Ganwyd Carwyn James ar 2 Tachwedd 1929 yng Nghefneithin, Sir Gaerfyrddin, yr ieuengaf o bedwar o blant David Michael James (1891-1972) a'i wraig Annie (ganwyd Davies, 1893-1974). Roedd ganddo ddwy chwaer, Gwen (1914-1996) ac Eilonwy (1918-2005), ac un brawd, Dewi (1927-2015). Roedd brodyr ei fam yn seiri a'i dad yn was fferm. Roedd y tad wedi symud o dlodi Sir Aberteifi i faes glo Sir Gâr ar ddechrau'r 20au gan adael ei deulu yn Rhydlewis. Wedi geni'r mab cyntaf yn 1927, aeth y teulu cyfan i fyw mewn ty rhent, Rose Villa, Cefneithin. Aeth Carwyn, yr unig un o'r chwech a anwyd i'r de o afon Teifi, i'r ysgol gynradd hanner canllath o'i gartref ac yna i Ysgol y Gwendraeth ddwy filltir i ffwrdd.
Roedd rygbi yno o'r dechrau gan fod hyd yn oed ei brifathro cyntaf W. J. Jones wedi cael cap. Yn ifanc, aeth yn rheolaidd ar hyd Heol y Baw yng nghwmni Lloyd Morgan, ffrind ei dad, i gefnogi tîm y pentref a chario sgidiau Haydn Jones, maswr a chanolwr gosgeiddig. Cyfeiriodd droeon mewn sgwrs ac ysgrif at Lloyd a Haydn Top y Tyle, a daeth tynged y ddau i'w atgoffa'n feunyddiol o'i freintiau ac mai ef yn unig a gafodd ddewis mewn bywyd. Aeth y naill dan ddaear yn bedair ar ddeg oed a gorfod rhoi i fyny yn ddeg ar hugain yn 'hundred per center', ei ysgyfaint wedi eu chwalu gan lwch. Aeth y llall i'r rhyfel ond lladdwyd Haydn yn 1941 ar HMS Hood, llong fwyaf y Llynges a suddodd mewn tair munud.
Mewn cymuned glòs draddodiadol y pentref glofaol, roedd dylanwad y capel a'r cartref yn gryf arno. Ac eto, roedd ef a'i frawd yn wahanol i'r bechgyn eraill. Yn gyntaf, oherwydd y gwahaniaeth oedran rhyngddynt a'u chwiorydd, roedd ganddynt, i bob pwrpas, dair mam ac fe'u maldodwyd. Yn ail, nid plant glowyr ond meibion fferm, Ffynnon y Cawr, oedd eu ffrindiau gorau, ac yn drydydd, aethant i ffwrdd bob haf. Tra oedd pob bachgen arall yn y pentref yn treulio rhan o'i wyliau yn y pwll glo gyda'i dad, yn Rhydlewis yr oedd Carwyn a Dewi. Er ei hedmygedd o ddewrder y glowr, roedd eu mam yn ofni y byddai cyfnod dan ddaear yn magu blas at y gwaith anodd, peryglus hwnnw.
Yn Ysgol y Gwendraeth, er ei hoffter o lenyddiaeth Saesneg, magwyd angerdd at iaith a diwylliant Cymru dan ddylanwad Dora Williams. Ar gaeau chwarae'r ysgol, roedd y traddodiad rygbi eisoes yn gryf, a phenllanw sawl tymor da oedd ei ddewis yn faswr a chapten Ysgolion Cymru.
Yn 1948, aeth i Brifysgol Aberystwyth. Braint oedd astudio Cymraeg mewn adran lle roedd T. H. Parry-Williams yn Athro a Gwenallt yn ddarlithydd, a bu cerddi'r ddau yn ysbrydoliaeth iddo gydol ei oes. Roedd yn fyfyriwr cydwybodol ac ymroddgar, ond roedd ysfa'r cae chwarae yn gryf hefyd a bu'n gapten timoedd rygbi a chriced y coleg ac yn aelod o dîm cyntaf y dref. Ar ôl gwneud ymarfer dysgu, treuliodd ei ddwy flynedd o wasanaeth milwrol gorfodol yn y Llynges, nid ar long ond, fel nifer o raddedigion eraill, yn dysgu Rwsieg mewn canolfan yn Surrey.
Cafodd swydd dros dro am flwyddyn fel athro yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerfyrddin cyn cael gwahoddiad i ddatblygu adran Gymraeg gan Goleg Llanymddyfri. Roedd hon yn swydd ddelfrydol gan fod cyfle hefyd i hyfforddi rygbi gyda'r adnoddau gorau a lle roedd pwyslais mawr eisoes ar gampau.
Chwaraeodd 150 o gemau mewn saith tymor dros glwb Llanelli. Roedd yn faswr talentog, nid yn unig yn ochrgamwr twyllodrus ond hefyd yn feistr ar y gic adlam. Serenodd yn y gêm saith bob ochr lle roedd sgiliau'n bwysicach na maint, ac mae llun ohono ar faes Twickenham yn 1956 yn derbyn cwpan y Middlesex Sevens fel capten buddugol Cymry Llundain.
O ran amseru, bu'n hynod anffodus bod ei yrfa ryngwladol wedi cyd-redeg ag un Cliff Morgan o Gaerdydd, maswr Llewod 1955. Mewn cyfnod lle nad oedd eilyddio, bu ar yr ystlys dros ugain o weithiau cyn i'w gyfle ddod yn Ionawr 1958 ac yntau'n wyth ar hugain oed. Gydag anaf Morgan, Carwyn a wisgodd grys rhif 6 (roedd y rhifau'n wahanol cyn y 60au gyda'r cefnwr yn 1 a'r bachwr yn 9 ayyb) dros Gymru yn erbyn Awstralia ar Barc yr Arfau. Yn briodol iawn, ciciodd gôl adlam mewn buddugoliaeth o 9 pwynt i 3. Ddeufis wedyn, cafodd ei ail gap yn erbyn Ffrainc fel canolwr tu allan i Morgan ond collwyd y gêm ac ni chwaraeodd y naill na'r llall i Gymru wedyn.
Bu'n athro tan 1969, blwyddyn o gyffro gwleidyddol mawr yng Nghymru ac i Carwyn yn ddechrau cyfnod newydd gan iddo fynd yn ddarlithydd i Goleg y Drindod, Caerfyrddin ac i Barc y Strade fel hyfforddwr. Yn Llanelli, ei nod o'r dechrau oedd symleiddio'r gêm a gwireddu athroniaeth ei fentor yn Llanymddyfri, T. P. Williams, o symud y bêl mor gyflym â phosib ar hyd yr olwyr i greu llwybr clir i'r asgellwr. Ni allai ei ddelfryd o rygbi agored ddigwydd heb lefelau uwch o ffitrwydd, ac roedd cymorth Tom Hudson, cyn-athletwr rhyngwladol a ddaeth i'r clwb ar gais Carwyn, yn gwbl allweddol. Ar y cae ymarfer goruchwyliodd ddriliau pasio blaenau-bysedd dibendraw, wedi eu gweithredu ar garlam, nes i'r sgil sylfaenol hwn ddod yn ail natur. Rhoddwyd felly i'w garfan dalentog y modd i feddwl, meddwl a meddwl drachefn ar y cae. Petaent yn arbrofi a gwneud camgymeriadau, byddai'r chwarewyr yn dysgu a ffynnu o ganlyniad. Iddo ef, nid oedd disgyblaeth yn rhoi gefynnau am eu traed ond yn hytrach yn eu rhyddhau. Hyn oedd ei weledigaeth, nid yn unig ar y maes chwarae ond hefyd yn yr ystafell ddosbarth.
Uchafbwynt ei yrfa fel hyfforddwr oedd Seland Newydd yn 1971 pan enillodd y Llewod eu hunig gyfres erioed yno; cafwyd dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal mewn pedwar prawf. Gyda Doug Smith yn rheolwr a John Dawes yn gapten, llwyddodd i asio rygbi agored gyda'r seicoleg a ddatblygwyd yn ystafell newid y Strade. Gwyddai fod sawl carfan dalentog wedi dychwelyd o deithiau felly yn waglaw a gwelodd yn glir o'r dechrau mai ei nod, yn syml, oedd cael cewri fel Gareth Edwards a Willie John McBride i gredu. Roedd wedi llwyddo i berswadio Barry John, a fagwyd yn yr un pentref, i ddod ar y daith, a'r cyd-ddigwyddiad rhyfeddol, hapus hwnnw oedd conglfaen yr orchest. Yn ôl yn Llanelli, y flwyddyn wedyn ar 31 Hydref, trechodd y Sgarlets y Crysau Duon o 9 pwynt i 3. Mae'r gêm honno, gyda Delme Thomas yn gapten, bellach yn gymaint rhan o chwedloniaeth Cymru â'r Mabinogion a'i hudodd yn ifanc. Fel arfer mae gan dimoedd llwyddiannus faswyr dawnus, a bu Carwyn yn ffodus o'r cyfle i weithio'n agos gyda dau o'r goreuon, Barry John a Phil Bennett.
Penderfynodd Carwyn sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli yn Etholiad Cyffredinol 1970. Er gwaethaf Rhyddfrydiaeth yr aelwyd a Sosialaeth ei gymuned, teimlai atyniad cynnar a chadarn at genedlaetholdeb, ac roedd wedi ymaelodi â'r Blaid pan yn fyfyriwr. Er nad oedd gobaith disodli Llafur, roedd dros 8,000 o bleidleisiau yn anrhydeddus iawn. Yn sgil llwyddiant y Llewod, cafodd gynnig OBE a'i wrthod gan nad oedd yn gyson â'i ddaliadau digyfaddawd. Ond derbyniodd, gyda balchder, wahoddiad i wisg wen yr Orsedd.
Daeth cyfle yn 1974 i ymgeisio am swydd hyfforddwr Cymru. Gan na fyddai ganddo'r hawl i ddewis y tîm heb ymyrraeth pwyllgor y 'Big Five', gosododd amodau gan wybod nad oeddent yn dderbyniol. Gan fod Llanelli wedi ennill pedwar Cwpan Her Cymru yn olynol rhwng 1973 ac 1976, yn seiliedig ar reolaeth lwyr un dyn yn unig dros chwaraewyr a thactegau, roedd amharodrwydd Undeb Rygbi Cymru i fabwysiadu'r un gyfundrefn yn siom iddo.
Mentrodd, felly, i ogledd yr Eidal, ar wahoddiad clwb Rovigo yn 1977 yn benisel, yn flinedig ac wedi ei ddadrithio. Yno cafodd adfywiad gyda chymorth athro ieithoedd ifanc Angelo Morello a'i deulu. Daeth cyfle, wrth hyfforddi, i astudio iaith arall, i ysgrifennu am rygbi ac i gyflwyno cerddi Saesneg i ddisgyblion Angelo. Roedd gwastadedd eang gorlifdir yr afon Po a chwmni dieithriaid yn wrthgyferbyniad amserol i gulni'r wlad a'i gwrthododd. Yn raddol, llwyddodd i adfer ei hunan-barch, ei 'autostima'. Wedi dychwelyd i Gymru yn 1979, bu'n brysur fel cyd-awdur llyfr ar daith y Llewod 1980 a'i waith ei hun, Focus on Rugby a gyhoeddwyd wedi iddo farw.
Bu'n dioddef llawer o gyflwr poenus ar ei groen, ond roedd yr ysmygu trwm ers dyddiau coleg a'r ddiod gadarn, wrth fogi ei archwaeth, wedi creu cylch dieflig. Cafodd rybudd flwyddyn cyn ei farw o'i freuder ond anwybyddwyd hwnnw.
Roedd symud yn 1974 i fyd darlledu yn gyffrous ond yn ddadwreiddiad andwyol. Fe oedd dadansoddwr rygbi cyntaf BBC Cymru - yn helpu Eic Davies i greu geirfa Gymraeg i'r gamp - a cholofnydd rygbi cyntaf y Guardian ond roedd pris i'w dalu. I un a oedd yr un mor gyfforddus yn cyflwyno Tocyn Wythnos o faes yr Eisteddfod â chadeirio Sports Line-up, yn hapusach yn tynnu soned neu gywydd yn ddarnau na gwneud synnwyr o dâp mewn stiwdio foel, roedd ymbellhau o wir ddiwylliant yn straen. Yng nghanol amserlen lawn, roedd yna wacter.
Dyn sengl ydoedd. Ei chwaer Gwen, nyrs wedi ymddeol a hefyd yn ddi-briod, oedd yn gofalu amdano yn eu cartref, ryw chwarter milltir o Rose Villa. Ar ol iddo farw, tyfodd y sïon am ei rywioldeb a bu rhagor o amau a dyfalu yn sgil darllediad sawl rhaglen ddiflas.
Bu Carwyn James farw ar wyliau yn Amsterdam o drawiad ar y galon yn ei ystafell yng ngwesty Kras Nabolsky ar 10 Ionawr 1983. Cafwyd angladd preifat yn amlosgfa Treforys ac yn fuan wedyn cynhaliwyd dau wasanaeth coffa iddo, y naill yng nghapel Tabernacl, Cefneithin a'r llall yng Nghaerdydd, lle, fel yn esgyll englyn Dic Jones, y daeth ei ddau fyd ynghyd:
Yn Salem, y gêm a'r gân
Mae'r cof am Gymro cyfan.
Dyddiad cyhoeddi: 2016-06-29
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.