BURTON, PHILIP HENRY (1904 - 1995), athro, awdur, cynhyrchydd radio a chyfarwyddwr theatr

Enw: Philip Henry Burton
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1995
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro, awdur, cynhyrchydd radio a chyfarwyddwr theatr
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio
Awdur: Angela V. John

Ganwyd P. H. Burton yn Aberpennar, Morgannwg ar 30 Tachwedd 1904, yn fab i Emma Matilda Burton (ganwyd Mears, bu farw 1934) a'i hail wr, Henry Burton (marw 1919), glöwr, yn wreiddiol o deulu dosbarth canol o Swydd Stafford. Nyrs oedd ei fam, a symudodd o Wlad yr Haf i Aberpennar yn blentyn. Roedd ganddi fab, William Wilson, o'i phriodas gyntaf (â glöwr o'r Alban a weithiai yn Aberpennar) a oedd yn byw gyda theulu'r Burtons yn Arnold Street ac oedd ddeunaw mlynedd yn hyn na'i hanner brawd Philip. Hawdd y gallasai Philip Burton fod wedi mynd i weithio dan ddaear hefyd.

Cafodd Burton ei addysg yn Ysgol Elfennol Caegarw ac yna Ysgol Ganolradd Aberpennar lle y ffynnodd. Pan oedd yn bedair ar ddeg oed lladdwyd ei dad mewn damwain yn y lofa, a bu'n rhaid iddo ef a'i fam fyw ar bensiwn gwraig weddw o ddeg swllt ar hugain (£1.50). Yn ffodus, gwelodd côr-feistr yn Eglwys St. Margaret sefyllfa ariannol fregus y teulu a photensial y llanc. Roedd hwnnw hefyd yn brifathro, ac anogodd Burton i astudio, gan warantu benthyciad o'r banc. Oherwydd hyn, ynghyd ag ysgoloriaeth brifysgol a enillodd yn un ar bymtheg oed, gallai Burton fynd i astudio Mathemateg a Hanes yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd.

O oedran gynnar iawn roedd gan Burton yr hyn a alwai yn 'theatre addiction.' Yn llanc hen o'i oed - dysgodd y cwbl o A Christmas Carol Dickens ar ei gof yn ddeg oed - ymhyfrydai yn niwylliant y cymoedd, a mynychai Theatr yr Empire a Neuadd Gweithwyr Nixon yn Aberpennar pryd bynnag y gallai, gan lowcio melodrama, Shakespeare ac unrhyw berfformiadau eraill a ddeuai i'w ran. Yn y brifysgol yng Nghaerdydd treuliodd lawer o'i amser yn y theatr ac yn darllen llenyddiaeth. Graddiodd gyda thrydydd dosbarth mewn Mathemateg, ail ddosbarth uwch mewn Hanes, a llawer o ddyled.

Serch hynny, bu'r cyfuniad anghyffredin o bynciau'n gymorth iddo gael swydd fel athro yn un o'r ddwy ysgol ramadeg ym Mhort Talbot. Fe'i penodwyd yn 1925 i ddysgu Mathemateg, Lladin a Chwaraeon yn Ysgol Uwchradd Port Talbot, a newidiodd yn fuan i ddysgu Saesneg. Arhosodd yn yr ysgol tan 1945, gan ddod yn bennaeth Saesneg ac yn Athro Hyn.

Yma y bu i P. H. Burton ddysgu mab arall i löwr, Richard Jenkins, a anwyd yn y flwyddyn y dechreuodd Burton ddysgu. Arferai Burton gynhyrchu dramâu ysgol megis The Apple Cart gan Bernard Shaw. Mae'r cynhyrchiad hwn yn 1941 yn nodweddiadol o ragwelediad yr athro: roedd yn un o'r cynyrchiadau amatur cyntaf o'r ddrama ym Mhrydain, ac ymhlith yr actorion roedd Richard Jenkins a ddaeth yn archseren fydeang dan yr enw Richard Burton.

Nid hwn oedd protégé cyntaf P. H. Burton, na'r unig un, serch hynny. Er enghraifft, meithrinodd Burton ddawn Thomas Owen Jones (1914-1942), mab arall i löwr. Enillodd hwnnw ysgoloriaeth i RADA a gweithiodd gyda phrif actorion Shakespearaidd y dydd yn Theatr yr Old Vic yn Llundain cyn iddo farw, yn gwta wyth ar hugain oed, yn yr Ail Ryfel Byd.

Er na chawsai unrhyw hyfforddiant, mae nifer o gyn-ddisgyblion wedi tystio i ansawdd dysgu Burton a oedd 'bron yn fagnetaidd', y cyffro a'r brwdfrydedd a ddeilliai o fod yn ei ddosbarth a chymryd rhan mewn dramâu ysgol. Gofynnai lawer, ond fe gâi ganlyniadau. Daeth rhai yn actorion proffesiynol. Trodd eraill at yrfa sicrach dysgu ond gan barhau gyda dramâu amatur. Daeth Ruth Bidgood (ganwyd Jones) yn fardd uchel ei pharch.

Yn 1937 dechreuodd Burton sgrifennu'r cyntaf o fwy na chant o sgriptiau radio. Roedd y BBC wrthi'n datblygu rhanbarth Cymreig â'i donfedd ei hun. Gan weithio gyda'i gynhyrchydd rhaglenni nodwedd, T. Rowland Hughes, rhannai Burton ei amser rhwng dysgu ym Mhort Talbot a sgrifennu i'r BBC yng Nghaerdydd. Roedd ei ddisgyblion ar eu hennill, gan iddo ddewis y rhai mwyaf addawol ar gyfer rhannau mewn dramâu 'Children's Hour', a rhaglenni nodwedd a dramâu o'i waith ei hun.

Dysgai hefyd ddosbarth Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a chynorthwyai i redeg Cymdeithas Ddrama'r YMCA. Yn 1934, cafwyd perfformiad ym Mhort Talbot o Granton Street, drama a ysgrifennwyd gan Burton wedi ei gosod mewn cymuned lofaol seiliedig ar Aberpennar. Chwaraeodd Burton ran perchennog y lofa. Chwe blynedd wedyn cafwyd dilyniant: White Collar. Darlledwyd y ddwy ddrama gan y BBC. Yn 2017 llwyfanwyd Granton Street o'r newydd yn ne Cymru gan Gwmni Theatr Fluellen, gyda pherfformiad yn yr ysgol ym Mhort Talbot lle bu Burton yn athro.

Yn ystod y rhyfel bu Burton yn Awyr-Lefftenant rhan-amser yn yr Awyrlu Hyfforddi (ATC) lleol, gwasanaeth y derbyniodd MBE (Mil) amdano. Bu hefyd yn hyfforddi Richard Jenkins, gan dreulio oriau maith ar Fynydd Margam yn ei gynorthwyo i ffurfio ei lais arbennig a meithrin presenoldeb llwyfan. Daeth y llanc yn ward iddo a newidiodd ei gyfenw drwy weithred swyddogol i Burton. Ymddangosodd yr egin actor mewn dramâu ysgol megis Pygmalion, a chafodd y brif ran yng nghynhyrchiad Burton o Close Quarters, drama dirgelwch ar gyfer yr ATC a berfformiwyd yn YMCA Port Talbot.

Rhoddodd Philip Burton y gorau i'w waith ysgol yn 1945, gan olynu Rowland Hughes pan ymddeolodd o'i swydd fel cynhyrchydd rhaglenni nodwedd Saesneg y BBC yng Nghaerdydd oherwydd salwch. Disgrifiodd hyn fel 'cefndeuddwr fy mywyd'. Cynhyrchodd waith gan Rhys Davies a ddaeth yn ffrind da. Yn 1947 comisiynodd Burton Return Journey Dylan Thomas, gan ychwanegu pum munud i'r sgript ei hunan er mwyn llenwi'r amser darlledu gofynnol. Yn 1954 chwaraeodd y Parch. Eli Jenkins yn recordiad eiconig y BBC o Under Milk Wood gyda'r cast i gyd yn Gymry, a Richard Burton fel y Llais Cyntaf.

Symudodd Burton i Lundain yn 1949 a threuliodd ddwy flynedd fel Prif Hyfforddwr yn Ysgol Hyfforddi Staff y BBC. Trefnodd gyrsiau byrion ar gyfer radio a rhedodd y cwrs hyfforddi teledu cyntaf. Bu'n gweithio wedyn ar ei liwt ei hun. Cefnogodd a chynghorodd Richard Burton yn ei yrfa ffyniannus ar y llwyfan, a daliodd i sgrifennu dramâu, gan fentro hyd yn oed i fyd newydd y teledu. Ef a ddarparodd y dwsin cyntaf o sgriptiau ar gyfer y gyfres i blant, The Appleyards.

Yn 1939 roedd Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru wedi dyfarnu ysgoloriaeth deithio chwe mis i Burton. Treuliasai ei gyfnod sabothol yn profi ysgolion a theatrau ar draws yr Unol Daleithiau gan ryfeddu at faint y wlad: 'I rywun a fagwyd mewn cwm cul yng Nghymru' sgrifennodd, roedd fel 'morgrugyn y stryd yn mynd ati i ddringo'r Empire State Building.' Oni bai am yr angen i deithio adref ar frys am fod y rhyfel ar fin torri, efallai na fuasai wedi dychwelyd. Ymwelodd â'r Unol Daleithiau bum gwaith eto wedi'r rhyfel, ac yna, ar ei seithfed ymweliad yn 1954, penderfynodd aros. Ac yno y bu am weddill ei fywyd. Deng mlynedd yn nes ymlaen daeth yn ddinesydd Americanaidd.

Ar un olwg, roedd y penderfyniad i ymfudo i Efrog Newydd yn hanner cant oed yn beth annisgwyl iawn gan athro ysgol a ddywedodd wrth ei ddisgyblion na allent ystyried eu hunain yn addysgedig onid oeddent wedi darllen y Beibl cyfan ddwywaith. Ac eto roedd ei yrfa eisoes wedi dangos ei allu i ymaddasu. Roedd yn hen lanc, roedd yr actor enwog a welai fel ei fab yn America erbyn hynny, ac roedd gan P. H. Burton gariad at berfformio ar hyd ei oes.

Dangosodd blynyddoedd cyntaf Burton yn yr Unol Daleithiau pa mor amryddawn - a dewr - roedd angen iddo fod. Rhoddodd gynnig byr ar gynhyrchu ffilmiau er na theimlodd dynfa erioed at y sinema, ac er iddo honni'n bendant 'Nid dyn y ffilmiau ydw i.' Teithiodd ar draws y wlad mewn lori hirdaith yn cludo lluniau gwerthfawr ar gyfer arddangosfa. Yn fwy priodol, dechreuodd ddarlithio ar Shakespeare a chyfarwyddo dramâu ar Broadway ac mewn mannau eraill, gyda llwyddiant cymysg. Yn eu plith yr oedd cynhyrchiad ysgubol o Purple Dust gan Sean O'Casey a redodd am flwyddyn yn Greenwich Village.

Pan gafodd Moss Hart, cyfarwyddwr y sioe gerdd Camelot (â Richard Burton yn seren ynddi), drawiad ar y galon cyn i'r sioe agor ar Broadway yn 1960, P. H. Burton a ddaeth i'r adwy trwy gymryd yr ymarferion yn answyddogol ar yr unfed awr ar ddeg. Fe'i gelwid gan y wasg 'the back stage brains of Broadway.'

Roedd Burton wrth ei fodd ym mherfeddwlad theatr gerdd. O 1962 tan 69 ef oedd cyfarwyddwr cyntaf academi theatr gerdd yn Efrog Newydd. Yn fenter fasnachol ar y cychwyn, yn sgil trafferthion ariannol daeth yn sefydliad dielw o'r enw The American Musical and Dramatic Academy (AMDA). Burton oedd ei lywydd hefyd a gweithiodd yn galed i godi arian. Roedd yr athro penigamp yn ei elfen eto yn gweithio gyda phobl ifainc dawnus. Dysgodd yn AMDA tan 1970, gan ganolbwyntio'n arbennig ar lenyddiaeth ddramatig, rhethreg a llefaru barddoniaeth. Daeth hefyd yn is-lywydd gweithredol Cymdeithas Cyfarwyddwyr Llwyfan a Choreograffwyr Efrog Newydd. Sylwodd y Western Mail fod yr athro ysgol o Bort Talbot yn 'dylanwadu'n rhyfeddol ar fyd adloniant yn yr Unol Daleithiau.'

Ymhlith cyfeillion Burton roedd Noel Coward, Dorothy Parker, Sammy Davis Jr. a Bobby Kennedy. Ymddieithriodd oddi wrth Richard Burton pan ddechreuodd perthynas yr actor ag Elizabeth Taylor. Roedd Philip Burton wedi bod yn agos iawn at wraig Richard, Sybil a'u dwy ferch. Serch hynny, profodd y cwlwm rhwng yr athro a'i gyn-ddisgybl yn annatod, a bu iddynt gymodi ar ôl dwy flynedd pan gynorthwyodd Richard Burton yn ei ran fel Hamlet yn Toronto cyn agor yn Efrog Newydd. Buan y daeth i werthfawrogi Elizabeth Taylor. Ar ôl i'r actor farw cyhoeddodd lyfr dan y teitl Richard & Philip: The Burtons (1992). Yn ei rhagair dywedodd Taylor: 'Without Philip Burton there never would have been a Richard Burton.'

Roedd P. H. Burton yn brysur iawn yn y cyfnod hwn yn sgrifennu, yn darlithio ac yn cyfarwyddo. Cyfarwyddai ddramâu y tu allan i Efrog Newydd a mentrodd ar y cylch darlithio gyda Christian Alderson, cyn-ddisgybl yn AMDA. Roedd perfformiadau pwerus Burton yn gyfuniad o ddarlith a datganiad gan dynnu ar ei sgiliau a'i hoffterau mawr, ac aeth â'i gariad at lenyddiaeth, a Shakespeare yn enwedig, i liaws o leoliadau a chynulleidfaoedd ar draws America.

Cadarnhawyd ei enw fel arbenigwr ar Shakespeare gan gyhoeddiadau. Roedd You, My Brother (1973) yn nofel hir yn adrodd hanes Ned, brawd iau William Shakespeare, ond ei waith gorau oedd The Sole Voice: Character Portraits from Shakespeare (1970). Ysgrifennodd hefyd Early Doors. My Life and the Theatre (1969), gan ei alw 'the theatrical autobiography of a stage-struck man.'

Yn 1964, wrth ddychwelyd o ddarlith ym Mexico City ac ar ei ffordd i un arall ym Miami, ymwelodd Burton â'r Florida Keys. Cyn hir byddai'n treulio'r gaeaf yn sgrifennu yn Key West a'r haf yn ôl yn y dwyrain. Yn sgil dau drawiad ar y galon yn syth ar ôl ei gilydd penderfynodd symud i fyw yn barhaol yn hinsawdd cynnes ac ymlaciol Key West. Cafodd Christian Alderson hyd i dy ar Angela Street a gofalodd am ei adnewyddu.

Er na fyddai bellach yn dychwelyd i Gymru am wyliau, cadwodd Burton gyswllt â ffrindiau fel ei hen gydweithiwr yn y BBC, Aneirin Talfan Davies, a sawl un o'i gyn-ddisgyblion yng Nghymru a thu hwnt, gan sgrifennu llythyrau hir yn ei law dwt a manwl-gywir. Byddai Richard Burton yn ymweld ag ef, er i'r actor farw dros ddegawd cyn ei athro. Yn wyth a phedwar ugain oed, bu P. H. Burton yn destun rhaglen ddogfen gan HTV. Yr adroddwr oedd Brinley Jenkins, cyn-ddisgybl a ddaeth yn actor profiadol gyda'r BBC yn y Gymraeg a'r Saesneg. Daliodd Burton ati i roi darlith-ddatganiadau, sgrifennodd ragor o ffuglen (anghyhoeddedig), a bu'n brysur yn ei eglwys leol. Roedd ganddo lyfrgell o fwy na 5,000 o lyfrau, ac roedd wrth ei fodd yn mynd am dro yn y bore bach.

Yn 1993 symudodd Burton i gartref nyrsio Episcopalaidd yn Davenport, Florida. Bu farw o strôc yn ysbyty Heart of Florida, Haines City ar 28 Ionawr 1995, yn ddeg a phedwar ugain oed. Er yn gyson yn ei ymroddiad i ddrama Shakespearaidd, roedd y dyn dawnus hwn wedi ei ail-ddyfeisio ei hun droeon mewn amryw leoedd. Efallai fod hynny'n esbonio pam na werthfawrogwyd ei gyraeddiadau yn llawn. Mynnodd, yn addas iawn, fod ei lwch yn cael ei rannu rhwng tri lleoliad: Harbwr Efrog Newydd, Stratford-upon-Avon ac Aberpennar.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-10-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.