BURTON, RICHARD (JENKINS) (1925-1984), actor ffilm a llwyfan

Enw: Richard Burton
Dyddiad geni: 1925
Dyddiad marw: 1984
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: actor ffilm a llwyfan
Maes gweithgaredd: Perfformio
Awdur: Gethin Matthews

Ganed Richard Walter Jenkins ym Mhont-rhyd-y-fen, Morgannwg, ar 10 Tachwedd 1925, y 12fed o blant Richard Walter Jenkins (glöwr a oedd yn hoff o'i beint) a'i wraig Edith (gynt Thomas). Wedi marwolaeth ei fam gwta ddwy flynedd ar ôl ei eni, fe aeth Richard i fyw gyda'i chwaer hyn, Cecilia, ym mhentref cyfagos Tai-bach, ac fe'i magwyd yn Gymro Cymraeg. Ni chollodd ei afael ar y Gymraeg. Yno cafodd addysg dda yn yr ysgol gynradd ac yn ysgol ramadeg Port Talbot (nes ei fod yn 16 oed), lle daeth i sylw'r athro Saesneg Philip Burton, dyn dysgedig a chanddo'r ddawn i drosglwyddo'i gariad at y ddrama i'w ddisgyblion. Cafodd yr athro ei wneud yn warcheidwad y llanc ym 1943 ac fe gymerodd Richard ei gyfenw: un rheswm am hyn oedd hwyluso mynediad Richard i Rydychen, lle'r aeth i astudio am gyfnod o chwe mis ym 1944 cyn dechrau ar ei wasanaeth milwrol gorfodol. Fodd bynnag, erbyn hyn roedd Richard eisoes wedi mwynhau cyfnod ar y llwyfan proffesiynol, wedi i Emlyn Williams ei ganfod a'i ddewis ar gyfer rôl yn ei ddrama The Druid's Rest.

Ar ôl cyfnod o dros ddwy flynedd yn yr RAF fe drodd Richard yn actor proffesiynol. Derbyniodd rannau mewn dramâu yn Llundain ac i'r BBC, ac yna fe gafodd ei gyfle cyntaf i ymddangos ar y sgrin fawr mewn rôl a ysgrifennwyd yn arbennig iddo yn ffilm Emlyn Williams, The Last Days of Dolwyn. Tra oedd yn ffilmio hwn fe gyfarfu ag actores ifanc Gymreig, Sybil Williams, a ddaeth yn wraig iddo ym 1949. Yn y cyfnod hwn fe dderbyniodd Richard nifer o rolau ar lwyfan ac mewn ffilmiau bychain Prydeinig, a chael ei flas cyntaf ar actio ar lwyfan yn Broadway, ond fe ddatblygodd ei yrfa o ddifrif wedi iddo ragori yn nramâu Shakespeare ar lwyfan Stratford dros haf 1951, yn enwedig fel y Tywysog Hal a'r Brenin Harri V (yn actio gyda Hugh Griffith).

Fe dderbyniodd Richard gytundeb gan Twentieth Century Fox, a adawodd ddigon o ryddid iddo ddilyn dwy yrfa gyfochrog, y naill yn Hollywood a'r llall ar y llwyfan yn Llundain. Er iddo greu argraff sylweddol ar Hollywood trwy ei bersonoliaeth fywiog, nid oes llawer i'w ddweud am y ffilmiau cynnar, mewn gwrthgyferbyniad â'i berfformiadau o weithiau Shakespeare yn yr Old Vic a enillodd ganmoliaeth ryfeddol y beirniaid. Fodd bynnag, fe gefnodd ar yr amgylchfyd hwn lle ffynnai pan aeth yn alltud i'r Swistir i osgoi talu treth uchel (er iddo ddangos ei ffyddlondeb i'w wreiddiau wrth enwi'i gartref Le Pays de Galles). Ei lwyddiant sylweddol nesaf oedd y sioe gerdd Camelot ar Broadway, a enillodd ganmoliaeth fawr iddo ym 1960-61: oddi yno fe aeth i chwarae rhan Marc Anthony yn ffilm Cleopatra, gydag Elizabeth Taylor yn cymryd rhan brenhines yr Aifft. Fe ddatblygodd hon i fod y ffilm ddrutaf, fwyaf afradlon a gynhyrchwyd hyd hynny, ac yn ystod gwallgofrwydd llethol y ffilmio fe syrthiodd y ddau brif gymeriad mewn cariad angerddol. Er i Richard fercheta o'r blaen heb roi ei briodas mewn perygl, roedd ei berthynas gydag Elizabeth Taylor yn amhosibl ei hanwybyddu a'i rhoi o'r neilltu. Wedi i Richard sicrhau ysgariad oddi wrth Sybil (a achosodd rwyg dolurus yn ei berthynas â'i deulu) fe briododd Elizabeth ym mis Mawrth 1964. Am y degawd nesaf hwy oedd y pâr enwocaf a mwyaf lliwgar yn y byd, gyda'r cyfryngau yn eu dilyn i bobman wrth iddynt hedfan neu hwylio rhwng rhai o leoliadau mwyaf egsotig a hudol y byd.

I'r rheini nas dallwyd gan ddisgleirdeb y diamwntiau ac afradlonedd eu bywydau, fe gynhyrchodd Richard ac Elizabeth nifer o berfformiadau canmoladwy a gwerthfawr yn y blynyddoedd hyn. Enillodd hi Oscar haeddiannol am ei pherfformiad wrth ochr ei gwr yn Who's Afraid of Virginia Woolf ond er iddo yntau gael ei enwebu saith gwaith am Academy Award, ni chafodd Richard erioed y clod o dderbyn y cerflun bach aur.

Er gwaethaf y pwysau a ddaeth o gyfeiriadau gwahanol, roedd nifer o berfformiadau cadarn yn y cyfnod hwn ym mywyd Richard (Becket, The Spy Who Came in from the Cold, Where Eagles Dare) ond hwyrach, erbyn dechrau'r 1970au, roedd y ffilmiau gwael yn dod yn fwy aml na'r ffilmiau rhagorol. Trobwynt ym mywyd Richard oedd y ddamwain ym 1968 a barlysodd ei frawd hyn, Ivor, a fu'n gymar a ffigur tadol iddo. Pan fu farw Ivor ym 1972 fe welwyd dirywiad sydyn ym mywyd proffesiynol a theuluol Richard: wrth i'r ddiod gryfhau ei gafael ar ei ymddygiad, gwahanodd oddi wrth Elizabeth ac fe gafwyd ysgariad ym 1974. Roedd yr aduniad a'r ail briodas ym 1975 yn wledd i'r papurau newydd ond fe orffennodd yn anochel mewn ysgariad lai na blwyddyn yn ddiweddarach.

Fe briododd Richard drachefn ym 1976 â Suzy Hunt: yn ystod eu chwe blynedd o briodas cafwyd ambell lwyddiant (Equus, The Wild Geese) ond hefyd ddigon o berfformiadau llipa mewn ffilmiau israddol. Yn y pendraw, y blys am ddiod a chwalodd y briodas hon, ynghyd â phroblemau iechyd a ddaeth yn sgil y blynyddoedd o yfed. Tra oedd yn ffilmio'r brif ran yn yr epig Wagner fe gyfarfu Richard â Sally Hay, cynorthwy-ydd cynhyrchu ar y ffilm, ac wedi carwriaeth o rai misoedd fe briododd y ddau yn Las Vegas yng Ngorffennaf 1983. Yn y cyfnod hwn ymddangosodd Richard ar lwyfan am yr hyn a fyddai'r tro olaf, yn serennu gydag Elizabeth Taylor mewn taith o gwmpas America gyda'r ddrama Private Lives - enghraifft, efallai o fywyd yn dynwared celfyddyd. Ychydig o amser a oedd ar ôl i Richard: wedi iddo ffilmio rhan ar gyfer cynhyrchiad o 1984 bu farw mewn ysbyty yng Ngenefa ar 5 Awst 1984, ar ôl dioddef gwaedlif enfawr ar ei ymennydd yn ei gartref yn Céligny.

Wrth geisio cloriannu ei gyfraniad, bu nifer o feirniaid yn gresynu am yr hyn a welwyd fel gwastraff ei dalent. Fe'u siomwyd am ei fod wedi dewis dilyn y llwybr a arweiniodd at gyfoeth ac enwogrwydd, yn hytrach nag aros yn deyrngar i'w ddawn ryfedd i ddominyddu llwyfan tra'n perfformio dramâu mawr llenyddiaeth Saesneg. Ar y llaw arall, fe bwysleisiodd beirniaid Cymreig lwyddiant y Cymro balch i oresgyn pob rhwystr a dod yn un o sêr ffilm mwyaf y byd. Cafwyd rhai o berfformiadau gorau Richard nid ar y sgrin fawr ond yn ei gyfweliadau ar y teledu ac â newyddiadurwyr, pan oedd yn swyno'r gwrandawyr â'i straeon ffraeth wedi'u hadrodd yn goeth yn ei lais swynol. Nid anghofiodd am ei famwlad, ac efallai mai ef oedd y llysgennad gorau a gafodd Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Wedi dweud hynny, roedd ei wladgarwch yn adlewyrchu balchder hiraethus yr alltud. Dyma un o anghysonderau bywyd y mab i löwr a ddaeth yn fyd-enwog fel actor ac fel seren. Efallai mai'r perfformiad gorau a roddodd Richard Jenkins erioed oedd ei bortread o Richard Burton.

Priodasau: i) Sybil Williams, 5 Chwefror 1949. Bu iddynt ddwy ferch: Kate (ganwyd 1957) a Jessica (ganwyd 1959). Ysgariad 5 Rhagfyr 1963. ii) Elizabeth Taylor, 15 Mawrth 1964. Ysgariad 26 Mehefin 1974. iii) Elizabeth Taylor, 10 Hydref 1975. Ysgariad 30 Gorffennaf 1976. iv) Suzy Hunt, 21 Awst 1976. Ysgariad Ionawr 1983. v) Sally Hay, 3 Gorffennaf 1983.

Anrhydeddwyd ef â'r CBE yn 1970; enillodd wobr BAFTA am yr actor Prydeinig gorau ym 1966 am ei rannau yn The Spy who came in from the Cold a Who's Afraid of Virginia Woolf; enillodd wobr y Golden Globe ym 1978 am ei berfformiad yn Equus. Dadorchuddiwyd Seren ar Daith Clod Hollywood i gydnabod ei gamp (yn nesaf at Seren Elizabeth Taylor) ar 1 Mawrth 2013. Y mae ei archif, sy'n cynnwys ei ddyddiaduron, ym Mhrifysgol Abertawe. Enwyd theatr ar ei ôl yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru Caerdydd lle y mae hefyd benddelw efydd ohono.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-02-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.