DAVIES, ALUN (1916-1980), hanesydd

Enw: Alun Davies
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 1980
Priod: Margaret Davies (née Gulwell)
Plentyn: Jonathan Davies
Rhiant: Ben Davies
Rhiant: Sarah Davies (née Bowen)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Prys Morgan

Ganwyd Alun Davies ym mans yr Annibynwyr ar stryd fawr Llandysul, Ceredigion, 30 Hydref 1916, yn un o bedwar plentyn y Parchedig Ben Davies (1878-1958), gweinidog yr Annibynwyr Cymraeg, a'i wraig Sarah (ganwyd Bowen). Y plentyn hynaf oedd Nan (Arianwen), yr ail Elwyn Davies, ysgrifennydd Prifysgol Cymru, y trydydd oedd Alun, a'r pedwerydd y darlledwr Hywel Davies. Ganwyd Elwyn a Nan ym Mhlas Marl, Abertawe, ond ganwyd Alun wedi i'r teulu symud oddi yno i Bontarddulais ac yna i Landysul. Collwyd dau fachgen arall yn fabanod a chladdwyd y rheini ym meddrod y teulu ym Mwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin. Goroesodd Sarah Davies hyd 1965 wedi marw ei mab Hywel. Cafwyd bedd arall ym Mwlchnewydd i Nan ac i lwch Alun Davies.

Bu Alun Davies yn yr ysgol elfennol a'r ysgol sirol yn Llandysul (gadawyd iddo fynychu'r ysgol uwchradd yn wythmlwydd oed), ac o Landysul aeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1934. Graddiodd yno mewn Hanes yn 1937 ac yna aeth i Ffrainc i wneud MA yn y Sorbonne o dan yr enwog Georges Lefebvre. Roedd wedi teithio i'r Almaen a Ffrainc fel bachgen ysgol a bu yn yr Almaen yn 1936. Roedd yn y Cité Universitaire ym Mharis pan ddaeth byddin yr Almaen i mewn i'r ddinas yn sydyn yn 1940, a rhaid oedd gadael popeth a chilio o Baris i chwilio am ryw fodd i gyrraedd Prydain. Wedi cysgu dros nos ar gwrt Palas Versailles ac yna neidio ar drên i Sant Malo a dod adre yn ddiogel, ymunodd â'r fyddin ar unwaith. Dewiswyd ef gan y fyddin i fod yn lladmerydd milwrol a dysgu Siapanaeg yn y School of Oriental and African Studies yn Llundain. Ymhlith ei gyfeillion yno roedd John Silkin (1923-1987), y nofelydd Richard Mason (1919-1997), Peter Parker (pennaeth British Rail wedyn), a John Watkins a ddaeth yn ddarlithydd Ffrangeg ym Mangor. Dyrchafwyd ef yn gyflym gyda'r 14th Army ym Mwrma fel swyddog gwybodaeth (Intelligence), yn gapten wedyn yn uwchgapten. Llwyddodd i gerdded drwy fforestydd Bwrma fel rhan o'r gamp o ail-goncro'r wlad, a rhyddhawyd ef o'r fyddin yn 1946. Aeth yn ôl i Aberystwyth a rhoddwyd swydd darlithydd hanes iddo yno. Yno yn 1948 y cyfarfu â'i wraig Margaret Gulwell o Fynydd Cynffig, Morgannwg, a phriodwyd y ddau yn Nghapel Ebeneser Caerdydd 25 Gorffennaf 1951, ac yna buont yn byw mewn fflat yn rhif 9 Laura Place, Aberystwyth. Ganed un mab iddynt sef Jonathan yn Ysbyty Hackney 23 Ebrill 1959.

Bu Alun Davies yn ddarlithydd yn Aberystwyth hyd 1955, gan gael peth amser sabothol i fod yn ddarlithydd yn yr Ecole des Hautes Etudes ym Mharis ac ymchwilio yn nhref Caen gan sgrifennu tipyn ar werinwyr Gogledd Ffrainc yn ystod y Chwyldro Ffrengig. Cafodd ei benodi yn 1955 yn ddarllenydd yn y London School of Economics, wedi ei ddenu yno yn bennaf gan yr Athro Medlicott. Ei deitl yno oedd Reader in International History, a'i waith pennaf oedd cyfarwyddo myfyrwyr ymchwil mewn cysylltiad â Syr Goronwy Edwards (1891-1976), pennaeth yr Institute for Historical Research ym Mhrifysgol Llundain. Yn ystod ei gyfnod yn Llundain bu ganddo swydd hynod bwysig ysgrifennydd y Royal Historical Society. Penodwyd ef yn Athro Hanes Modern yn 1961 yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe, a gwnaeth ei gartref yn Eaton Crescent. Yn Abertawe gweithiodd gyda'i gyfaill Glanmor Williams (1920-2005) i greu adran hanes gref oedd yn rhoi pwyslais ar Gymru ochr yn ochr â hanes rhyngwladol. Yn ystod y cyfnod hwn daliodd swydd bwysig yn aelod o Bwyllgor Grantiau'r Prifysgolion. Roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd ac yn Annibynnwr selog, ac yn aelod ar ddiwedd ei oes yn Eglwys Stryd Henrietta, Abertawe. Ysgrifennodd erthyglau ar hanes modern Ffrainc ac ar hanes y Wladfa, ond dirywiodd ei iechyd yn ddirfawr yn ystod ei amser yn Abertawe a bu'n rhaid iddo ymddeol yn 1979, ac erbyn Nadolig y flwyddyn honno gwelwyd bod cancr y llwnc a'r oesophagus arno. Aethpwyd ag ef i'r Royal Marsden Hospital yn Llundain i'w drin ond bu farw yno ym mhen rhai misoedd ar 20 Mawrth 1980. Cynhaliwyd ei angladd yng nghapel Henrietta Street a chladdwyd ei lwch ym meddrod y teulu ym mynwent Bwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin.

Cofir am Alun Davies fel dyn a gafodd yrfa academaidd ddisglair, fel darlithydd poblogaidd, ac yn bennaf fel dyn rhadlon, difyr a hoffus a greodd gylch o Gymry dawnus o'i gwmpas yn ei adran yn Abertawe. Mae'n amlwg yn ogystal oddi wrth dystiolaeth llythyr i ddymuno'n dda iddo gan Field Marshal Slim ei fod wedi cael gyrfa nodedig fel swyddog milwrol ym Mwrma yn ystod y rhyfel.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-09-15

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.