Ganwyd 17 Ebrill 1903 yn 20 Goodman Street, Llanberis, Sir Gaernarfon, mab William Rowland Hughes a'i wraig May, merch Thomas Morydd Owen. Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Dolbadarn, ysgol sir Brynrefail, a choleg y Brifysgol, Bangor, lle y graddiodd, 1925, gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf yn y Saesneg a'r Gymraeg. Ym mis Medi 1926 aeth yn athro i ysgol sir y Bechgyn, Aberdâr, lle y bu am ddwy flynedd. Graddiodd yn M.A. ac ar bwys cymrodoriaeth a gafodd gan ei hen goleg aeth i Rydychen lle yr enillodd radd B.Litt. am waith ymchwil ar lenyddiaeth gyfnodol Lloegr yn y 19eg ganrif. Bu'n ddarlithydd mewn Saesneg a Chymraeg yng ngholeg Harlech, 1930-33. Priododd, 26 Awst 1933, Eirene, merch Tom Williams, Cwm Ogwr, a'i wraig. Yn haf 1934 dewiswyd ef yn bennaeth y Mary Ward Settlement, Llundain, ac, yn 1935, yn drefnydd rhaglenni nodwedd i'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, Caerdydd.
Enillodd gadair eisteddfod genedlaethol Machynlleth, 1937, am awdl, 'Y Ffin', a chadair eisteddfod genedlaethol y radio (a oedd i'w chynnal yn Aberpennar) yn 1940 am awdl, 'Pererinion'. Tua'r adeg yma cyfansoddodd ddrama hir, 'Y Ffordd' ar helyntion Beca; cyfieithiwyd hon i'r Saesneg. Efe a gyfansoddodd y ddrama radio Gymraeg gyntaf; efe hefyd a olygodd storïau W. J. Griffith, Storïau'r Henllys Fawr , ar gyfer y wasg (1938). Addasodd stori 'Yr Hogyn Drwg' (R. Hughes Williams) yn ddrama ar gyfer y radio. Tua 1937 goddiweddwyd ef gan afiechyd blin y sglerosis cyffredinol ond daliodd ymlaen â'i waith am rai blynyddoedd gan geisio gwellhad. Yn ystod ei waeledd y dechreuodd ysgrifennu nofelau. Cyhoeddwyd y gyntaf, O Law i Law, yn yn 1943 a gwelwyd fod nofelydd o faintioli uwchlaw'r cyffredin wedi codi unwaith eto yng Nghymru. Dilynwyd y nofel hon gan nofelau eraill a gyhoeddid bob Nadolig - William Jones, Yr Ogof, Chwalfa , a Y Cychwyn. Ag eithrio Yr Ogof, y chwareli yw cefndir y nofelau a cheir yn William Jones fywyd cymoedd y de. Nadolig 1948, ac yntau'n bur wael erbyn hynny, cafwyd cyfrol o farddoniaeth ganddo (ac nid nofel), Cân neu Ddwy. Yn 1949 cafodd radd D.Litt. ('er anrhydedd') Prifysgol Cymru a'r un flwyddyn cafodd bensiwn sifil y Llywodraeth. Bu farw 24 Hydref 1949. Yn haf y flwyddyn ddilynol cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o O Law i Law, a gafodd dderbyniad rhagorol gan rai o feirniaid Lloegr. Ar ôl Daniel Owen ef oedd nofelydd mwyaf cynhyrchiol Cymru. Mwynder, hynawsedd, a charedigrwydd sydd yn nodweddu ei waith, a dewrder ei brif gymeriadau. Ei nofelau ef yn ei gyfnod a werthai orau.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.