WINTER, CHARLES (1700-1773), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Arminaidd

Enw: Charles Winter
Dyddiad geni: 1700
Dyddiad marw: 1773
Rhiant: Francis Winter
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr Arminaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Mab i Francis Winter, ffermwr cefnog ym Medwellty. Prentisiwyd ef i feddyg yng Nghasnewydd, ond dychwelodd adre, ymunodd â Bedyddwyr Hengoed, dechreuodd bregethu, ac aeth i academi Caerfyrddin dan Perrott. Yno, troes yn Armin. Tueddai eraill yn Hengoed i'r un cyfeiriad, megis Rees David a Jacob Isaac (isod). Ar ôl dadl frwd yng nghymanfa'r Bedyddwyr, pan gyfarfu honno yn Hengoed yn 1730 (yr oedd Abel Francis hefyd yn bresennol), cydsyniodd Winter (ond nid David a Jacob) i gymrodeddu, ac yn wir urddwyd ef wedyn yn gynorthwywr i Morgan Griffith (bu farw 1738), gweinidog yr eglwys. Ar farw Griffith, dymunai rhai godi Winter yn weinidog, ond gwell fu gan y mwyafrif Griffith Jones o Ben-y-fai, a chydweithiodd Winter ag ef yn gyfeillgar. Ond pan ymfudodd Jones (1749) i America, atgyfodwyd y dadlau, a'r tro hwn torrwyd Winter allan. Penderfynodd yntau godi achos i'r Bedyddwyr Cyffredinol, yng nghwmni'r sawl a aethai allan yn 1730. Cawsant yn 1751 le i godi capel, yng Nghraig-y-fargod (Bedlinog); agorwyd y capel 28 Ionawr 1753, â 23 o aelodau yn y gynulleidfa. Yno y bu Winter hyd ei farw, 23 Ebrill 1773; claddwyd ym Medwellty. Sieryd Joshua Thomas â pharch mawr amdano. Ar hyd yr amser, gweithredai fel meddyg, ac 'yr oedd ganddo lawer o lyfrau ar wyddoniaeth yn ei llyfrgell.'

Dilynwyd ef fel bugail gan Morgan Thomas, gwr o Sir Gaerfyrddin, a fu farw yn 1774. Gweinidog nesaf Craig-y-fargod oedd

JACOB ISAAC

Yr oedd hwnnw'n wyr i'r Jacob Isaac (uchod) a oedd eisoes yn 1717 wedi bod yn gwingo yn erbyn 'union gred' ac a drowyd allan o Hengoed yn 1730, gan ymuno wedyn ag Annibynwyr Penmain. Ordeiniwyd Jacob Isaac yr wyr yn 1777, gan weinidogion Presbyteraidd (ac Ariaidd gan mwyaf), am na ellid cael gweinidog Bedyddiedig i weinyddu. Yn 1782, ymadawodd i Moreton (Dyfnaint), lle'r oedd eto'n fyw yn 1806. Ymhen ysbaid, olynwyd ef yng Nghraig-y-fargod gan ei frawd iau, Daniel Isaac; ond yn 1792 troes ef yn Undodwr, ac ymddiswyddodd, gan fod y gynulleidfa eto'n Drindodwyr. Am hanes pellach yr eglwys, gweler dan Evans, Henry (fl. 1787-1839).

Daeth Sarah ferch Jacob Isaac (ieu.) yn wraig i JAMES HEWS BRANSBY (1783 - 1847), gwr o Ipswich, yr adroddir ei yrfa (fraith) gan Alexander Gordon yn y D.N.B. Daeth ef (1 Mai 1803) yn weinidog Presbyteriaid Moreton Hampstead, ond symudodd i Dudley yn 1805 - a chadwai ysgol yn y ddau le. Gorfodwyd ef, yn herwydd ei 'odrwydd' (yr oedd yn llen-lleidr, yn 'Kleptomaniac', ac fel y drwgdybid yn ffugiwr ysgrifen) i ymado â Dudley yn 1820. Gyda'i wraig a'i mam Ann Isaac (1758 - 1839), ymsefydlodd yn 1829 yng Nghaernarfon, mewn ty o'r enw Bronhendre yn Hen-walia, i fyw ar gadw ysgol, newyddiadura a chynhyrchu mân lyfrau. Daeth yn bur amlwg yn y dref yn y tri-degau, fel Chwig yn ei wleidyddiaeth, o blaid y 'Reform Bill', ac fel gweithiwr dros Syr Charles Paget; ac yr oedd yn un o gychwynwyr y Caernarvon Herald (1831 - daeth wedyn yn Carn. and Denbigh Herald); bu am beth amser yn olygwr ar hwnnw. Yn ddiweddarach, ailddechreuodd bregethu. Hyd yn gymharol ddiweddar, yr oedd atgofion amdano i'w clywed yng Nghaernarfon. Y mae'r rhestr o'i lyfrau, yn y D.N.B., yn enwi nifer o lyfrau ar Gaernarfon a'r cyffiniau - gweler hefyd y Cardiff Welsh Library Catalogue. Bu farw'n ddisyfyd ar 4 Tachwedd 1847, 'yn 64 oed'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.