Mab i David Lewis Evans; ganwyd 8 Medi 1857 yn Colyton, swydd Dyfnaint. Bu yn ysgol William Thomas ('Gwilym Marles') ac mewn ysgol yn Lerpwl. Bu am rai blynyddoedd yn weinidog Eglwys y Gwaredwr yn Whitchurch, Sir Amwythig, a rhoes flynyddoedd o'i oes yn ddi-dâl i'r capel Undodaidd yn Aberystwyth. Eithr hanesydd a hynafiaethydd ydoedd yn anad dim. Bu am 18 mlynedd yn swyddog ymchwil i'r comisiwn brenhinol ar 'Ancient Monuments' yng Nghymru a Mynwy, ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Hynafiaethol sir Gaerfyrddin am 23 mlynedd. Derbyniodd ' The Silver Wolf ' - yr anrhydedd uchaf ym mudiad y Scouts. Cyhoeddodd nifer o lyfrau Saesneg - History of Renshaw Street Chapel, Liverpool, 1887; Colytonia, 1898; Whitchurch of Long Ago, 1893; Vestiges of Protestant Dissent, 1897; The Midland Churches, 1899; Lampeter, 1905; Cardiganshire, a Personal Survey, 1903; Record of the Provincial Assembly of Lancashire and Cheshire, 1896; Antiquarian Notes, cylchgrawn preifat a gyhoeddodd o 1898 hyd 1905 o leiaf. Yr oedd ganddo hefyd nifer mawr o lyfrau mewn llawysgrif. Bu farw 9 Tachwedd 1939 yn 82 mlwydd oed a gwasgarwyd ei lwch ym mynwent Alltyplaca, Llanwenog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.