FRANCIS, ABEL (bu farw tua 1743), gweinidog Bedyddiedig Arminaidd

Enw: Abel Francis
Dyddiad marw: 1743
Rhiant: Francis Thomas Francis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Bedyddiedig Arminaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

mab i Francis Thomas Francis, a chyfyrder i Enoch Francis. Bu am faith flynyddoedd yn weinidog cynorthwyol yn ' eglwys Glannau Teifi,' gan lafurio, mae'n debyg, yn bennaf yn ardal Pencarreg lle'r oedd yn byw - yng nghofnod ei briodas yn 1733 (Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1948-9) disgrifir ef fel gŵr 'o Lanybydder neu'r cyffiniau.' Yn 1729, troes yn Armin, ac yn 1735 neu 1736 ymadawodd â'r Bedyddwyr ac aeth at y Presbyteriaid Annibynnol; dywedir (Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, i, 372) iddo ymaelodi yn eglwys Esgairdawe (a elwir heddiw'n Ffald-y-brenin).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.