JONES, DAVID (1789? - 1841), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hanesydd

Enw: David Jones
Dyddiad geni: 1789?
Dyddiad marw: 1841
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd mae'n debyg, yng Nghaerfyrddin, yn 1789 yn ôl carreg ei fedd, ond yn 1791 ar ei air ef ei hunan (Bed. Deheubarth, 443); collodd ei dad yn 1800. Bedyddiwyd ef gan Titus Lewis, Chwefror 1804; dechreuodd bregethu yn 1811. Tua diwedd 1812 aeth i Ferthyr Tydfil i swyddfa argraffu; yn ei sêl i sefydlu achos Saesneg yno (gweler dan Evans, Henry), esgeulusodd ei waith a chollodd ei le. Derbyniwyd ef i athrofa'r Fenni yn Hydref 1813, a bu yno hyd ddiwedd 1815 neu ddechrau 1816; gwnaeth yn rhagorol yn ei arholiadau a bu wedyn yn casglu at yr athrofa. Ar ddydd Calan, 1817, yn Nhabernacl Caerfyrddin, urddwyd ef yn weinidog teithiol; bu wrthi yn sir Henffordd hyd ddiwedd 1819 efallai; erbyn 1822 yr oedd yn Derbyshire, hyd 1828. Yn Awst 1828 sefydlodd eglwys Saesneg yn Abersychan; tua Chwefror 1830 aeth i eglwys Saesneg Bethania yn Hwlffordd. Ni bu'n hapus yno, ac ymadawodd tua diwedd 1832, pan aeth i eglwys (Gymraeg?) Pithay ym Mryste; ond o 1834 bu heb ofalaeth am flynyddoedd, gan fyw yng Nghaerfyrddin; clywir amdano'n pregethu mewn cymanfaoedd, yn y Gogledd a'r De, yn 1835-6.

Yn 1836 dechreuodd deithio i gasglu defnyddiau at sgrifennu hanes ei enwad yn y Deheudir; ymddangosodd y rhan gyntaf o'r gwaith ym Medi 1837 a chwplawyd ef yn Ebrill 1839. Ond yn herwydd tlodi'r awdur, a'i siomi gan y sawl a addawsai brynu'r llyfr, ni allai dalu i'r argraffydd, a charcharwyd ef yng Nghaerfyrddin am y ddyled - yr oedd yng ngharchar ddechrau Chwefror 1840, ond ni wyddys pa gyhyd y bu yno. Ar ei ryddhad, sefydlwyd ef yn weinidog eglwys Saesneg Rhymni; yno y bu farw 26 Gorffennaf 1841, a'i gladdu ym mynwent y Bedyddwyr yn Nhredegar. Gadawodd weddw ac amryw blant, mewn amgylchiadau cyfyng.

Nid am ei ysgrifau yn Y Greal, na'i farwnad i Samuel Breeze, y cofir y gŵr adfydus hwn, eithr am ei Hanes y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru, 852 tudalen. Beirniadwyd y gwaith hwn yn llym, o'i ymddangosiad hyd heddiw. Ar wahân i ansadrwydd rhai o'i ffynonellau, y mae'n aml yn anodd iawn cael hyd i bethau ynddo, yn herwydd arfer fynych David Jones o daflu dros ei ysgwydd megis, dan bennawd eglwys A, wybodaeth bwysig am eglwys B; ac wrth raid, y mae'r manylion bywgraffyddol (e.e. amdano ef ei hunan) ar chwâl drwy'r llyfr, heb fynegai i'n galluogi i ddilyn gyrfa gweinidog yn hwylus o'i dechrau i'w diwedd. Eto i gyd, y mae'r llyfr yn gwbl anhepgor i'r sawl a fyn astudio ei bwnc. Hyd at 1788, mae'n wir, nid yw'n fawr mwy nag ailadroddiad o Joshua Thomas, ond hwn yw'r unig lyfr cyffredinol ar hanes yr enwad yn y Deheudir yn yr hanner canrif dilynol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.