Ganwyd yn Llechryd, lle yr oedd ei dad, Griffith Griffiths, yn weinidog. Addysgwyd gartref, yn ysgol Davis Castellhywel, a Choleg Caerfyrddin (1818-22). Ymsefydlodd yn weinidog y Cribin a Chiliau Aeron yn 1822 a bu yma hyd 1841 gan gadw ysgol hwnt ac yma. Ni cheir ei hanes wedyn hyd 1846, a dywedir iddo ef a'i deulu ymfudo i America. Ceir ef yn pregethu yng Nghaeronnen, 1846-51, ac yng Nghribin a Chiliau, 1846-8. Bu eilwaith ar ei grwydriadau o 1851 hyd 1855, ond ni chredir iddo ymweled ag America. Daeth yn ôl i'w hen ardal a phregethodd yn y Cribin o 1857 hyd 1868. Treuliodd hydref oes yn nhŷ ei gyfaill, y Parch. David Evans, Maesymeillion. Bu farw 19 Ionawr 1871 a chladdwyd ef ym mynwent Alltyplaca. Cyhoeddodd gofiant David Davis, Castellhywel, 1828; Casgliad o Hymnau (29 ohonynt o'i waith ef ei hunan), 1830; cylchgrawn (un rhifyn), Yr Hanesydd, 1839; a nifer o farwnadau a chaneuon dan y ffugenw ' Tau Gimel.' Ysgrifennodd lawer i Seren Gomer, Lleuad yr Oes, a'r Carmarthen Journal.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/