PALMER, HENRY (1679 - 1742), gweinidog Annibynnol

Enw: Henry Palmer
Dyddiad geni: 1679
Dyddiad marw: 1742
Plentyn: John Palmer
Plentyn: George Palmer
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llwyndrysni, Llan-gan, Caerfyrddin. Ffermwr oedd ef, ac aelod o gynulleidfa Henllan Amgoed; ond yn y gwrthryfel yn erbyn Jeremy Owen yno yn 1711, dilynodd Mathias Maurice i'r gwersyll arall yn Rhyd-y-ceisiaid, a daeth yn henuriad athrawiaethol yno. Eithr gyda'i holl ymlyniad wrth egwyddorion Calfiniaeth ac Annibyniaeth, gŵr hynaws a hoffus ynddo'i hun oedd Palmer; ac y mae'n werth sylwi bod Jeremy Owen a Maurice fel ei gilydd, er garwed eu hiaith am bobl eraill, yn cytuno yn eu parch dyfnaf at Palmer. Wedi i sŵn y frwydr ddistewi, a phan oedd bugeiliaeth Henllan yn wag drachefn, gwahoddwyd Palmer i ddychwelyd i'w hen eglwys yn Henllan, ac yn 1721 urddwyd ef yn fugail arni. Yno y bu weddill ei fywyd. Pan dorrodd y Diwygiad Methodistaidd allan, gwelwyd ewyllys dda Palmer unwaith eto. Bu Howel Harris yn aros yn ei dŷ am noson (10 Mawrth) yn 1740, ac yr oedd Palmer yn un o'r rhai a arwyddodd lythyr (Trevecka Letter 231) at Harris i'w ailwahodd i'r ardal. Bu farw 12 Rhagfyr 1742. Yr oedd un o'i feibion, GEORGE PALMER (a fu farw 1750), yn weinidog yn Abertawe; bu un arall, John Palmer, yn henuriad dylanwadol iawn yn Henllan am faith flynyddoedd - bu farw 1 Ionawr 1800, yn 86 oed. Olynydd (1746) Henry Palmer ym mugeiliaeth Henllan oedd Thomas Morgan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.