JONES, OWEN ('Meudwy Môn'; 1806 - 1889), gweinidog a llenor

Enw: Owen Jones
Ffugenw: Meudwy Môn
Dyddiad geni: 1806
Dyddiad marw: 1889
Priod: Ellen Jones (née Rowlands)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Enid Pierce Roberts

Ganwyd yn y Gaerwen Bach, Llanfihangel Ysgeifiog, Môn, 15 Gorffennaf 1806. Bu farw ei rieni pan oedd ef yn ieuanc iawn a magwyd ef gan ei fodryb Elizabeth, gwraig Morgan Williams, barcer, Llangefni. Pan oedd yn chwech oed anfonwyd ef i ysgol y pentre, ac wrth ei weld yn dysgu mor dda talodd Rice Roberts, Plas Llangefni, am addysg iddo yn ysgol Thomas Jones, Llangefni, a phan agorwyd yr Ysgol Genedlaethol symudwyd ef i honno. Cynigiodd boneddigion yr ardal addysg ychwanegol iddo er mwyn gwneud clerigwr ohono ond gwrthododd ei fodryb, ac yn fuan wedyn tynnwyd ef o'r ysgol. Ar ôl hyn bu'n brentis o saer, yn was fferm, yn athro teuluol mewn gwahanol gartrefi, ac yn cadw ysgol yn Llanddona, Llangoed, a Penygarnedd. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid oddeutu 1827. Areithiai hefyd dros y Gymdeithas Beiblau a gwnaethpwyd ef yn oruchwyliwr cynorthwyol i'r Gymdeithas, swydd a ddaliodd am dros 40 mlynedd. Priododd Ellen, ferch Richard Rowlands, Bryn Mawr, Llangoed.

Gadawodd Fôn yn 1833 a mynd i'r Wyddgrug i gywiro proflenni a darllen llawysgrifau i'r cyhoeddwyr, John ac Evan Lloyd. Y flwyddyn ganlynol penodwyd ef yn 'cashier' i lofa Plas yr Argoed. Ordeiniwyd ef a Roger Edwards yng Nghymdeithasfa'r Bala, 8 Mehefin 1842, a bu'r ddau yn gweinidogaethu yn yr Wyddgrug. Yma y dechreuodd 'Meudwy Môn' ymddiddori yn y mudiad dirwest, ac ef oedd un o'i arloeswyr yng Ngogledd Cymru. Derbyniodd alwad oddi wrth eglwysi Methodistaidd Manceinion, 1844, ond oherwydd anghydfod rhoes y gorau i'w eglwysi yn 1856 a derbyn swydd goruchwyliwr Cyngrair y Deyrnas Gyfunol dros Ogledd Cymru. Arhosodd ym Manceinion hyd 1866 pryd yr aeth yn weinidog i Landudno. Fodd bynnag ymddiswyddodd o'i eglwys, 1868-9, am fod gwaith bugeiliol yn mynd â gormod o'i amser a'r cyflog yn rhy fach i fyw arno heb lenydda. O hyn hyd ddiwedd ei oes llenydda oedd ei brif waith a'i gynhaliaeth, er ei fod yn dal i lafurio dros y mudiad dirwest a'r Gymdeithas Beiblau. Yn 1866 gwnaethpwyd tysteb gyhoeddus o £50 iddo. Bu farw 11 Hydref 1889, a chladdwyd ef ym mynwent S. Tudno.

Golygodd bedwar misolyn byrhoedlog: Y Cynniweirydd, 1834, a droes yn Newyddiadur Hanesyddol, 1835; Y Cymedrolwr, 1835; Y Cerbyd Dirwestol, 1837-8; Y Bugail, 1859. Cyhoeddodd amryw lyfrau ac erthyglau a golygodd ddau waith mawr, Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol, 1875, a Ceinion Llenyddiaeth Gymreig, 1875. Eithr ychydig o ddim byd gwreiddiol a ysgrifennodd - cyfieithu, casglu, a chyfaddasu a wnâi, heb unwaith draethu ei farn ei hun na phwyso a mesur tystiolaeth. Y mae ei rwysgedd geiryddol a'i ddiffyg cynildeb yn enghraifft o arddull rodresgar, Seisnigaidd y 19eg ganrif ar ei gwaethaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.