DAVIES, HYWEL (1919 - 1965), darlledwr

Enw: Hywel Davies
Dyddiad geni: 1919
Dyddiad marw: 1965
Priod: Lorraine Davies
Rhiant: Ben Davies
Rhiant: Sarah Davies (née Bowen)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: darlledwr
Maes gweithgaredd: Perfformio
Awdur: Owen Edwards

Ganwyd yn Llandysul, Ceredigion, 2 Chwefror 1919 yn un o bedwar o blant Ben Davies, gweinidog (A), a Sarah ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Llandeilo a Phrifysgol Caeredin. Graddiodd yn M.A. gydag anrhydedd mewn llenyddiaeth Saesneg.

I ddechrau, yr oedd ei fryd ar yrfa ym myd masnach ac ymunodd â chwmni Lewis ym Manceinion ond yn 1942 ymunodd â'r B.B.C. yn Llundain fel cyhoeddwr a darllenydd newyddion ac wedi hynny'n olygydd y newyddion Cymraeg. O 1946 ymlaen yr oedd yng Nghaerdydd yn drefnydd rhaglenni, yn is-bennaeth rhaglenni ac, o 1958 hyd ei farw, yn bennaeth rhaglenni. Yn 1961 teithiodd yn helaeth yn T.U.A. gydag ysgoloriaeth Sefydliad Ford.

Yn weinyddwr gwych, yr oedd Hywel Davies yn enwog drwy'r Deyrnas Unedig fel darlledwr radio ac yn ddiweddarach fel holwr mewn rhaglenni teledu. Yn 1959 enillodd ef a'r cynhyrchydd, David J. Thomas, y wobr gyntaf am eu rhaglen ' Out of this World ' mewn cystadleuaeth ryngwladol ym Monte Carlo. Eto, yn 1962, ef oedd holwr y rhaglen ' It happened to me ' a oedd yn llwyddiannus yn ei hadran yn yr un gystadleuaeth. Clodforwyd ef am ei delediadau o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac enillodd gymeradwyaeth ac edmygedd gwylwyr ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig am ei waith fel holwr yn y gyfres ' At Home '.

Yn Ionawr 1965 cyhoeddodd y B.B.C. y ddarlith a draddododd yng nghyfres darlithoeddd awr ginio yng nghanolfan y B.B.C. yn Llundain ar ' The role of the regions in British Broadcasting '. Yn yr un flwyddyn fe'i hanrhydeddwyd â'r O.B.E. ychydig fisoedd cyn ei farw ar 16 Hydref 1965. Ei weddw yw Lorraine a oedd gynt yn drefnydd ' Awr y Plant ' a phrif gynhyrchydd Radio B.B.C. Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.