Penyfai, Morgannwg; ail fab Enoch Francis, Castellnewydd Emlyn. Yn fuan wedi claddu ei dad (Chwefror 1740) aeth i Bontypŵl. Wedi iddo ddechrau pregethu anogwyd ef i fyned i goleg Trosnant. Daeth tua 1743 i gymdogaeth Penyfai a bwriadodd fyned i athrofa Bryste, ond nid aeth. Priododd yn 1744 â merch y Fagwyr, plwyf Llangyfelach, a myned yno i fyw. Er bod Penyfai a'r Fagwyr am ei urddo'n fugail, dewisodd ei urddo ym Mhontypŵl lle'r oedd yn aelod. Bodlonodd gymryd Penyfai a'r Fagwyr yn 1747, a symud o'r Fagwyr ymhen amser i ardal Penyfai. Tua 1788, ymneilltuodd 15 oblegid Arminiaeth ac ymsefydlu yn y Notais, ac ymhen amser aethant yn Undodwyr. Ordeiniwyd ei fab Enoch yn Exeter, a gwnaed dau fab arall, Jonathan a Daniel, yn gynorthwywyr i'w tad. Bu'r tad farw 13 Medi 1801.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.