Ganwyd 24 Gorffennaf 1813, yn Penrallt, Rhuddlan, Sir Aberteifi. Bu yn yr ysgol yn Rhydybont dan y Parch. William Jones a Blaenbydernyn dan y Parch. John Davies, a bu'n cadw ysgol ei hun yn Llandeilo, Ffaldybrenin, a Llanwenog (1832-4). Aeth i Goleg Caerfyrddin (1834-8), a bu wedyn yn weinidog Llandyfaen (Onnenfawr), Llandeilo (1838-40), Bloxham a Milton, Rhydychen (1840-2), gan ddychwelyd i gynorthwyo y Parch. J. E. Jones, Penybont-ar-Ogwr, yn y weinidogaeth ac yn yr ysgol (1843-50). Yn 1847 yr oedd yn un o gychwynwyr Yr Ymofynydd, a bu yn ddiweddarach yn olygydd arno, 1868-72. Yn 1850 derbyniodd alwad oddi wrth eglwys Colyton, swydd Dyfnaint, a bu'n gweinidogaethu a chadw ysgol yno hyd 1863. Yn 1856 priododd Ophelia, merch y Capten George Eyre Powell, R.N. Yn 1864 apwyntiwyd ef yn athro Hebraeg, rhifyddiaeth, ac athroniaeth naturiol yng Ngholeg Caerfyrddin, a bu yno hyd 1874. Ni bu arno wedyn ofal eglwys, a symudodd i fyw i Birkenhead gan wasnaethu eglwysi'r cylch yn achlysurol (1875-89); rhoes hefyd flwyddyn o wasanaeth rhad i'w hen eglwys yn Colyton (1879-80). Ni chyhoeddodd nemor ddim yn Gymraeg ac eithrio pamffled ar Undodiaeth yn 1876, ond ceir aml erthygl o'i waith yn Yr Ymofynydd. Treuliodd hydref oes yn ei hen ardal yn Llanybyther, a bu farw yn Aberystwyth 29 Hydref 1902, a chladdwyd ef ym mynwent Alltyplaca. Mab iddo oedd George Eyre Evans.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.