DAVIES, JOHN (1795 - 1858), gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr

Enw: John Davies
Dyddiad geni: 1795
Dyddiad marw: 1858
Rhiant: David Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd yn 1795, mab D. Davies, Llan-y-bri, athro diwinyddol yng Ngholeg Caerfyrddin. Fe'i haddysgwyd gartref, yn ysgol ramadeg y coleg, ac yng Ngholeg Caerfyrddin (1815-9). Yn y coleg troes yn Undodwr, a bu'n pregethu yng nghapel yr Undodiaid yn y dref. Yn 1820 derbyniodd alwad i weinidogaethu yng nghapeli ‘Dafis Castellhywel’ — Llwyn, Penrhiw, Alltyplaca, a Bwlchyfadfa, a Dafis yn ymddiswyddo Ionawr 1820. Cynorthwyodd Dafis gyda'i ysgol am beth amser, ond heb fod yn hir agorodd ysgol ar ei ben ei hun yng Ngelligron, Tyssul Castle, Blaenbydernyn (Pencarreg), a'r Drefach, yn 1830 agorodd academi yng Nghastellnewydd Emlyn a chadwodd hi ar agor hyd ei farw. Tystid am ei fedr fel athro gan nifer o'i ddisgyblion enwocaf. Hwyrach mai fel sefydlydd a phrifathro yr academi yn Adpar y cedwir ei enw yn fyw. Cyfansoddodd rai emynau a golygodd 3ydd arg. o lyfr emynau Josiah Rees dros James Evans, saer maen a llyfr-rwymwr, Pentre-nax, Bwlchyfadfa, gan ychwanegu ato rai emynau o'i waith ef ei hun a rhai o waith T. J. Griffiths (‘Tau Gimel’). Bu farw 19 Ebrill 1858 a gorwedd ym mynwent hen gapel y Llwyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/