Ganwyd ym Mhant-y-llaethdy ar lan Teifi, rhwng Llanllwni a Llanybydder, yn fab i Francis David Francis, o deulu â'i wreiddiau crefyddol yn Rhydwilym; gweler y daflen gan T. Shankland yn Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1911-2, a ddengys i 11 o leiaf ohonynt ddyfod yn weinidogion. Magwyd Enoch Francis yn ' eglwys Glannau Teifi,' naill ai yn ei chanolfan cyntaf, Glandŵr (Llandysul) neu yn y Dre-fach, neu'n debycach efallai yn Rhosgoch (Llanarth). Yn Llanllwni, tua 1707, y dechreuodd bregethu; ni wyddys pa bryd yr urddwyd ef yn gynorthwywr i James James (bu farw 1734), gweinidog yr eglwys, ond yn amlwg bu hynny cyn 1721, oblegid yn 1721 cyhoeddwyd ef i bregethu pregeth y Gymanfa yn Hengoed yn 1722. Yr oedd wedi priodi tua 1718 (Mary Evans, o'r Hengoed, oedd ei wraig), ac yn byw yng Nghapel Iago, Llanybydder. Argraffwyd ei bregeth gymanfa (Llangloffan), 1729; ailargraffwyd hi yn Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1911-2. Yn y ddadl Arminaidd, 1729, pan aeth ei gyfyrder Abel Francis drosodd at Arminiaeth, glynodd Enoch Francis wrth y Calfiniaid, ac yn 1733 cyhoeddodd Gair yn ei Bryd i amddffyn Calfiniaeth. Erbyn hynny, yr oedd wedi symud i Ben-y-gelli ar gwr Castellnewydd Emlyn, ac yn 1734 efe oedd prif weinidog eglwys Glannau Teifi, a phedwar neu bump o gynorthwywyr iddo, gan fod i'r eglwys nifer mawr o ganghennau a dyfodd wedyn yn eglwysi ar wahân, megis Aberduar, Pant Teg, etc. Cenhadai Enoch Francis yn ddyfal yn y cylch mawr hwn (a'r tu allan iddo hefyd), ac esgynnodd i fri dirfawr fel pregethwr - gellid meddwl oddi wrth eiriau Joshua Thomas ac eraill mai 'mawrhydi' a sobrwydd, yn hytrach na theimladrwydd 'diwygiadol,' a nodweddai ei bregethu. Yn Awst 1739 bu farw ei wraig; bu yntau farw (oddi cartref, yn Abergwaun) 4 Chwefror 1739-40, yn 51 oed; claddwyd y ddau yng Nghilfowyr. Cafodd chwech o blant; merch iddo oedd gwraig Stephen Davies, a meibion iddo oedd Jonathan Francis o Ben-y-fai a Benjamin Francis o Horsley. Fel y soniwyd, yr oedd Abel Francis yn gâr iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.