd cyntaf Bwrdd Diwinyddol y Brifysgol. Gwanychodd ei iechyd rai blynyddoedd cyn ei farw (1900), ac ni lwyr sylweddolwyd ei obeithion yn y Bala, ond bu ei gyfraniad yn un godidog i addysg a chrefydd Cymru mewn cyfnod neilltuol o bwysig yn hanes y genedl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.