EVANS, HENRY (fl. 1787-1839), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Arminaidd

Enw: Henry Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr Arminaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Crynhoir yma'r ychydig iawn a wyddys amdano, er hwylustod i chwilotwyr: ganwyd yn nhref Caerfyrddin; yr oedd yn aelod yn y Porth Tywyll, a dechreuodd bregethu yn 1787. O 1788 hyd 1791 yr oedd yn academi'r Bedyddwyr ym Mryste. Yn 1791 yr oedd yn byw ym Merthyr Tydfil; nid yw'n eglur a oedd mewn gofalaeth, ond y mae'n sicr fod ganddo gapel yno'n ddiweddarach, ac ymddengys eglwys Bedyddwyr Cyffredinol Merthyr Tydfil yn rhestr Titus Lewis, 1810, a argraffwyd gan David Peter ar ddiwedd ei Hanes Crefydd yng Nghymru. Sut bynnag, ar 5 Rhagfyr 1792 urddwyd Evans yn weinidog ar Fedyddwyr Cyffredinol Craig-y-fargod (gweler dan Winter, Charles) gan David Saunders o Aberduar a Morgan John Rhys (Rippon, Baptist Register, i, 523) - arwydd bod yr eglwys honno bellach yn closio at ei chyd- Fedyddwyr unwaith eto. Ceir Henry Evans yn arwyddo cofnodion cymanfa'r Bedyddwyr Cyffredinol pan gyfarfu honno yng Nghraig-y-fargod yn 1809 (Monthly Repository, 1809, 695). Nid yw'n eglur er hynny nad oedd yn dal i fyw ym Merthyr ar hyd yr amser. Yn 1814, rhyw ' W. Rees ' oedd yng Nghraig-y-fargod (Monthly Repository, 1814, 64 - cofnodion cymanfa'r Undodiaid, sylwer). Dihoenodd Craig-y-fargod; caewyd y capel cyn 1830, a gwerthwyd ef i'r Annibynwyr yn 1833 (Hanes Egl. Ann., ii, 311-2). A dihoenodd achos Henry Evans ym Merthyr hefyd. Prynwyd eu capel yn 1812-13 gan y Bedyddwyr Neilltuol, i'w ddefnyddio fel capel Saesneg (D. Jones, Hanes y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru, 592 - bu gan D. Jones, a oedd ar y pryd yn argraffydd ym Merthyr Tydfil, law yn y pryniad). Ni wyddys ddim o hanes Evans wedyn, ond yr oedd eto'n fyw yn 1839 (Hanes y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru, 440).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.