DAVIES, WILLIAM CADWALADR (1849 - 1905), un o arloeswyr y mudiad addysg yng Nghymru

Enw: William Cadwaladr Davies
Dyddiad geni: 1849
Dyddiad marw: 1905
Priod: Mary Davies (née Davies)
Rhiant: William Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o arloeswyr y mudiad addysg yng Nghymru
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: John Edward Lloyd

Ganwyd ym Mangor, 2 Mai 1849, yn fab i William Davies, clerc, ac yn nai i John Davies (‘Gwyneddon’). O ysgol elfennol Garth, Bangor, aeth i swyddfa'r North Wales Chronicle, newyddiadur lleol, a chymaint oedd ei ddatblygiad fel newyddiadurwr nes ei ddewis, yn 20 oed, i ddilyn ei ewythr fel golygydd Cronicl Cymru, papur newydd arall gan yr un cwmni. Pan ddaeth gyrfa hwnnw i ben yn 1872, aeth i Landudno i gynrychioli'r Cronicl; tra bu yno rhoes gymorth sylweddol i Owen Jones (‘Meudwy Môn) i ddwyn Cymru (1875) allan. Yna symudodd i Lundain i gynorthwyo Syr Hugh Owen yn swyddfa'r coleg newydd prifathrofaol a agorasid yn Aberystwyth. Yn 1876 dychwelodd i Fangor, i ddilyn ei ewythr unwaith eto, y tro hwn yn rheolwr cangen ariandy y Meistri Pugh Jones a'i gwmni.

Pan oeddid yn sefydlu y’ North Wales Scholarship Association,’ a gychwynasid gan Syr Hugh Owen yn 1879, i lanw'r bwlch rhwng addysg elfennol ac uwchraddol, chwaraeodd Davies ran bwysig. Eithr yn y mudiad a wnaeth agor Coleg Prifathrofaol Gogledd Cymru yn bosibl y gadawodd ei ôl yn fwyaf arbennig ar fywyd cyhoeddus Cymru. Fe'i bwriodd ei hun gyda brwdfrydedd i'r gwaith rhagbaratoawl yn 1883, pryd y codwyd cronfa noddwyr o dros £30,000, ac felly yr oedd yn eithaf naturiol ei ddewis yn ysgrifennydd a chofrestrydd y coleg newydd a agorwyd yn 1884. Am wyth mlynedd bu'n gwylio dros lwyddiant y coleg; ei gyfeillgarwch ef â Dr. Evan Thomas, Manchester, a barodd i'r coleg gael cymynrodd o £47,000 yn 1890. Ymddiswyddodd yn 1892 o achos afiechyd ac am y 13 blynedd nesaf treuliodd amser llai prysur, gan dderbyn amryw anrhydeddau gan y coleg a'r Brifysgol.

Priododd yn 1888 â Mary Davies y gantores, a daeth yn fargyfreithiwr, gan ymaelodi yn yr Inner Temple yn 1891. Ysgrifennodd y pedair pennod gyntaf yn hanes Prifysgol Cymru a'i cholegau a gyhoeddwyd yn 1905, a bu farw yn Worthing 25 Tachwedd y flwyddyn honno. Coffeir ef yn ei goleg gan gerflun pres a wnaeth Syr William Goscombe John yn 1902.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/