GRIFFITHS, DAVID REES ('Amanwy '; 1882 - 1953), bardd ac ysgrifwr

Enw: David Rees Griffiths
Ffugenw: Amanwy
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1953
Priod: Mary Griffiths (née Davies)
Priod: Margaret Griffiths (née Morgan)
Plentyn: Gwilym Griffiths
Rhiant: Margaret Griffiths (née Morris)
Rhiant: William Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac ysgrifwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 6 Tachwedd 1882 yn Efail y Betws, ger Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, mab William a Margaret Griffiths (ganwyd Morris). Brawd iddo oedd y Gwir Anrhydeddus James Griffiths . Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, Betws, ac aeth i weithio i'r lofa pan oedd yn 12 mlwydd oed. Anafwyd ef yn dost mewn tanchwa yng nglofa Pantyffynnon, a lladdwyd brawd iddo yr un adeg. Ar ôl y danchwa dechreuodd ymhyfrydu mewn llenyddiaeth, gan gystadlu ym mân eisteddfodau'r ardal. Bardd aml ei gadeiriau ydoedd, a barnai Cynan mai ei bryddest ef oedd yr orau am goron Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1932 - cyhoeddwyd hi, gydag awdl ailorau Thomas Parry , yn Cerddi'r lleiafrif. Enillodd ar y soned yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd yn 1934. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth gynnar yn Ambell gainc (1919), ac ef a olygodd O lwch y lofa (1924), ' Cyfrol o ganu gan chwech o lowyr sir Gâr '.

Cefnodd ar y lofa yn 1927, a chafodd waith fel gofalydd ysgol sir Rhydaman, gan ddylanwadu yno ar nifer o blant llengar yr ysgol. Ef oedd gofalydd y ' Golofn Gymraeg ' yn yr Amman Valley Chronicle am flynyddoedd lawer, a chyfrannodd lawer iddi ar faterion lleol. Bu'n golofnydd hefyd yn Y Cymro - ' O gwm i gwm ' - am rai blynyddoedd. Etholwyd ef yn ddiacon yn eglwys Annibynnol Gellimanwydd, a chyhoeddodd deyrnged i'w hen weinidog (Parch. Isaac Cynwyd Evans) dan y teitl Gweinidog fy ieuenctid (1945). Darlledodd lawer ar y radio o bryd i'w gilydd, a chymerodd ran flaenllaw yn y ffilm David, sy'n bortread o ramant ei fywyd. Cyhoeddwyd ei weithiau prydyddol - yn bryddestau, caneuon, sonedau ac emynau - dan y teitl Caneuon Amanwy (1956) a olygwyd gan Gomer M. Roberts . Cyhoeddwyd rhai o'i emynau yn Y Caniedydd (1960). Priododd (1) â Margaret Morgan o Ben-y-groes; (2) â Mary Davies o'r Crwys ger Abertawe. Ei fab o'r briodas gyntaf oedd Gwilym, a fu â'i fryd ar weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru, ond bu farw cyn sylweddoli'i fwriad. Aeth ei dad ag ef i Dde Affrica yn 1929 eithr ni chafodd adferiad. Ganwyd dwy ferch o'r ail briodas. Bu farw 27 Rhagfyr 1953 yn Ysbyty Middlesex, Llundain, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Gellimanwydd, Rhydaman. Yr oedd ' Amanwy ' yn enghraifft wych o ddiwylliant gwerin ardal y glo carreg yn Sir Gaerfyrddin yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.