REES, OWEN (1717 - 1768), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Owen Rees
Dyddiad geni: 1717
Dyddiad marw: 1768
Priod: Mary Rees
Plentyn: Josiah Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1717 yn ardal Cefn-arthen ger Llanymddyfri. Pan holltwyd eglwys Cefn-arthen gan ddadleuon diwinyddol, cododd y blaid Galfinaidd eglwys yng Nghlunpentan, a gorfforwyd gan Edmund Jones yn 1740; yr oedd Rees yn aelod ohoni. Aeth i ysgol Pentwyn dan Samuel Jones; yr oedd yn ei dymor olaf ynddi pan aeth Thomas Morgan, Henllan, yno yn 1741. Y mae'n bur amlwg iddo dderbyn galwad o Glunpentan yn 1741, oblegid mewn llythyr at Howel Harris ar 7 Awst (Trevecka Letter 362), enwa Edmund Jones ef yn un o'r gweinidogion Ymneilltuol a gefnogai Fethodistiaeth; eithr nid cyn Mawrth 1742 (9 Mawrth, meddai dyddlyfr Thomas Morgan - gofidiai ef na allai fod yn urddiad 'fy annwyl gyfaill' - a llyfr y Cilgwyn, Cofiadur, 1923, 30; 11 Mawrth meddai Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru) yr urddwyd ef. Yn ystod ei weinidogaeth ef (1749) y cododd ei eglwys dŷ-cwrdd Pentre-tŷ-gwyn. Symudodd yn 1756 i fugeilio eglwys Aberdâr. Yr oedd ei ragflaenydd yno'n Galfin, ac am ddim a wyddys, Calfin oedd Rees ar y pryd; ond y mae'n eglur iddo ef a'i bobl droi'n Arminiaid wedyn; sieryd Edmund Jones yn 1789 am 'wrthgiliad' Rees. Bu farw 14 Mawrth 1768, a chladdwyd ym mynwent y llan yn Aberdâr; y mae ar ei feddrod ddau bennill gan Edward Evan o'r Ton Coch, a ddaeth yn olynydd iddo yn nes ymlaen. Ailbriododd ei weddw, a bu fyw i fod yn 100 oed - y mae ysgrif arni yn y Monthly Repository, 1818, 143. Mab i Owen a Mary Rees oedd Josiah Rees.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.