Ganwyd yn Llanboidy, Sir Gaerfyrddin, 12 Ebrill 1878, yn fab i Thomas Davies, gweithiwr ar ystad Maes-gwyn, a'i wraig Sarah. Wedi bwrw prentisiaeth fel saer celfi, aeth i ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin yn 1901 a derbyniwyd ef i'r Coleg Presbyteraidd yno yn 1902. Ordeiniwyd ef 28 Gorffennaf 1904. Priododd Sarah, merch Benjamin a Mary Bowen o blwyf Eglwys Newydd, ger Caerfyrddin, a oedd yn llinach Samuel Bowen, Macclesfield (1799 - 1877). Bu iddynt un ferch, Arianwen, a thri mab, Elwyn, Alun a Hywel.
Dechreuodd ei weinidogaeth yn eglwysi Siloh, Pontarddulais, a'r Hen Gapel, Llanedi. Aeth i Hermon, Plas-marl, Abertawe, yn 1907 a bu yno hyd 1914. Gwasanaethodd yn Seion, Llandysul, o 1914 hyd 1924. Symudodd i'r Capel Newydd, Llandeilo, lle bu hyd ei ymddeoliad yn 1954, pan aeth i fyw i Sgeti, Abertawe. Bu farw 17 Medi 1958 a chladdwyd ef ym Mwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin.
Bu'n llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1947, a'r flwyddyn honno ymwelodd â T.U.A. ar achlysur Cyngres Cynulleidfaolwyr y Byd yn Boston. Cyhoeddodd dair cyfrol: Siôn Gymro (1938), Cofiant Tomos Llanboidy (1953), a Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin a'r genhadaeth (1957). Cyfrannodd yn gyson i gylchgronau ei enwad: Y Tyst, Y Dysgedydd, Cennad hedd a Tywysydd y plant, a hefyd i'r Genhinen. Pregethwr ysgrythurol ydoedd uwchlaw pob dim, a'i bersonoliaeth siriol, ei gorff lluniaidd a thal, a'i ddawn ymadroddi persain, yn ei wneud yn ffefryn am flynyddoedd lawer yn eglwysi ei enwad.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.