REES, JOSIAH (1744-1804), gweinidog Undodaidd

Enw: Josiah Rees
Dyddiad geni: 1744
Dyddiad marw: 1804
Plentyn: Josiah Rees
Plentyn: Richard Rees
Plentyn: Thomas Rees
Plentyn: Owen Rees
Rhiant: Mary Rees
Rhiant: Owen Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 2 Hydref 1744 ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn - yr oedd ei dad, Owen Rees (1717 - 1768), yn weinidog ar y pryd yng Nghlun-pentan. Aeth i ysgol ramadeg Abertawe ac wedyn i academi Caerfyrddin 1761-6, dan Jenkin Jenkins; yno y daeth yn gyfaill mawr i David Davis, Castell Hywel. Ond eisoes yn 1763 urddwyd ef yn weinidog eglwys y Gelli-onnen ym mhlwyf Llangyfelach (Pontardawe heddiw); preswyliai yn y Gelli-gron, a chadwai ysgol hyd tua 1785. Ymddiddorai yn hanes a llenyddiaeth Cymru, ac ym mis Mawrth 1770 dechreuodd gyhoeddi cylchgrawn pythefnosol, Trysorfa Gwybodaeth (sy'n fwy adnabyddus dan yr enw Yr Eurgrawn, enw a awgrymwyd gan Richard Morris o Fôn - gweler Additional Morris Letters, 767). Pymtheg rhifyn a ddaeth allan - ond hwn oedd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i gael ei draed dano. Nid yw eto'n hollol sicr pa ran a fu i Peter Williams ynddo (gweler Gomer M. Roberts , Bywyd a Gwaith Peter Williams, 176-84), ond tueddir gan mwyaf i roi'r clod i Josiah Rees. Yn ei farn ddiwinyddol, nid oes amheuaeth nad Ariad oedd Rees er yn fore; ac erbyn diwedd y ganrif yr oedd yn Undodiad pendant; ei enw ef sy'n gyntaf ar restr pwyllgor ' Cymdeithas Ddwyfundodaidd Deheubarth Cymru,' 8 Hydref 1802, ac ef a bregethodd yng nghyfarfod cyhoeddus cyntaf y gymdeithas, 26 Mehefin 1803, yng Nghefn-coed-cymer. Dan ei nawdd hi y cyhoeddodd yn 1804 draethawd (ymddengys nad oes gopi ohono ar gael heddiw) a atebwyd yn yr un flwyddyn gan ' Gomer ' (Joseph Harris) yn ei draethawd Bwyall Crist yng Nghoed Anghrist. Gwnaeth Rees gasgliad o emynau, 1796, a chasgliad o salmau mydryddol, 1797, a ddefnyddiwyd gan y cynulleidfaoedd Undodaidd am gryn amser. Gwrthododd yn 1785 gymryd gofal academi Caerfyrddin pan symudwyd honno i Abertawe, ond traddododd gyfres o ddarlithiau ynddi. Bu farw 20 Medi 1804.

Bu Josiah Rees yn briod ddwywaith; hawlia rhai o'i feibion sylw: yr hynaf,

OWEN REES (1770 - 1837)

Daeth yn 1794 yn bartner yng nghwmni cyhoeddi enwog Longman. Dychwelodd i Gymru yn 1837, a bu farw'n ddi-briod, yn y Gelli-gron, 5 Medi 1837. Yr oedd yntau'n Undodiad yn 1803. (D.N.B., ar ddiwedd yr ysgrif ar y Thomas Rees isod.)

THOMAS REES (1777 - 1864), gweinidog a hanesydd Undodaidd

Ganwyd yn y Gelli-gron 14 Medi 1777. Prentisiwyd ef yn llyfrwerthwr, ond troes at y weinidogaeth, a bu yn academi Caerfyrddin o 1799 hyd 1802. O hynny hyd 1831, bu'n weinidog ar eglwysi, yn Lloegr a chan mwyaf yn Llundain, ar wahân i dymor byr (1805-6) yn hen eglwys ei dad yn y Gelli-onnen. Daeth yn ffigur blaenllaw yn ei enwad: yn un o ymddiriedolwyr cronfa'r Dr. Daniel Williams (1809-1853), yn aelod o'r Bwrdd Presbyteraidd (o 1813 ymlaen) - ac yn ysgrifennydd iddo (1825-53). Ysywaeth, yn 1853 gwnaeth gawl o gyfrifon y cronfeydd yr oedd eu gofal arno, a bu'n rhaid iddo gilio i Sbaen i osgoi carchar. Ac er iddo wastatáu'r cyfrifon, a chyfannu'r colledion, yn nes ymlaen, eto bwriodd y gweddill o'i oes mewn dinodedd. Diddorol yw sylwi bod Undodiaid Cymru, ar ôl 1853, yn cwyno nad oeddynt yn cael chwarae teg ar law'r Bwrdd wedi i Rees fynd allan o'i swydd. Yr oedd Thomas Rees, meddai Alexander Gordon (a wyddai), 'yn awdurdod dihafal' ar hanes Sosiniaeth ac Undodiaeth. Ei lyfr enwocaf yw The Racovian Catechism, 1818, ond cyhoeddodd hefyd (yn y Monthly Repository) nifer o bapurau pwysig yn y maes hwn; ac erys cyfrolau mewn llawysgrif yn llyfrgell y Dr. Williams. Cyhoeddodd hefyd, 1815, The Beauties of Wales. Gweler ysgrif Gordon arno yn y D.N.B., a ffeithiau ychwanegol gan Walter J. Evans yn Oriel Coleg Caerfyrddin, 22.

RICHARD REES

O Alltycham, Pontardawe, aelod blaenllaw yn y Gelli-onnen (J. E. Morgan, Hanes Pontardawe, 103).

JOSIAH REES, masnachwr

Yr oedd yn Leghorn yn 1803 (pan oedd yn aelod o'r Gymdeithas Ddwyfundodaidd, ond a oedd yn gonswl Prydeinig yn Smyrna erbyn mis Tachwedd 1813 pan aned ei fab G. O. Rees.

GEORGE OWEN REES (1813 - 1889), meddyg

Daeth yn feddyg mawr ei fri. Ar ôl astudio yn Guy's Hospital, ym Mharis, ac yn Glasgow, bu'n feddyg yn Llundain o 1836 ymlaen. Parlyswyd ef yn 1886, a bu farw yn Watford, 27 Mai 1889. Y mae yn y D.N.B. ysgrif lawn ar ei yrfa ac ar ei gyfraniadau pwysig i feddyginiaeth; gweler hefyd Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1932-3, lle y ceir rhestr o'i bapurau. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1843.

Syr JOSIAH REES, prif farnwr Bermuda

Mab arall i Josiah Rees y masnachwr. Derbyniwyd ef i'r Middle Temple yn 1847 ac a alwyd i'r Bar yn 1851. Penodwyd ef yn brif farnwr yn 1878, urddwyd yn farchog yn 1891, a bu farw fis Tachwedd 1899; rhoes yr enw 'Gelligron' ar ei dy. (Who was Who; Middle Temple Admissions; ar gam y dywed Asaph ei fod yn fab i Thomas Rees).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.