LLOYD, CHARLES (1766 - 1829), gweinidog ac ysgolhaig Undodaidd

Enw: Charles Lloyd
Dyddiad geni: 1766
Dyddiad marw: 1829
Rhiant: Letitia Lloyd (née Lloyd)
Rhiant: David Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac ysgolhaig Undodaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 18 Rhagfyr 1766 yn bedwerydd mab i David Lloyd, Brynllefrith, gweinidog Ariaidd Llwynrhydowen. Ar farw ei dad (1779) daeth dan ofal ei ewythr, John Lloyd, Coedlannau-fawr; aeth yn 1784 i academi 'Caerfyrddin', a gedwid ar y pryd yn Abertawe. Yn 1788, 'yn Ariad gweddol uchel,' galwyd ef i fugeilio eglwys Oat Street, Evesham (bu sawl Cymro 'n weinidog iddi); mynnai weinyddu'r Cymun heb ei urddo, a chafodd ei ffordd; ond pan aeth ymlaen i wrthod bedyddio babanod, derbyniwyd ei ymddiswyddiad (1790). Erbyn hyn, fe'i hystyriai ei hunan yn Fedyddiwr Cyffredinol, a chymerodd ofal eu heglwys yn Ditchling (Sussex); yma hefyd gwrthodai gymryd ei urddo. Dechreuodd (1792) gadw ysgol; yn 1793 ymddeolodd o'i ofalaeth a symud ei ysgol i Exeter, lle y bu'n llwyddiannus ddigon. Yn 1799 aeth i ffermio yng Nghoedlannau, a chollodd arian yn y gwaith hwnnw. Dymunai'n awr gael bod yn gyd- weinidog â Davis, Castell Hywel (yn Llwynrhydowen); ond yr oedd bellach yn Undodwr cydnabyddedig, ac ni fynnai Davis mohono - yr oedd hi ar y pryd yn bur ddrwg rhwng yr hen Ariaid a'r Undodiaid 'newydd'; gweler yr atodiad i R. Jenkin Jones, Unitarian Students at … Carmarthen, a'r A History of Carmarthenshire, ii, 241-2. Aeth rhai o aelodau Llwynrhydowen allan, a sefydlwyd dwy eglwys Undodaidd Pant-defaid a Chapel-y-groes yn 1802 (gweler ysgrif Charles Lloyd ar D. J. Rees o Lloyd-jack, yn Monthly Repository, 1817, 740 sqq.) - dyma ddechreuad Undodiaeth swyddogol yng Ngheredigion, ac yn yr ystyr honno Charles Lloyd oedd ei thad. Ond yn 1803, symudodd Lloyd i Palgrave (Suffolk), yn weinidog ac yn ysgolfeistr. Cafodd radd LL.D. (Glasgow) yn 1809. Symudodd ei ysgol i Lundain yn 1811. Bu farw ar ymweliad â Chymru, 23 Mai 1829, yn Llanbedr-Pont-Steffan, a chladdwyd yn Llanwenog. Er ei holl allu, nid yw 'cranc' yn enw anaddas i'w daro arno, fel y dengys y crynodeb uchod - dyn anhydrin, afrywiog ei dymer, chwerw ei araith a'i ysgrifen. Un o'r llyfrau rhyfeddaf yw ei hunangofiant, Particulars of the Life of a Dissenting Minister, a gyhoeddodd yn ddienw yn 1813 (ailargraffwyd ef gan G. Eyre Evans, 1911), llyfr gwerthfawr fel ffynhonnell hanesyddol, ond sydd hefyd yn cynnwys darluniau deifiol o rai o Ariaid ac Undodiaid y dydd. Sgrifennai'n fynych i'r Monthly Repository, a chyhoeddodd amryw bethau eraill a enwir yn ysgrif dda Alexander Gordon arno yn y D.N.B.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.