Ganwyd ef ym Metws, Rhydaman ar 19 Medi 1890, yr ieuengaf o ddeg o blant William Griffiths, gof mewn pwll glo, a Margaret Morris. Un o'i frodyr oedd y bardd Cymraeg nodedig Amanwy (David Rhys Griffiths, a fu farw December 1953). Addysgwyd ef yn Ysgol y Bwrdd, Betws, Rhydaman, 1896-1903, a'r Gymraeg yn unig a siaradai nes iddo gyrraedd ei bum mlwydd oed. Dechreuodd weithio mewn pwll glo carreg lleol pan oedd yn dair-ar-ddeg oed. Dylanwadwyd arno yn fawr drwy gydol ei ieuenctid gan ddiwygiad crefyddol 1904-5 ac effeithiau symudiadau adain-chwith gwleidyddol pwerus. Ym 1907 penodwyd ef yn ysgrifennydd ei gangen leol o Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Ym 1908 daeth Griffiths yn un o sylfaenwyr ac yn ysgrifennydd ar gangen newydd y Blaid Lafur Annibynnol yn Rhydaman, ac ym 1916 dewiswyd ef yn ysgrifennydd Cyngor Masnach a Llafur Rhydaman. Ymgyrchodd yn nerthol yn erbyn ymyrraeth Prydain Fawr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Astudiodd Griffiths yn y Coleg Llafur Canolog, Llundain, sefydliad Marcsaidd ei naws, 1919-21, ar yr un adeg ag Aneurin Bevan a Morgan Phillips. Yna dychwelodd i weithio fel glöwr, gan dreulio pedair noswaith yr wythnos yn cyflwyno gwersi mewn economeg a hanes diwydiannol. Yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd dringodd yn gyflym i amlygrwydd o fewn Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Ym 1926 penodwyd ef i swydd fel asiant y glowyr yn ardal y glo carreg (Rhydaman rhif 1) ac roedd felly mewn safle canolog adeg y streic gyffredinol a'r cloi allan hir a ddilynodd yn y diwydiant glo. Bu ei brofiad o'r dioddef tymor-hir o fewn cymunedau glofaol de Cymru yn gyfrifol am ei greithio'n ddwfn iawn. Ym 1932 etholwyd Griffiths yn is-lywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac yna daeth yn llywydd ar y 'Ffed' ym 1934 - ac yntau o hyd dim ond yn 44 mlwydd oed ac felly'n parhau'n gymharol ifanc. Wynebodd gyfnod arbennig o anodd oherwydd y cwymp syfrdanol yn nifer aelodau'r 'Ffed', a'r angen i negydu cynnydd yn y gyflog hollol annigonol a delid i lowyr a oedd yn gweithio. Llwyddodd y Ffed i wrthsefyll her fygythiol undebau llafur cwmni 'Spencer'. Gwasanaethodd Griffiths hefyd fel Ynad Heddwch dros sir Frycheiniog.
Ond bywyd gwleidyddol oedd yn parhau agosaf at ei galon. Roedd wedi ymuno â'r Blaid Lafur Annibynnol mor gynnar â 1905 a gwasanaethodd yn ysgrifennydd i Gyngor Masnach Rhydaman, 1916-19. Yna gwasanaethodd yn asiant Plaid Lafur etholaeth Llanelli, 1922-25, a bu'n asiant lleol y glowyr, 1925-36, i Gymdeithas Glowyr y Glo Carreg. Mewn is-etholiad ym mis Mawrth 1936 etholwyd Jim Griffiths i olynu'r Dr J. H. Williams fel AS Llafur Llanelli gyda mwyafrif o 16,221 o bleidleisiau, a daliodd i gynrychioli'r etholaeth yn San Steffan nes iddo ymddeol ym Mehefin 1970. Yn San Steffan gwnaeth Griffiths ei farc yn fuan yn ymosod yn hallt ar y prawf moddion, ymosod ar y perchnogion glo, ac argymell ymestyn y cynllun yswiriant cenedlaethol. Daeth i amlygrwydd yn fuan fel dadleuwr brwdfrydig a phwerus yn y Tŷ Cyffredin, ac ym 1939 etholwyd ef i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur - symudiad rhyfeddol o gyflym. Yn etholiad cyffredinol 1945 roedd mwyafrif Griffiths yn fwy na 34,000 o bleidleisiau, yr ail uchaf ledled Prydain Fawr. Gwasanaethodd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur am ugain mlynedd un ddi-dor. Ym 1942 cafodd ei benodi'n ysgrifennydd i'r Blaid Seneddol Gymreig. O'r cychwyn cyntaf yn y Tŷ Cyffredin, siaradai'n gyson mewn dadleuon ar bynciau cymdeithasol, materion Cymreig a themâu rhyngwladol. Ym mis Chwefror 1943 Griffiths a symudodd gynnig y Blaid Lafur yn erfyn ar lywodraeth glymbleidiol adeg y rhyfel i dderbyn argymhellion Adroddiad Beveridge. Ym 1945 cafodd ei benodi gan Attlee i swydd Gweinidog Yswiriant Cenedlaethol, ac yn y swydd honno cydweithiodd ag Aneurin Bevan, y gweinidog dros iechyd, i osod seiliau ar gyfer y wladwriaeth les. Yn y swydd newydd hon bu Griffiths yn gyfrifol am dri mesur allweddol: cyflwyno talu lwfans i deuluoedd yn gynnar ym 1946, pasio Deddf Yswiriant Cenedlaethol 1946 (mesur a fu'n gyfrifol am greu sustem gynhwysfawr o nawdd cymdeithasol) a phasio Deddf Anafiadau Diwydiannol 1948. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd y Blaid Lafur ym 1948-49, a pharhaodd fel aelod blaenllaw o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur. Yn etholiad cyffredinol Chwefror 1950 roedd ei fwyafrif yn Llanelli yn 31,626 o bleidleisiau - y pedwerydd uchaf ledled y Deyrnas Unedig a'r uchaf oll yng Nghymru.
Ar ôl i'r Blaid Lafur ddychwelyd i lywodraeth yn Chwefror 1950, daeth Jim Griffiths yn ysgrifennydd gwladol dros y trefedigaethau. Yn y swydd hon cynorthwyodd i ddrafftio cyfansoddiadau newydd ar gyfer gwledydd trefedigaethol a oedd yn dod i'r amlwg fel Nigeria a Singapore, chwaraeodd ran yn nhrafodaethau penderfynu cyfansoddiad Kenya'r dyfodol, a gwasgodd yn gryf ar gyfer sefydlu Ffederasiwn Canol Affrica. Cafodd ei ystyried o ddifrif ar gyfer dyrchafiad i fod yn Ysgrifennydd Tramor yng ngwanwyn 1951, ond yn y pen draw Herbert Morrison a benodwyd i'r swydd. Ym 1955 etholwyd Griffiths ar flaen y pôl ymhlith yr ymgeiswyr ar gyfer cabinet yr wrthblaid. Yn ystod blynyddoedd y Blaid Lafur fel gwrthblaid, 1951-64, cyflawnodd Jim Griffiths swyddogaeth ddefnyddiol fel cymodwr rhwng yr adain dde a'r adain chwith o fewn y Blaid Lafur, a pharhaodd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid. Roedd yn aelod o bwyllgor seneddol y Blaid Lafur Seneddol, 1951-59. Etholwyd ef wedyn yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur ym 1955, wedi gorchfygu Aneurin Bevan o 141 o bleidleisiau i 111 yn yr etholiad ar gyfer y swydd. Parhaodd yn y swydd hon, ac yntau'n cael ei ailethol yn flynyddol, o 1956 tan 1959, pan olynwyd ef yn ei dro gan Bevan. Cefnogodd Griffiths George Brown (yn hytrach na Harold Wilson) yn y bleidlais ar gyfer arweinyddiaeth y blaid ym 1963, brwydr hynod egnïol. Ym 1952 penodwyd ef yn aelod o bwyllgor ymgynghorol y BBC, a daliodd i gefnogi'r mudiad dirwest drwy gydol ei oes.
Drwy gydol ei yrfa wleidyddol parhaodd Griffiths ar y cyfan i gefnogi consesiynau i genedligrwydd Cymreig a datganoli i Gymru, ac yn rhannol oherwydd ei ddylanwad ef y cytunodd Hugh Gaitskell i gynnwys ym maniffesto'r Blaid Lafur ym 1959 ymrwymiad polisi i benodi Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru. Griffiths oedd llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig, 1959-64, ac ef oedd y dewis amlwg ar gyfer ei benodi'n 'Ysgrifennydd Gwladol Siarter dros Gymru' yn Hydref 1964, gyda sedd o fewn y Cabinet Llafur. Daliodd i wasanaethu yn y swydd tan fis Mawrth 1966 er ei fod yng nghanol ei saithdegau. Ei olynydd yn y Swyddfa Gymreig oedd Cledwyn Hughes. Ym 1969 cyhoeddodd Griffiths gyfrol braidd yn wyliadwrus o atgofion sef Pages from Memory. Yn ystod y 1960au hwyr, er bod ei iechyd yn dirywio'n raddol, fe'i perswadiwyd gan Harold Wilson i beidio ag ymddeol o'r senedd rhag achosi is-etholiad beryglus unwaith yn rhagor mewn etholaeth ym maes glo de Cymru. Y chwaraewr rygbi rhyngwladol Carwyn James, ymgeisydd cryf, deniadol, a fyddai'n sefyll ar ran Plaid Cymru yn yr etholaeth. Ond ym mis Mai 1967 datganodd Griffiths na fyddai'n sefyll eto ar gyfer ei ailethol yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Priododd Griffiths ar 19 Hydref 1918 Winifred ('Winnie') Rutley (1895-1982), merch William Rutley, Overton yn Hampshire. Lluniodd hithau gyfrol denau o atgofion One Woman's Story (1979). Yn wreiddiol roeddent yn byw mewn gwahanol lefydd o fewn y maes glo carreg, ond o 1945 ymlaen aethant i fyw i Putney Heath. Bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1945, a phenodwyd ef yn CH ym 1966. Dyfarnwyd iddo radd Ll.D. Prifysgol Cymru er anrhydedd ym 1946. Darllenai yn eang, lenyddiaeth a hanes fel ei gilydd, a dilynai rygbi'n frwdfrydig. Roedd ganddo'r gallu bob amser i ddiddanu ei ffrindiau â straeon gafaelgar o fywyd yn Ne Cymru, yn enwedig o fewn y maes glo. Bu farw Griffiths yn ei gartref yn Teddington ar 7 Awst 1975 a chladdwyd ei weddillion y mynwent Rhydaman wedi gwasaneth yn y Christian Temple.
Cyflwynodd Griffiths i'r mudiad Llafur Prydeinig bersonoliaeth gynnes a charedig. Roedd ganddo awch arbennig dros gyfiawnder cymdeithasol a'i codai uwchben ymladd rhwng carfannau gelyniaethus o fewn ei blaid. Roedd ganddo hefyd rhyw gadernid a'i nodweddai fel dylanwad dros heddwch, cymodi a chymedroldeb. Gallai ei areithiau gwleidyddol fod yn sentimental, ond roeddent yn ddi-ffael yn ddiffuant, ac fel canlyniad gallai alw ar barch eang a hoffter o fewn y Blaid Lafur ac ymhlith cydweithwyr o fewn pob plaid wleidyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-09-17
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.