WILLIAMS, WILLIAM NANTLAIS (1874 - 1959), gweinidog (MC), golygydd, bardd ac emynydd

Enw: William Nantlais Williams
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1959
Priod: Annie Williams (née Price)
Priod: Alice Maud Williams (née Jones)
Rhiant: Mari Williams
Rhiant: Daniel Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC), golygydd, bardd ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 30 Rhagfyr 1874 yn Llawr-cwrt, Gwyddgrug, ger Pencader, Sir Gaerfyrddin, yn ieuangaf o ddeg plentyn Daniel a Mari Williams. Cafodd addysg yn ysgol elfennol New Inn, ac yn 12 oed prentisiwyd ef yn wehydd gyda'i frodyr. Magwyd ef yn eglwys y New Inn, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1894. Addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn ac yng Ngholeg Trefeca. Ymddiddorai mewn barddoniaeth yn ieuanc a chyhoeddodd gasgliad o'i ganeuon, Murmuron y nant (1898) pan oedd yn fyfyriwr. Enillodd gadair mewn eisteddfod yn Rhydaman yn 1899 dan feirniadaeth Watcyn Wyn, a chafodd alwad yn fuan ar ôl hynny i fugeilio eglwys ieuanc Bethany yn y dref honno. Ord. ef yn 1901, ac ym Methany y llafuriodd o'r flwyddyn 1900 hyd ei ymddeoliad yn 1944 (eithr bu'n bwrw golwg dros eglwys fechan y MC yn Llandybïe ym mlynyddoedd cyntaf y ganrif). Ei uchelgais oedd bod yn bregethwr cyrddau-mawr ac yn fardd llwyddiannus mewn eisteddfodau. Bu'n gyd-fuddugol ar chwech o delynegion yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor (1902); cafodd gadair eisteddfod Meirion yn 1903, a chadair eisteddfod y Queen's Hall, Llundain, yn 1904. Y flwyddyn honno daeth y Diwygiad i Rydaman, a daeth Nantlais dan ddylanwad y cyffro hwnnw yn drwm. Penderfynodd gysegru ei fywyd bellach i efengyleiddio a hyrwyddo bywyd ysbrydol yr eglwysi. Priododd ddwywaith; (1) yn 1902 ag Alice Maud Jones (ŵyres yr hynod Thomas Job, Cynwyl), a ganwyd tri o feibion a dwy ferch o'r briodas; bu hi farw yn 1911; (2) yn 1916 ag Annie Price (prifathrawes ysgol Aberpennar a merch T. Price, gweinidog Brechfa). Bu farw 18 Mehefin 1959, a chladdwyd ei weddillion o flaen capel newydd Bethany.

Ar ôl y Diwygiad cymdeithasai Nantlais â'r gwŷr blaenllaw a gyrchai i'r cynadleddau blynyddol efengylaidd yn Keswick a Llandrindod — E. Keri Evans (Bywg. 2, 14-15), R. B. Jones, W. W. Lewis, Seth Joshua (Atod. isod), W. S. Jones, W. Talbot Price, &c., ac yn 1917 sefydlodd gynhadledd flynyddol o'r un math yn Rhydaman (gweler J. D. Williams, Cynhadledd y Sulgwyn Rhydaman (Rhydaman, 1967). Bu llwyddiant mawr ar ei lafur ym Methany; codwyd ysgoldy ym Mhantyffynnon yn 1904, ac un arall yn Nhir-y-dail yn 1906 (corfforwyd eglwys yno yn 1911 (gweler W. N. Williams, Y Deugain mlynedd hyn (Rhydaman, 1921)). Adeiladwyd capel hardd newydd ym Methany yn 1930. Dyrchafwyd ef i gadair Sasiwn y De (1943), ac yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1940). Bu'n gohebu am flynyddoedd ag Eluned Morgan o Batagonia, ac ar ei thaer ymbil hi aeth Nantlais ar daith bregethu am dri mis i'r Wladfa yn 1938 (gweler yr ohebiaeth rhyngddo ac E. M. yn Dafydd Ifans, gol., Tyred drosodd, 1977).

Er i Nantlais ymwadu â chystadlu mewn eisteddfodau ar ôl y Diwygiad daliodd ati i lenydda, gan gysegru'i ddoniau a'i awen bellach i genhadaeth yr Efengyl. Bu'n un o olygyddion Y Lladmerydd (1922-26), ac yn olygydd Yr Efengylydd (1916-33), a Trysorfa'r Plant (1934-47). Cyfansoddodd lawer o emynau ar gyfer y plant, yn wir ni bu nemor neb yn fwy llwyddiannus nag ef fel emynydd y plant. Ceir y rheini mewn tri chasgliad: Moliant plentyn, rhan I (1920); Moliant plentyn, rhan II (1927); a Clychau'r Gorlan (1942). Y mae graen ac eneiniad ar ei emynau eraill, a gwelir llawer ohonynt yn y casgliadau cyfoes o bob enwad. Ceir casgliad o'i brif emynau yn Emynau'r daith (1949), ac yn y casgliad Clychau Seion (a olygwyd ganddo c. 1952). Cyhoeddodd hefyd (gyda chydweithrediad Daniel Protheroe (Bywg., 754-5), David Evans (Bywg. 2, 13-14), a J. T. Rees (Bywg. 2, 48) nifer o ganeuon i blant ynghyd â gweithiau cerddorol eraill. Ni chollodd mo'i ddawn fel bardd telynegol ychwaith, er iddo ymwrthod â chystadlu, fel y dengys ei gasgliad o delynegion, Murmuron newydd (1926), a'i rigymau i blant, Darlun a chân (1941). Cyn diwedd oes, ar gyfrif ei gyfraniad llenyddol, cafodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Ceir trafodaeth arno fel emynydd a bardd, ynghyd â rhestr o'i holl gynhyrchion o'r wasg, ym Mwletin Cymd. Emynau Cymru, I, rhif 4 (1971), 77-99. Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau a olygwyd ganddo, ac i'r Goleuad. Ceir penodau o atgofion oes yn yr olaf (1955), a chyhoeddwyd y rheini yn 1967 dan y teitl O gopa bryn Nebo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/