JONES, WILLIAM LEWIS (1866 - 1922), athro iaith a llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor;

Enw: William Lewis Jones
Dyddiad geni: 1866
Dyddiad marw: 1922
Priod: Edith Jones (née Owen)
Rhiant: Hannah Jones (née Lewis)
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro iaith a llenyddiaeth Saesneg
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Herbert Gladstone Wright

Ganwyd 20 Chwefror 1866, mab William Jones, Llangefni, a Hannah, chwaer Thomas Lewis, aelod seneddol dros sir Fôn. Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor, ac ennill oddi yno ysgoloriaeth agored i Goleg Queens,’ Caergrawnt, lle yr ymaelododd yn nhymor y Pasg, 1884. Astudiodd y clasuron yno a graddio yn 1888; enillasai y ‘Members University Prize’ y flwyddyn cynt. Ar ôl graddio aeth i U.D.A. lle y bu'n gweithio fel newyddiadurwr; bu'n darlithio hefyd ym Mhrifysgol Chicago. Dychwelodd i Gymru yn 1889, a bu'n ysgrifennu nodiadau wythnosol i'r Manchester Guardian. Yn 1891 fe'i dewiswyd yn ddarlithydd cynorthwyol yn yr adran Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor; daeth yn athro yn 1897. Cymerth ran bwysig yn y gwaith o gasglu arian tuag at adeilad newydd y coleg. Ymddiswyddodd, oblegid stad ei iechyd, yn 1919. Priododd Edith Owen, Porthaethwy, yn 1901. Bu farw ym Mangor. 2 Chwefror 1922.

Ysgrifennodd lawer i gyhoeddiadau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, y Quarterly Review, etc. Golygodd Caniadau Cymru, 1897, Land of my Fathers, 1915, a The University of Wales, 1915 (gyda W. Cadwaladr Davies). Cymerai ddiddordeb arbennig yn y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Cymru a llenyddiaeth Lloegr; o hyn y tyfodd ei lyfr, King Arthur in History and Legend, 1911. Cyfrannodd hefyd dair pennod i'r Cambridge History of English Literature (cyf. i, xiii), a dengys y rhain mor helaeth oedd ei wybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg, Saesneg a Lladin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/