Ganwyd 28 Awst 1796 yn Trawsafon, Betws-y-coed, yn bumed o naw plentyn Thomas Thomas, saer maen, a'i wraig Elizabeth (Williams). Bu'n hogyn ar fferm am dymor, ond yna cymerth at grefft ei dad. Bu mewn mân ysgolion, a darllenai'n awchus; prydyddai er yn fore, ac yr oedd yn gyfeillgar iawn â 'Ieuan Glan Geirionydd' (Evan Evans, 1795 - 1856). Dechreuodd bregethu yn 1820. Yn 1823 aeth am rai misoedd i ysgol John Hughes yn Wrecsam. Bu wedyn yn cadw ysgol ym Modfari a Threlogan, gan weithio hefyd fel saer maen. Priododd yn 1826 â Sara Roberts o Gae'r-lion yn Waun y Bala, a buont yn byw yn y Bala am ddwy flynedd ac yntau'n cadw ysgol am beth o'r amser. O 1828 hyd 1834 bu'n ffermio Tynant yn Waun y Bala, ac o 1834 hyd 1840 cymerth dyddyn ei dad-yng-nghyfraith; ond methiant llwyr fu'r ffermio, a symudodd yntau i Ffestiniog i weithio wrth ei grefft - o 1844 hyd 1853 yr oedd yn byw yn nhŷ capel Peniel - ac yno, 1849, y cyhoeddodd lyfr o brydyddiaeth, Lloffion o Foes Boaz. Yn 1853, aeth Sara Thomas i gadw siop yn ei henfro, y Llidiardau, ac yntau'n gweithio fel saer maen ac yn cadw ysgol yng nghapel Llidiardau ar ysbeidiau - heb sôn am bregethu ar hyd ac ar led Cymru, oblegid yr oedd galw mawr amdano, pe na bai ond yn herwydd ei odrwydd; ni ordeiniwyd mohono. Bu farw 16 Rhagfyr 1866. Di-lun fu erioed yn ei amgylchiadau ar hyd y daith, a dyn od, trwsgl (ond ffraeth), byrbwyll, mor bruddglwyfus nes bron croesi'r ffin i orffwylledd sawl tro. Yn wir, nid yw'r crynodeb uchod o ffeithiau allanol ei fywyd o fawr budd i neb na fyn ddarllen y gyfrol hynod ddiddorol Hanes Bywyd Robert Tomos, Llidiardau gan Owen Jones, 1869, sy'n cynnwys llawer o'i ddywediadau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.