Ganwyd ym Mwlan, Aberffraw, Môn, 15 Medi 1875, mab Thomas Lewis Griffith, amaethwr a phrisiwr tir, a Margaret Griffith, Bwlan. Aeth y teulu i fyw i fferm Cefn Coch, Llansadwrn, ger Biwmares, ac yno y bu W. J. Griffith yn byw nes bod yn 24 mlwydd oed. Addysgwyd ef yn ysgol Llansadwrn, ac ysgol ramadeg Biwmares; enillodd ysgoloriaeth amaethyddol i Goleg y Brifysgol, Bangor, a chymerodd y cwrs byr yno. Symudodd y tad i'w hen gartref, Henllys Fawr, Aberffraw, gan adael W. J. Griffith i ofalu am Gefn Coch, ond ymhen rhyw dair blynedd symudodd yntau i'r Henllys Fawr, lle bu'n byw weddill ei oes. Ymunodd â'r fyddin yn 1914, a rhyddhawyd ef yn 1916, ar farwolaeth ei dad, i ofalu am y fferm. Yr oedd yn amaethwr medrus. Bu farw 7 Hydref 1931. Ni bu yn briod. Dechreuodd ysgrifennu dramodau byrion at wasanaeth cwmnïau lleol yn weddol gynnar ond ni ddaeth i amlygrwydd nes i'w storïau byr, hynod ddigrif, ymddangos yn Y Genedl Gymreig. Enillodd wobr eisteddfod Y Genedl gyda'i stori, ' Eos y Pentan,' yn 1924. Ymhen y flwyddyn cyhoeddwyd ei ' Yr Hen Siandri ' yn yr un papur, ac o hynny ymlaen yr oedd ei le yn sicr. Ysgrifennodd bum stori arall i'r Genedl, ac amryw ysgrifau. Yn 1938 cyhoeddwyd y storïau yn llyfr, wedi eu golygu gan T. Rowland Hughes, dan y teitl Storïau'r Henllys Fawr (Gwasg Aberystwyth). Yr oedd ei hiwmor yn ogleisiol, ond nid digrifwch yn unig sydd yn ei waith. Ceir yn y storiau awyrgylch bywyd gwlad a sylfaen o athroniaeth a sylwadaeth y gwladwr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.