Ganwyd 5 Tachwedd 1866, yn Ystradgynlais, sir Frycheiniog, mab Daniel ac Eleanor Protheroe. Ei athrawon cyntaf oedd Philip Thomas, J. T. Rees, a D. M. Lewis. Yr oedd ganddo lais da yn fachgen ac enillodd wobrwyon am ganu yn eisteddfodau cenedlaethol Abertawe a Merthyr, 1880-1. Yn 18 oed, ef oedd arweinydd côr Ystradgynlais, a chafodd y wobr yn eisteddfod Llandeilo.
Yn 19 oed ymfudodd i Scranton, Pennsylvania, U.D.A., a bu am gwrs o addysg o dan Parson Price, Dudley Buck, a Hugo Karn. Yn 1890 graddiodd yn Faglor Cerdd (Toronto), ac yn ddiweddarach cafodd radd Doethur Cerdd. Am wyth mlynedd bu'n arweinydd y Cymmrodorion Choral Society, Scranton. Yn 1894 symudodd i Milwaukee a bu yn arweinydd i amryw o gymdeithasau corawl. Yn ddiweddarach symudodd i Chicago, a phenodwyd ef yn arweinydd i nifer o gorau, yn athro yn y Sherwood Music School, ac yn gyfarwyddwr cerdd y Central Church. Ymwelai â Chymru yn gyson, a bu yn beirniadu yn yr eisteddfod genedlaethol, ac yn arwain gwyl gerddorol Harlech, 1931.
Ysgrifennodd y llyfrau Arwain Corau, 1914, a Nodau Damweiniol a D'rawyd, 1924. Cyfansoddodd lawer iawn - y gantawd ' St Pedr ' ac eraill. Bu ei ddarnau i gorau meibion, ' Invictus,' ' Nun of Nidaros,' ' Bryn Calfaria,' ynghyd â ' Jesu, lover of my soul,' yn ddarnau prawf mewn llawer o eisteddfodau, a cheir ei anthemau, tonau, a thonau plant bron ym mhob casgliad o donau Cymraeg. Bu farw yn ei gartref yn Chicago, 25 Chwefror 1934.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.