ROBERTS, GOMER MORGAN (1904-1993), gweinidog (MC), hanesydd, llenor ac emynydd

Enw: Gomer Morgan Roberts
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1993
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC), hanesydd, llenor ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: J. E. Wynne Davies

Ganwyd 3 Ionawr 1904, yn un o un-ar-ddeg o blant Morgan a Rachel Roberts. Hanai ei dad o blwyf Llanfihangel Aberbythych yn Nyffryn Tywi, yntau'n fab i Sarah a Daniel Roberts, tra oedd gwreiddiau ei fam yn ardal Llandyfân, Trap a Charreg Cennen er y maged hi yn y Wernos, ger Rhydaman, yn ferch i Ann a William Vaughan y bwtsiwr. Ymgartrefodd y teulu yng Nghwm-bach heb fod nepell o ysgoldy Bethel, Blaenau, cangen o gapel MC Gosen, Llandybïe. Tystia yn ei ysgrifau i ddylanwad y capel hwnnw arno a'i ddyled i'r gweinidogion yno - y Parchgn W. Nantlais Williams, Philip Evans a Lemuel Lewis. Bu farw ei dad pan oedd yn naw oed ac yn 1917, yn dair ar ddeg, dechreuodd weithio yng nglofa Pencae'reithin. 'Roedd y gwmnïaeth a'r gymdeithas yno bron yn gyfan gwbl Gymraeg a chrefydd, llenyddiaeth a phynciau'r dydd yn faes trafod. Dechreuodd lenydda a chystadlu mewn eisteddfodau gan ymuno â dosbarth Cymraeg yn Rhydaman, o dan nawdd Adran Allanol Coleg y Brifysgol Aberystwyth. Y Parchg John Griffiths, a ddaeth yn ddiweddarach yn Brifathro Coleg y Bedyddwyr Caerdydd, oedd yr athro a chyflwynwyd ef yno i gyfrinion y gynghanedd ac i gwmni prydyddion yr ardal. Ymunodd hefyd â dosbarth Economeg yng Nghapel Hendre ac fe'i darbwyllwyd gan yr athro, Tom Hughes Griffiths, i gynnig am ysgoloriaeth Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, gwerth £60, am fynediad i Goleg Fircroft, Bournville, Birmingham, cais a fu'n llwyddiannus. Tua'r un adeg 'roedd Gosen yn ei annog i gyflwyno'i hun yn ymgeisydd i'r weinidogaeth. Ymhlith prydyddion y dosbarth Cymraeg oedd David Rees Griffiths, 'Amanwy'. Aeth ef ati i gasglu caneuon rhai o lowyr yr ardal a'u cyhoeddi mewn cyfrol yn dwyn y teitl O Lwch y Lofa (1924). Gwerthwyd pob copi a chyflwyno'r elw o £30 er mwyn rhoi, yn ôl cyflwyniad John Griffiths, 'hwb ymlaen i'r bardd athrylithgar Gomer Roberts - llanc y clyw Cymru fwy amdano yn y dyfodol.' Ar ôl ei flwyddyn yn Birmingham, dechreuodd ar ei gwrs addysg yng Ngholeg Trefeca ac yna, 1926-9, bu'n dilyn y Cwrs Cyffredinol yng ngholeg diwinyddol ei enwad yn Aberystwyth. Parhaodd ei weithgarwch llenyddol ac enillodd Gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yng Nghaerdydd, 1928, am ei awdl 'Ogof Arthur'. Fis Chwefror 1929 bu farw ei fam a'i chladdu ym mynwent Caersalem, Ty-croes. Yn yr Hydref dechreuodd ar y cwrs bugeiliol yng Ngholeg y Bala ac yn 1930 derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Salem, Faerdre, Clydach, yng Nghwm Tawe. Ordeiniwyd ef yn Sasiwn y Gaeaf a gyfarfu yn Llanelli, 11-13 Tachwedd 1930. Bu'n gweinidogaethu yng Nghlydach, 1930-9, Pontrhydyfen a Thon-mawr, 1939-58, gan symud i ofalaeth Llandudoch a Glan-rhyd, Gogledd Penfro, 1958, ynghyd â Chilgerran yn ddiweddarach. Yn 1968, ymddeolodd i ardal ei febyd gan ymgartrefu yn Llandybïe.

Trwy gyfrwng lliaws o astudiaethau trylwyr datblygodd Gomer M. Roberts yn brif hanesydd Methodistiaieth Cymru ac yn awdurdod ar emynyddiaeth Gymraeg, yn enwedig ar fywyd a gwaith Williams, Pantycelyn. Mae ei gynnyrch llenyddol toreithiog yn rhyfeddol, yn arbennig o gofio iddo gyflawni'r cyfan ynghanol prysurdeb gweinidogaeth arbennig o weithgar. Cyfrannai'n gyson i golofnau papurau lleol, ysgrifennu i gyhoeddiadau enwadol a chenedlaethol, paratoi rhaglenni a sgyrsiau radio, hanes eglwysi ac emynwyr, yn ogystal â chynhyrchu llu o gyfrolau ac ysgrifau difyr. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf, Methodistiaeth Fy Mro yn 1938 a daeth ffrwd lifeiriol o'i law hyd 1980 pan ymddangosodd Mynwenta: Detholiad o Englynion y Beddau. Ceir llyfryddiaeth lawn a manwl gan Huw M. Walters a K. Monica Davies yn Gwanwyn Duw: diwygwyr a diwygiadau, y gyfrol deyrnged a gyflwynwyd iddo yn 1982. Ymhlith ei brif gyfrolau, nodir Hanes Plwyf Llandybïe (1939); Bywyd a Gwaith Peter Williams (1943); Y Per Ganiedydd, Cyf. I (1949) a II (1958); Gwaith Pantycelyn (1960); Gweithiau William Williams, Cyf. I (1964). O fewn ei enwad cyfrannai'n gyson i'r Cylchgrawn Hanes, bu'n olygydd y Cylchgrawn, 1948-78, ac yn Llywydd y Gymdeithas Hanes, 1973-83. Traddododd y Ddarlith Hanes yn 1942 a 1964 a Darlith Goffa'r Diwygiad yn 1966. Ynghlwm wrth weithgarwch y Gymdeithas Hanes golygwyd ganddo Selected Trevecka Letters (1743-47) yn 1956 a Selected Trevecka Letters (1747-94) yn 1962. Yn 1973 bu'n golygu dwy gyfrol gyntaf Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru. Yn yr un flwyddyn dyrchafwyd ef i Gadair y Gymanfa Gyffredinol, ac yntau eisoes wedi gwasanaethu fel Llywydd Sasiwn y De. Cafwyd ganddo hanes y Gymanfa yn ei gyfrol Y Can Mlynedd Hyn (1964) ac yn 1968 traddododd Y Ddarlith Davies ar fywyd a chyfraniad Howell Harris, a gyhoeddwyd dan y teitl Portread o Ddiwygiwr (1969). Pan sefydlwyd Cymdeithas Emynau Cymru yn 1967 fe'i gwahoddwyd i fod yn olygydd cyntaf y Bwletin a pharhaodd yn y swydd honno tan 1977. Ymddangosodd nifer o'i emynau mewn gwahanol ddetholiadau ar hyd y blynyddoedd a cheir dau ohonynt yn Caneuon Ffydd (2001). Yr oedd hefyd yn aelod o Lys a Chyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Anrhydeddwyd ef gan Brifysgol Cymru â gradd M.A., 1949, a D.Litt., 1985.

Yn gorff cadarn, ac o daldra cymedrol, 'roedd yn llithrig ei leferydd. Meddai ar gryn hiwmor; medrai fod yn ffraeth iawn ar brydiau, dro arall yn llym ei dafod. Yn hael ei ysbryd, bu'n gymwynaswr parod i lu o haneswyr ac ymchwilwyr ifainc ac 'roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn pobl. 'Roedd yn gwmnïwr diddan a chanddo stôr o hanesion am wahanol ardaloedd Cymru. Cefnogai bob agwedd ar y bywyd Cymreig - yr Urdd, yr Eisteddfod, a'r Blaid Genedlaethol ac 'roedd yn gyfaill agos i Gwynfor Evans, AS, a gyflwynodd un o'r teyrngedau yn ei angladd.

Priododd, 23 Medi 1930, yng nghapel Bethany, Rhydaman, â Gwladys Jones, ail ferch Mr a Mrs Joseph Jones, Pantyffynnon. Bu hi a'u merch Mair yn fawr eu gofal amdano yn ei waeledd ar ddiwedd y daith. Bu farw 16 Mawrth 1993, yn 89 oed, a chladdwyd ef yn Llandybïe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-06-19

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.