Ganwyd Cliff Morgan ar 7 Ebrill 1930 yn 159 Heol Top Trebanog, Trebanog yng Nghwm Rhondda, unig blentyn Clifford Morgan (1901-1972), glöwr, a'i wraig Edna May (g. Thomas, 1907-1962). Roedd ei dad yn bêl-droediwr talentog, a chynigiwyd cytundeb proffesiynol iddo gan glwb Tottenham Hotspur yn y misoedd cyn geni Cliff, ond gwrthododd y cynnig. Er mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd, dysgodd Cliff Gymraeg gan ei dad ac roedd yn siaradwr rhugl.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Gellidawel yn Nhonyrefail ac Ysgol Ramadeg Tonyrefail. Roedd yn hoff iawn o gerddoriaeth o oedran gynnar, gan chwarae'r piano a chystadlu mewn eisteddfodau ysgol. Yn 17 oed, daeth yn ail denor yng Nghôr Cymysg Porth a'r Ardal, gan ganu gyda'i dad a oedd hefyd yn denor. Enillodd y côr gystadleuaeth y corau cymysg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yn Nolgellau yn 1949 ac yn Aberystwyth yn 1951.
Yn yr ysgol ramadeg, chwaraeodd Morgan bêl-droed a chriced dros yr ysgol yn gyntaf, ac yn gymharol hwyr y dechreuodd chwarae rygbi yn un ar bymtheg oed, dan yr hyfforddwr Ned Gribble. Fe'i gosodwyd gan Gribble mewn amryw safleoedd - bachwr, asgellwr a chanolwr - cyn ei sefydlu'n faswr, y safle a fyddai ganddo am weddill ei yrfa. Daeth Gribble yn ddylanwad mawr ar Morgan ar y cae rygbi ac oddi arno. Un peth hynod am yrfa Morgan oedd na fu iddo roi cynnig ar gôl adlam mewn rygbi rhyngwladol wedi i Gribble ei ollwng unwaith o dîm yr ysgol am ennill gêm gyda gôl adlam. Dylanwadodd cred angerddol yr athro mewn pasio a rhedeg, heb gicio byth, ar ddull chwarae Morgan ar hyd ei yrfa.
Gwnaeth Morgan gynnydd sydyn dan hyfforddiant Gribble, gan ennill dau gap dros Ysgolion Uwchradd Cymru yn ddeunaw oed yn ystod tymor 1948-49. Yn yr un tymor, cam mawr ymlaen oedd cael ei ddewis gan glwb Caerdydd mewn XV answyddogol ar gyfer gêm elusennol ym Mhorthcawl wrth ochr yr hoelion wyth rhyngwladol Bill Tamplin, Des O'Brien (capten Iwerddon ar y pryd), Jack Matthews a Bleddyn Williams.
Gadawodd yr ysgol yn 1949 i astudio Botaneg, Swoleg a Chemeg yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy yng Nghaerdydd gyda'r bwriad o fynd yn feddyg. Tra'n astudio ymunodd â chlwb rygbi Caerdydd, ond yn anffodus ni lwyddodd i gael cydbwysedd rhwng ei astudiaethau a'i ymrwymiadau rygbi ac o ganlyniad methodd mewn Botaneg yn ei flwyddyn gyntaf. Mynnodd y brifysgol iddo ailsefyll yr arholiad, ond roedd gan glwb Caerdydd gêm ar yr un diwrnod a dewisodd Morgan chwarae yn honno yn hytrach na sefyll yr arholiad, ac felly bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w yrfa brifysgol.
Ar ôl cael ei wrthod am Wasanaeth Cenedlaethol oherwydd cysgod ar un o'i ysgyfaint, chwaraeodd Morgan bymtheg gêm dros dîm cyntaf Caerdydd yn ystod tymor 1949-50. Roedd y mewnwr Rex Willis a'r canolwyr Jack Matthews a Bleddyn Williams yn ddylanwad mawr arno, a gofalodd y rheini amdano ar y cae am ei fod yn fychan o gorffolaeth. Y tymor wedyn ymddeolodd Billy Cleaver, maswr cyson Caerdydd a Chymru, a daeth Morgan yn ddewis cyntaf yn y safle hwnnw i Gaerdydd.
Ar 10 Mawrth 1951, yn ugain oed, chwaraeodd Morgan dros Gymru am y tro cyntaf yn erbyn Iwerddon ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, gan gymryd lle Glyn Davies. Cyhoeddwyd tîm Cymru am 6.30yh ar y dydd Llun blaenorol tra bod Morgan ar y bws ar ei ffordd adref o'i waith fel rheolwr dan hyfforddiant gyda'r Bwrdd Trydan yng Nghaerdydd. Erbyn iddo gyrraedd Trebanog, roedd torf o bobl gyda baneri yn aros i'w groesawu. Cofiai Morgan fod y gyrrwr ei hun wedi dod allan o'r bws i ysgwyd ei law. Gorffennodd y gêm yn gyfartal 3-3 a chadwodd Morgan ei le ar gyfer y ddwy gêm nesaf yn erbyn Ffrainc a De Affrica, dwy a gollwyd gan Gymru.
Ym Mhencampwriaeth y pum gwlad 1952 ysbrydolodd Morgan Gymru i fuddugoliaethau dros Loegr, yr Alban ac Iwerddon, ond cafodd anaf i'w goes yn ystod y gêm yn erbyn y Gwyddelod. Heb wybod ei fod wedi torri ei goes mewn gwirionedd, chwaraeodd ymlaen. Gan ei fod angen profi ei ffitrwydd i'r dewiswyr ar gyfer y gêm dyngedfennol yn erbyn Ffrainc, chwaraeodd Morgan dros Gaerdydd y Sadwrn canlynol, ond bu'n rhaid iddo adael y cae oherwydd yr anaf i'w goes. Cafodd wybod yn yr ysbyty ei fod wedi chwarae gyda ffibwla toredig, a chollodd y gêm yn erbyn Ffrainc yr wythnos wedyn pan enillodd Cymru'r Gamp Lawn.
Yn 1952, cyrhaeddodd Cadeirydd Clwb Rygbi'r Gynghrair Wigan, Bill Gore, yn ddirybudd yn Heol Top Trebanog. Oherwydd rheolau amatur llym Rygbi'r Undeb ar y pryd, gallai dim ond siarad â chlwb y Gynghrair fod wedi gwneud Morgan yn broffesiynol a rhoi terfyn ar ei yrfa gyda Chaerdydd a Chymru, felly aeth i guddio yn ei stafell wely i ddechrau. Serch hynny, gwahoddodd ei fam yr ymwelyr i mewn i gael brecwast. Cafodd Morgan gynnig £5,000 mewn bag lledr yn llawn papurau £5 ynghyd â siec ôl-ddyddiedig am £2,500. Er gwaethaf sawl cynnig, nid aeth Morgan fyth 'i'r gogledd', a dywedodd yn ddiweddarach mai'r ddau beth yr oedd yn edifar amdanynt oedd peidio chwarae dros y Llewod yn Seland Newydd a pheidio chwarae Rygbi'r Gynghrair.
Enillodd Morgan 29 o gapiau dros Gymru, o'i gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon yn 1951 hyd ei ymddangosiad olaf yn erbyn Ffrainc ar 29 Mawrth 1958. Daliodd y record am y nifer fwyaf o gapiau fel maswr am 37 o flynyddoedd, hyd nes i Neil Jenkins ennill ei 30fed cap ar 16 Mawrth 1996.
Sgoriodd Morgan dri chais dros Gymru, ac roedd uchafbwyntiau ei yrfa yn cynnwys chwarae yn y tîm a gurodd Grysau Duon Seland Newydd yn 1953, ennill y Gamp Lawn yn 1952, bod yn gyd-fuddugwyr Pencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1954 a 1955, cyn arwain Cymru i fuddugoliaeth lawn yn y bencampwriaeth yn 1956.
Ym Mai 1954, am resymau cyflogaeth, gadawodd Morgan glwb rygbi Caerdydd a symud i Wicklow, i'r de o Ddulyn, fel un o reolwyr Wire Ropes, Wicklow Ltd. Yno ymunodd â Bective Rangers RFC gan eu cynorthwyo i ennill Cwpan Leinster yn 1955, am y tro cyntaf ers 1935. Cwrddodd Morgan â Nuala Martin (1930-1999), stiwardes gydag Aer Lingus, yn Nulyn. Priodasant ar 17 Rhagfyr 1955 yn Woking, a chawsant ddau o blant, Catherine a Nicholas.
Yn 1955, gwahoddwyd Morgan i fynd ar daith Llewod Prydain ac Iwerddon i Dde Affrica a Kenya. Gwrthododd ei gwmni yn Wicklow ei dalu pan oedd i ffwrdd gyda'r Llewod, ac felly ni ddychwelodd gan ei fod yn teimlo nad oedd yn cael ei werthfawrogi. Pan ddaeth carfan y Llewod at ei gilydd yn Eastbourne, penodwyd Morgan yn gôr-feistr ar gyfer y daith, a dysgodd y garfan i ganu caneuon yn cynrychioli'r pedair cenedl a De Affrica, gan ddefnyddio bwrdd du i sgrifennu'r geiriau Cymraeg.
Bu'r daith yn llwyddiant mawr i Morgan yn bersonol gan sefydlu ei enw ym mhantheon gwir fawrion rygbi rhyngwladol. Sgoriodd gais cyntaf y daith ar ôl cwta ddwy funud, gan groesi yn y gornel yn erbyn Western Transvaal yn Potchefrestroom. Trwy gydol y daith, gwireddodd Morgan ei gred mewn rygbi mentrus, 'because when you play safe the game is impoverished.'
Erbyn y drydedd gêm brawf yn Loftus Versfeld, Pretoria, roedd y gyfres yn gyfartal 1-1. A chapten y daith, Robin Thompson, allan gydag anaf, penodwyd Morgan yn ei le ac arweiniodd y Llewod i fuddugoliaeth 9-6. A thîm y Llewod ar gyfer y gêm olaf yn Port Elizabeth wedi ei wanhau gan anafiadau, enillodd y Springboks 22-8 i ddod â'r gyfres yn gyfartal.
Er bod llawer yn disgwyl iddo arwain y Llewod ar eu taith i Seland Newydd yn 1959, ymddeolodd Morgan o rygbi bythefnos cyn ei ben-blwydd yn wyth ar hugain ym Mawrth 1958. Diffyg arian oedd y rheswm a nododd Morgan yn aml. 'Rugby was important but it was not the most important thing in my life.'
Yn ystod ei yrfa sgoriodd 38 o geisiau mewn 202 gêm dros Glwb Rygbi Caerdydd rhwng 1949 a 1958, gan eu cynorthwyo i guro Seland Newydd yn 1953 ac Awstralia yn 1957, ac at y naw ar hugain o gapiau a enillodd dros Gymru ychwanegodd bedwar dros y Llewod.
Yn dilyn ei gêm olaf dros Gymru, cwrddodd Morgan â Hywel Davies, Pennaeth Rhaglenni BBC Cymru, a chafodd gyfle i ystyried swydd gyda'r BBC. Roedd wedi bod yn gweithio i gwmni A. Gallenkamp & Co fel gwerthwr offer labordy, heb gael dim mwynhad o'r gwaith, felly derbyniodd gynnig Davies, gan ddechrau gweithio heb fod ar y staff, ochr yn ochr â'i waith gwerthu. Ond yn 1960, penodwyd ef i swydd lawn-amser Trefnydd Chwaraeon y BBC yng Nghymru, gan ddechrau cyswllt â'r BBC a fyddai'n para am y rhan fwyaf o'r 38 mlynedd nesaf.
Swydd gyntaf Morgan yn y byd darlledu oedd fel cyflwynydd a chynhyrchydd rhaglen chwaraeon ar y radio nos Sadwrn o'r enw 'Going Round the World', gan gyf-weld â phobl chwaraeon ledled y byd yn eu cartrefi eu hunain. Yn fuan wedyn aeth Morgan ati i greu a chyflwyno'r rhaglen deledu gyntaf am chwaraeon i gael ei ffilmio mewn stiwdio yng Nghymru. Gan nad oedd ond dwy gadair ar gyfer ei westeion cyntaf, Max Rawlings a H. B. Toft, eisteddodd Morgan ar fag sment a dim ond rhan uchaf ei gorff oedd i'w gweld ar y sgrîn.
Yn 1963, symudodd i Lundain i fod yn olygydd Grandstand (wedi gweithio cyn hynny fel cyflwynydd achlysurol) a Sportsview. Gadawodd Grandstand yn 1965 a dod yn golofnydd i'r News of the World a hefyd i weithio'n llawrydd fel cyflwynydd, gohebydd a sylwebydd rygbi ar deledu a radio, cyn symud i ITV yn 1966 i gynhyrchu'r rhaglen materion cyfoes, 'This Week' ar gyfer Rediffusion am ddwy flynedd a hanner. Yn 1969 rhoddodd y gorau i gontract proffidiol fel gohebydd rygbi i'r News of the World mewn protest yn erbyn gwaith y papur yn cyhoeddi atgofion Christine Keeler, ac wedyn daeth yn un o ddau gapten tîm cyntaf ar raglen eiconig y BBC, 'A Question of Sport' gyda Henry Cooper.
Ym Mawrth 1972, yn 41 oed, teithiodd Morgan i Bad Lippspringe yng Ngorllewin yr Almaen i sylwebu ar rownd derfynol cwpan rygbi Byddin Prydain ar y Rhein. Cafodd strôc yn Cologne ar y noson wedi'r gêm ac o ganlyniad bu'n gaeth i gadair olwyn am dri mis, gan ddioddef lleferydd bloesg a pharlys dros dro ar ochr chwith ei gorff. Cymerodd naw mis i wella. Trefnodd Comodor yr Awyrlu G. C. Larry Lamb ymgeledd iddo yn Ysbyty RAF Wegberg ar y ffin â'r Iseldiroedd gan nad oedd gan Morgan unrhyw gynilion nac yswiriant am ei salwch. Yn Wegberg, derbyniodd Morgan lythyr gan ei gyfaill, yr actor Richard Burton, a drysorodd am weddill ei oes. Dywedodd Burton:
Dewch mas o'r lle na. You will need time for recuperation after this ordeal. Have one of our homes in Gstaad, or Pays de Galles in Geneva. Everything will be provided including sticks and coal! Should you need anything as mundane as money, you have only to ask. Cofion, Richard.
Ar ôl tair wythnos yn Wegberg, trefnodd ei gyfaill yn y BBC, David Coleman, iddo ddychwelyd i Ysbyty Wrexham Park yn Stoke Poges, ac wedyn treuliodd bedwar mis yng Nghanolfan Adferiad Farnham Park. Disgrifiad Morgan o'i sefyllfa ariannol wedi'r strôc oedd, 'in cash terms, we were destitute.' Gwerthodd ef a'i wraig eu car a hyd yn oed fodrwy ddiweddïo ei wraig i gael deupen llinyn ynghyd.
Ar 20 Ionawr 1973, dychwelodd Morgan i sylwebu teledu ar gyfer gêm Iwerddon yn erbyn Seland Newydd yn Landsowne Road. Ond ei sylwebaeth ar gêm arall y Crysau Duon yr wythnos wedyn a sicrhaodd le Morgan yn hanes chwaraeon ar y teledu. Roedd sylwebydd cyson y BBC, Bill McLaren, wedi ei daro'n wael y noson cyn gêm y Barbariaid yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerdydd, a galwyd ar Morgan i gymryd ei le ar y funud olaf. Heb gael amser i wneud ei waith cartref ar y chwaraewyr, ac o fewn munud i ddechrau'r gêm, sylwebodd Morgan ar y cais mwyaf erioed, gellir dadlau, yn hanes Rygbi'r Undeb - cais a sgoriwyd gan Gareth Edwards - ac yn sicr y darn o rygbi a ailddarlledwyd amlaf.
Yn gynnar yn 1973, cynigiwyd swydd i Morgan ar staff radio'r BBC fel Golygydd Chwaraeon. O fewn deuddeg mis fe'i gwnaed yn Bennaeth Darlledu Radio Allanol, ac erbyn 1976 roedd yn Bennaeth Grŵp Darlledu Teledu Allanol y BBC. Rhan o'i ddyletswyddau oedd Ymgysylltu Brenhinol. Ymhlith llawer o ddigwyddiadau gwladwriaethol ar y teledu, Morgan a wnaeth y trefniadau i ddarlledu angladd yr Arglwydd Mountbatten, pen-blwydd y Fam Frenhines yn bedwar ugain, Jiwbilî Arian y Frenhines a phriodas y Tywysog Charles a'r Fonesig Diana Spencer - y digwyddiad byw gyda'r nifer uchaf o wylwyr yn hanes y BBC ar y pryd gyda 500 miliwn yn gwylio ar draws y byd. Goruchwyliodd Morgan ddigwyddiadau chwaraeon di-rif fel rowndiau terfynol Cwpan yr FA, Cwpanau Byd a Gemau Olympaidd. Oherwydd ei brofiad yn ymadfer o'i strôc, roedd yn gefnogol iawn i chwaraeon yr anabl, a'i raglen ddogfen am Gemau Paralympaidd 1980 oedd y tro cyntaf i Deledu'r BBC ddarlledu am y digwyddiad. Ymddeolodd o'i swydd fel Pennaeth Darlledu Allanol yn 1987, ond daliodd ati gyda'i waith radio, gan gyflwyno ei sioe boblogaidd 'Sport on Four' tan 1998.
Yn 1991 cynhwyswyd Morgan yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru, ac yn 1997 roedd yn un o'r pymtheg chwaraewr cyntaf i gael eu cynnwys pan sefydlwyd Oriel Anfarwolion Rygbi Rhyngwladol. Cafodd ei gynnwys hefyd yn Oriel Anfarwolion Rygbi'r Byd yn 2009. Anrhydeddwyd Morgan am ei wasanaeth i ddarlledu gydag OBE yn 1977 a CVO (Commander of the Royal Victorian Order) yn 1986. Ac yntau'n un o'r rhai prin a lwyddodd i ragori mewn dwy yrfa wahanol, roedd parch mawr ato ym maes darlledu, fel y dengys geiriau Des Lynam: 'he was one of the best broadcasting voices of all time. A brilliant broadcaster himself, his advice to those of us trying to make our way in the business was wise and invaluable. But underlying it all was his great sense of fun. 'Enjoy yourself' he would say, "It's not working down the mine, is it?"'
Treuliodd Morgan ei ymddeoliad ar Ynys Wyth gyda'i ail wraig, Pat, a briododd yn 2001 ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf yn 1999. Yn ei flynyddoedd olaf, dioddefodd Morgan o gancr tannau'r llais a bu'n rhaid tynnu ei laryncs, gan ei amddifadu'n greulon o'r llais unigryw a fu'n sail i'w yrfa ddarlledu. Bu Cliff Morgan farw ar 29 Awst 2013, a chynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Holy Trinity, Bembridge, gydag anerchiadau gan Max Boyce a sgoriwr cais y Barbariaid, Syr Gareth Edwards, y gŵr a roddasai iddo y cyfle i draddodi'r darn mwyaf erioed o sylwebaeth rygbi'r undeb:
"Almost on the halfway line, Kirkpatrick, to Williams, this is great stuff, Phil Bennett covering. Chased by Alistair Scown, brilliant, oh that's brilliant! John Williams, Bryan Williams. Pullin, John Dawes - great dummy! David, Tom David - the halfway line - brilliant by Quinnell! This is Gareth Edwards, a dramatic start! What a score! Oh, that fellow Edwards. If the greatest writer of the written word would have written that story, no one would've believed him!"
Dyddiad cyhoeddi: 2021-11-12
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.